Hanes dewiniaeth yng Nghymru yn ysbrydoli nofel frawychus newydd

Mari Ellis Dunning
17 Hydref 2025
Mae nofel frawychus sydd wedi’i hysbrydoli gan hanes anghofiedig dewiniaeth yng Nghymru wedi’i chyhoeddi gan ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Wedi’i gosod yng Nghymru’r unfed ganrif ar bymtheg, ymysg glaw di-baid a chnydau sy’n methu, cyhuddir bydwraig o ddewiniaeth ac yna mae eu chymdogion yn troi yn ei herbyn.
Drwy lygaid menyw fonedd ddiniwed, mae’r darlithydd cyswllt, Mari Ellis Dunning, yn gweu chwedl dywyll o amheuaeth ac ofn.
Mae ei nofel hudolus, sydd wedi’i gwreiddio mewn traddodiad a realaeth, yn adrodd stori sy’n llawn ffeministiaeth gref a fydd yn dal dychymyg darllenwyr ffuglen am wrachod.
Dywedodd awdur y nofel newydd, Mari Ellis Dunning, sy’n ddarlithydd cyswllt yn Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth:
“Mae straeon am y menywod a oedd yn ymwneud â’r treialon gwrachod o'r cyfnod modern cynnar yn teimlo’n fwy perthnasol nag erioed ar hyn o bryd o ystyried sefyllfa hawliau cenhedlu benywaidd a hunanreolaeth y corff ar draws y byd.”
“Mae’r llyfr wedi tynnu ar fy ymchwil i Gymru’r cyfnod modern cynnar - gwlad a oedd yn unigryw yn ei hagwedd at ddewiniaeth. Gwnaeth yr elfennau penodol o ddiwylliant Cymru, gan gynnwys ofergoelion a chrefydd, atal y treialon gwrachod a welwyd ledled gweddill Prydain ac Ewrop.
“Mewn gwirionedd, mae’r wrach wedi’i thrwytho yn niwylliant Cymru. Mae dyfalu ymhlith rhai ymchwilwyr bod yr het ddu sy’n rhan o’r wisg draddodiadol Gymreig wedi bod yn ysbrydoliaeth ar gyfer het lydan y wrach chwedlonol. Eto i gyd, ni welodd Cymru unrhyw helfa wrachod. Gobeithio y bydd y llyfr yn ddifyr, ond hefyd yn cynnig dirnadaeth i bobl o rywfaint o’n hanes ni hefyd.”
Cyrhaeddodd casgliad cyntaf o farddoniaeth Mari Ellis Dunnig, ‘Salacia’, restr fer Llyfr y Flwyddyn. Dewiswyd ei hail gasgliad, ‘Pearl and Bone’, yn Ddewis Barddoniaeth Rhif 1 y Wales Arts Review yn 2022. Mae hi newydd ddechrau dysgu modiwl newydd yn y Brifysgol am fenywod sy’n ysgrifennu.
Caiff ei llyfr newydd ei lansio am 5:30yh ar ddydd Gwener 31 Hydref yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
AU21825