Dylai corff cynghorol iechyd newydd y byd gynnwys gwledydd incwm is – adroddiad

Dr Hannah Hughes
14 Hydref 2025
Mae angen i gorff newydd y Cenhedloedd Unedig fydd â'r dasg o ddarparu tystiolaeth i fynd i'r afael â chlefydau sy'n gwrthsefyll cyffuriau gynnwys gwledydd incwm is, yn ôl academydd o Aberystwyth.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi nodi ymwrthedd i gyffuriau – pan nad yw clefydau bellach yn ymateb cystal i wrthfiotigau a thriniaethau eraill – fel bygythiad mawr i iechyd cyhoeddus yn fyd-eang.
Mae'n tanseilio effeithiolrwydd meddyginiaethau y dibynnir arnynt mewn gofal iechyd dynol ac anifeiliaid, gyda goblygiadau difrifol i systemau iechyd ledled y byd.
Mae arbenigwyr yn dweud bod cynnydd heintiau sy'n gwrthsefyll cyffuriau, gan gynnwys Twbercwlosis ac MRSA, yn cael ei yrru gan ffactorau fel gor-ddefnyddio gwrthfiotigau, rheoli heintiau gwael, a theithio byd-eang.
Mewn ymateb i'r bygythiad cynyddol, ym mis Medi y llynedd, penderfynodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig sefydlu panel cynghori annibynnol i gefnogi ymdrechion byd-eang i fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd erbyn diwedd y flwyddyn hon.
Comisiynwyd Dr Hannah Hughes o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth gan y Ganolfan Datblygu Byd-eang i gynghori ar strwythurau'r corff newydd.
Mae ei hadroddiad yn tynnu gwersi o'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) - corff cynghori gwyddonol mwyaf y byd - i lywio strwythurau’r panel newydd.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ddau flaenoriaeth allweddol - sicrhau bod canfyddiadau gwyddonol yn cael eu trosi'n weithredoedd, a galluogi cyfranogiad ystyrlon gan wledydd incwm isel a chanolig.
Ymhlith yr argymhellion i'r Cenhedloedd Unedig, mae Dr Hughes yn cynnig sefydlu cronfa ymddiriedolaeth benodol i gefnogi cyfranogiad gwledydd incwm is a chanolig ac yn galw am gynrychiolaeth ddaearyddol ehangach o fewn y panel.
Dywedodd Dr Hannah Hughes o Brifysgol Aberystwyth, a fydd yn trafod y canfyddiadau hyn ymhellach mewn cyfarfod y Cenhedloedd Unedig yn ddiweddarach y mis hwn:
“Mae wedi bod yn anrhydedd cynnig cyngor am ddatblygiad y corff newydd hwn, sydd mor hanfodol i iechyd y byd i gyd.
“Mae ein hadroddiad yn tynnu ar brofiad yr IPCC ac yn nodi dau faes hollbwysig ar gyfer cyfnod dylunio cynnar y panel ymwrthedd microbaidd newydd: sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei gweithredu arni, a hwyluso cyfranogiad teg gan wledydd incwm isel a chanolig.
“Gwelsom ni fod cynnwys arbenigwyr a’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau yn y broses asesu yn hanfodol i sicrhau perthnasedd a hygrededd. Ar yr un pryd, mae cyfranogiad ystyrlon yn gofyn am fynd i’r afael â rhwystrau fel cyfyngiadau adnoddau, mynediad anghyfartal at lenyddiaeth wyddonol, a heriau wrth gynnal yr ymwneud dros amser.
“Mae mynd i’r afael â hyn yn gofyn am fuddsoddi mewn strategaethau adeiladu capasiti fel cronfeydd ymddiriedolaeth, cynrychiolaeth ranbarthol, meithrin sgiliau, a chefnogaeth i leisiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae’r ddau flaenoriaeth hyn – gwybodaeth y gellir gweithredu arni a chyfranogiad cynhwysol – yn gysylltiedig â’i gilydd. Rhaid i banel ymwrthedd gwrthficrobaidd llwyddiannus fod yn sefydliad dysgu – yn agored i fyfyrio, yn ymatebol i adborth, ac yn gallu addasu ei arferion.
“Yn y pen draw, bydd llwyddiant yn dibynnu ar gydbwyso awdurdod gwyddonol â chynhwysiant, a chynhyrchu allbynnau sy’n gyfreithlon, yn ddibynadwy, ac yn weithredadwy ar draws cyd-destunau amrywiol.”
Mae Dr Hughes wedi bod yn ymchwilio i’r IPCC ers 2008 ac wedi cyhoeddi destun arwyddocaol ‘The IPCC and the Politics of Writing Climate Change’ yn 2024. Ar gyfer yr adroddiad diweddaraf hwn, cynhaliodd gyfres o drafodaethau bwrdd crwn gydag arbenigwyr yr IPCC i adnabod gwersi allweddol sy’n berthnasol i’r corff newydd. Cyflwynodd y canfyddiadau drafft mewn cyfarfod rhyngwladol yn Lagos, Nigeria, ym mis Ebrill eleni.
Bydd yr adroddiad terfynol yn rhan o ymgynghoriadau parhaus â llywodraethau a rhanddeiliaid ar strwythur y panel ymwrthedd gwrthficrobaidd newydd.
Ychwanegodd Anthony McDonnell, o'r Ganolfan Datblygu Byd-eang a chyd-awdur y papur:
“Wrth i'r Cenhedloedd Unedig edrych i sefydlu panel gwyddonol annibynnol ar ymwrthedd gwrthficrobaidd, mae'r IPCC yn cynnig astudiaeth achos ddefnyddiol. Yn yr adroddiad hwn, mae Hannah Hughes yn tynnu’n fedrus ar wersi degawdau o ymgysylltu gwyddoniaeth-polisi hinsawdd, gan ddangos sut y gall paneli byd-eang gydbwyso awdurdod â chynhwysiant, a sut y gall dewisiadau dylunio wneud y gwahaniaeth rhwng adroddiadau sy'n eistedd ar y silff a'r rhai sy'n sbarduno gweithredu. Bydd ei mewnwelediadau yn amhrisiadwy wrth i ymgynghoriadau symud ymlaen ar y panel Ymwrthedd Gwrthficrobaidd yn y dyfodol.”