Dathlu 25 mlynedd o astudio hen ieithoedd Celtaidd yn Aberystwyth

Adeilad Parry Williams
03 Hydref 2025
Cynhelir cynhadledd i ddathlu dros 25 mlynedd o astudio hen ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn.
Heddiw siaredir ieithoedd Celtaidd mewn ychydig ardaloedd o orllewin Ewrop yn unig. Fodd bynnag, yn y canrifoedd cyn geni Crist, siaredid nhw yn eang dros rannau helaeth o Ewrop a hyd yn oed yn Asia Minor.
Mae mapio hyd a lled yr hen ieithoedd hyn yn anodd am fod y dystiolaeth uniongyrchol yn brin, a chyfran helaeth ohoni’n cynnwys enwau lleoedd a gofnodwyd mewn ffynonellau clasurol.
Ym 1999 cynhaliodd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd gynhadledd ryngwladol ar enwau lleoedd Celtaidd yn ‘Naearyddiaeth’ Ptolemi o tua’r flwyddyn 150 yr oes cyffredin.
Dyna ddigwyddiad a gychwynnodd cyfres o brosiectau ymchwil wedi’u harwain gan yr Athro Patrick Sims-Williams a chyfres o gynadleddau mewn prifysgolion Ewropeaidd a drawsffurfiodd ein dealltwriaeth o hyd a lled yr ieithoedd Celtaidd yn yr hen fyd.
Cynhelir y gynhadledd ryngwladol bresennol ar ddydd Sadwrn 25 Hydref i ddathlu gwaddol y prosiectau ymchwil pwysig hyn yn y gorffennol, a hefyd y ffaith bod yr astudiaeth o hen Gelteg yn parhau yn Aberystwyth.
Bydd Dr Simon Rodway a’r Dr Alexander Falileyev yn rhannu canfyddiadau ymchwil am hen dystiolaeth Geltaidd o Brydain ac Iwerddon gyda chydweithwyr o Sbaen, yr Almaen a thu hwnt.
Dywedodd y Dr Falileyev o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth:
“Rydym i gyd yn ddiolchgar ac yn ddyledus i Patrick Sims-Williams am ddechrau hyn yn Aberystwyth 25 mlynedd yn ôl. Nawr mae gennym gist arfau fwy manwl gywir i adnabod a mesur Celtigrwydd ieithyddol, a chanlyniad hyn oedd cyhoeddi ugeiniau o gyfrolau ar draws Ewrop yn y chwarter canrif ddiwethaf.
“Mae gwybodaeth a dadansoddiadau newydd yn gofyn am drafodaethau pellach, ac rydym ni’n hapus dros ben i ddiwallu’r angen hwn trwy drefnu’r gynhadledd ryngwladol hon – y cyntaf mewn degawd sy’n cael ei neilltuo yn gyfan gwbl i'r pwnc hwn. Bydd llawer o’r papurau gan gydweithwyr a oedd – mewn rhyw ffordd neu’i gilydd – yn y rhwydwaith a sefydlwyd gan Sims-Williams a chaiff gwahanol agweddau ar Geltigrwydd ieithyddol Prydain, Iwerddon a’r Cyfandir yn yr hen fyd eu trafod.
“Rydym ni hefyd gobeithio y bydd y gynhadledd yn cyfoethogi’n fawr dealltwriaeth ein myfyrwyr o rychwant yr hen ddeunydd Celtaidd sy’n cael ei astudio yn yr Adran yn Aberystwyth ochr yn ochr ag ieithoedd a llenyddiaethau Celtaidd canoloesol a modern.”
Dywedodd y Dr Rhianedd Jewell, Pennaeth yr Adran:
“Rydym ni fel Adran yn falch iawn o hyd a lled ein darpariaeth Astudiaethau Celtaidd a’r cysylltiadau gwerthfawr rydym ni’n eu rhannu â chydweithwyr yn y maes ar draws y byd. Gall myfyrwyr yn Aberystwyth astudio ystod ehangach o ieithoedd Celtaidd hen a modern yma nag mewn unrhyw sefydliad arall yn y Deyrnas Gyfunol. Bydd y gynhadledd hon yn ddathliad amserol o bwysigrwydd yr hen ieithoedd Celtaidd i’n Hadran, yn enwedig am ein bod hefyd yn dathlu ein pen-blwydd yn 150 eleni.’
Cynhelir y gynhadledd ar ddydd Sadwrn 25 Hydref yn Nhŷ Trafod ar Gampws Penglais y Brifysgol. Gellir dod i’r gynhadledd am ddim ac nid oes rhaid bwcio o flaen llaw.
AU23025