Atal erchyllterau yw ffocws tîm ymchwil newydd

Grŵp Ymchwil PEACE

Grŵp Ymchwil PEACE

30 Hydref 2025

Mae grŵp newydd a fydd yn hybu ymdrechion i atal camddefnydd grym ledled y byd wedi’i lansio gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Wedi’i sefydlu gan Dr Dakota Ward o Adran Cyfraith a Throseddeg y Brifysgol, bydd y tîm ymchwil newydd yn ystyried ymdrechion i wrthwynebu camddefnyddio a chamfanteisio ar bobl, grym, swyddi a llwyfannau.

Mae gan Brifysgol Aberystwyth enw da am ymchwil i astudiaethau heddwch, gan gynnwys ariannu grwpiau y mae gwrthdaro yn effeithio arnynt ledled y byd i helpu i greu mannau diogel.

Bydd y grŵp ymchwil newydd ar gyfer Atal Camfanteisio, Erchyllterau, Llygredd ac Eithafiaeth (PEACE) yn anelu at gysylltu staff a myfyrwyr â phartneriaid allanol i hybu cydweithredu lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Ei ffocws cychwynnol fydd datblygu dulliau o ddeall ac atal camfanteisio, erchyllterau, llygredd ac eithafiaeth.

Mae'r Llys Troseddol Rhyngwladol wedi cyhuddo’n gyhoeddus 73 o bobl am hil-laddiad, troseddau yn erbyn y ddynoliaeth, troseddau rhyfel, ymddygiad ymosodol neu ddirmyg llys, mewn gwledydd gan gynnwys Afghanistan, Georgia, Libya, Palesteina, Uganda ac Wcráin.

Yn ddiweddar, dyfarnodd Sefydliad Atal Hil-Laddiad ac Erchyllterau Torfol yn yr Unol Daleithiau Gymrodoriaeth Gyfadrannol Charles E. Scheidtmewn Atal Erchyllterau i Dr Ward, yr academydd sydd wedi sefydlu'r tîm newydd. Dywedodd:

“Yn drasig iawn, mae rhestr hir o erchyllterau a cham-drin yn digwydd yn y byd heddiw. Rwy'n gobeithio y bydd y grŵp newydd yn gweithredu fel canolfan ar gyfer astudio materion a all helpu i fynd i'r afael â'r heriau byd-eang mawr hyn neu i’w datrys.

“Mae llawer o brosiectau eisoes ar waith yma yn y Brifysgol sy'n gwneud gwahaniaeth – yn edrych ar ddatrys gwrthdaro, mudo a thrawma. Mae hyn oll yn pwysleisio bod gan Aberystwyth ymrwymiad cryf a hirhoedlog i fod yn sefydliad rhyngwladol blaenllaw sy’n chwilio am atebion i faterion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

“Ein nod yw meithrin ymchwil gadarnhaol, gynhyrchiol, greadigol, gadarn ac agored. Yn rhannol, mae hyn yn golygu dod o hyd i faterion a meysydd newydd ar gyfer ymdrechion ar y cyd, yn ogystal â hyrwyddo astudiaethau a digwyddiadau annibynnol.”

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y grŵp ymchwil PEACE newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yma: Grŵp Ymchwil PEACE  : Adran Y Gyfraith a Throseddeg , Prifysgol Aberystwyth

AU21925