Astudio effaith hirdymor fepio ar iechyd yr ysgyfaint

Image by Mayukh Karmakar from Pixabay
07 Hydref 2025
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn rhan o brosiect gwerth £1.55m i ddarganfod risgiau a buddion hirdymor fepio ar iechyd ysgyfaint ysmygwyr.
Nod y prosiect yw mynd i'r afael â chwestiynau sydd heb eu hateb am effeithiau biolegol fepio ar gelloedd yr ysgyfaint, celloedd imiwnedd a marcwyr llidiol a microbiom y llwybr anadlu.
Yn wahanol i astudiaethau blaenorol a ystyriodd effeithiau ar iechyd yr ysgyfaint ar un adeg yn unig, bydd yr astudiaeth hon yn edrych ar effaith hirdymor fepio ar y system resbiradol dros gyfnod o flwyddyn.
Yr astudiaeth gyntaf o’i math, mae EVALUATE wedi derbyn £1.55m gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi y Deyrnas Gyfunol.
Bydd yr astudiaeth yn recriwtio 200 o ysmygwyr iach, gan gynnwys pobl sy'n ceisio rhoi'r gorau i ysmygu, yn ogystal â grŵp bach o bobl nad ydynt yn ysmygu i asesu iechyd eu hysgyfaint.
Dywedodd yr Athro Luis Mur o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae fepio yn aml yn cael ei ystyried yn ddewis mwy diogel na ysmygu, ond dydyn ni dal ddim yn gwybod digon am ei effaith hirdymor ar yr ysgyfaint. Felly mae'r ymchwil hon yn hanfodol, nid yn unig i wyddoniaeth, ond hefyd i iechyd y cyhoedd, fel y gall unigolion a llunwyr polisi wneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.”
Bydd yr Athro Mur yn ymchwilio i groniad gwenwynau yn y llwybrau anadlu ar ôl fepio. Ychwanegodd:
"Gan ddefnyddio ein llwyfannau sbectrosgopeg màs blaengar, gallwn ni fonitro sut mae gwenwynau yn y llwybrau anadlu yn newid wrth i bobl symud o ysmygu i fepio. Ynghyd â data ar swyddogaeth celloedd imiwnedd, bydd y dull rhyngddisgyblaethol hwn yn cynnig ffordd bwerus i ni ddarganfod gwir natur effaith bosibl e-sigaréts ar y llwybrau anadlu."
Ychwanegodd Dr Aaron Scott, Athro Cysylltiol mewn Gwyddor Anadlol ym Mhrifysgol Birmingham, a phrif ymchwilydd yr astudiaeth EVALUATE:
“Byddwn ni’n astudio sut mae fepio’n effeithio ar gelloedd imiwnedd pwysig y llwybr anadlu a’r celloedd epithelaidd sy’n leinio y tu mewn i’r ysgyfaint. Gan fod y mathau hyn o gelloedd yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad clefydau’r ysgyfaint sy’n gysylltiedig ag ysmygu, bydd y newidiadau hyn yn rhoi syniad clir i ni o sut mae fepio’n effeithio ar iechyd yr ysgyfaint.”
Mae’r astudiaeth yn cael ei harwain gan Brifysgol Birmingham, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerfaddon, ac Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Birmingham.