Coffáu ffoaduriaid rhyfel mewn arddangosfa Senedd

Lansiad yr arddangosfa yn y Senedd gyda'r Athro Andrea Hammel a'r Llywydd Elin Jones AS

Lansiad yr arddangosfa yn y Senedd gyda'r Athro Andrea Hammel a'r Llywydd Elin Jones AS

14 Tachwedd 2025

Mae arddangosfa yn y Senedd am effaith rhyfel a dadleoli yng Nghymru sy’n coffáu ffoaduriaid rhyfel wedi’i hagor gan Weinidog o Lywodraeth Cymru.

Wedi'i churadu gan ymchwilwyr o’r Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae'r arddangosfa yn dwyn ynghyd weithiau celf ac arteffactau gan bobl a gafodd eu dadleoli i Gymru ar ôl ffoi rhag rhyfel a thrais yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. 

Mae'n adrodd straeon ffoaduriaid, carcharorion rhyfel, a faciwîs o bob cwr o Brydain a geisiodd noddfa yng Nghymru.

Noddir gan y Llywydd ac Aelod o’r Senedd dros Geredigion Elin Jones, mae'r arddangosfa hefyd yn tynnu sylw at brofiadau rhai sydd wedi cyrraedd yn fwy diweddar, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u dadleoli gan wrthdaro yn yr Wcráin a Syria.

Un o'r gweithiau sy'n cael eu harddangos fydd cadair Eisteddfod 1923 wedi'i cherfio'n gywrain gan Emile de Vynk, ffoadur o Wlad Belg a gafodd gynnig lloches yng Nghricieth ym 1914, ar ôl ffoi rhag rhyfela’r Rhyfel Byd Cyntaf. 

Mae paentiadau gan Fred Uhlman, artist Iddewig a erlidiwyd gan y Natsïaid, hefyd wedi'u cynnwys, ochr yn ochr â ffotograffau atgofus o blant Gwlad y Basg a symudwyd ym 1937 a faciwîs o Loegr o 1940 ymlaen.

Dywedodd Andrea Hammel, Athro Almaeneg a Chyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl:

"Nod yr arddangosfa hon yw tynnu sylw at hanes hir y dadleoli a achosir gan ryfel.  Er bod coffáu diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop yn gynharach eleni yn canolbwyntio'n bennaf ar ymladdwyr a chymunedau lleol, rydym eisiau dangos profiad y rhai a oedd yn gorfod gadael eu cartrefi. Erbyn 1945 roedd 60 miliwn o bobl wedi'u dadleoli yn Ewrop yn unig, ac roedd Cymru yn darparu noddfa i lawer."

Mae'r arddangosfa yn cyferbynnu celf ac arteffactau hanesyddol â gweithiau cyfoes gan artistiaid proffesiynol a chymunedol o Syria a'r Wcráin sydd wedi ailymgartrefu yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf.

Yn siarad yn y lansiad yn y Senedd ar Ddydd y Cofio, ychwanegodd y Gweinidog Diwylliant Jack Sargeant AS:

"Mae'r arddangosfa bwerus hon yn ein hatgoffa bod gan Gymru hanes balch o gynnig lloches i'r rhai sy'n ffoi rhag gwrthdaro ac erledigaeth, gan agor ei drysau'n gyson i bobl yn yr adegau anoddaf. Wrth i ni nodi Dydd y Cofio, mae'n briodol ein bod yn myfyrio nid yn unig ar y rhai a ymladdodd, ond hefyd ar y dinistr i fywydau miliynau o sifiliaid a gafodd ei achosi gan ryfel.

“Mae'r straeon sy’n cael eu hadrodd drwy'r gweithiau celf a'r arteffactau hyn yn ennyn ymateb cryf iawn – maen nhw’n tynnu sylw at wydnwch, gobaith, a'r awydd dynol cyffredinol am ddiogelwch a heddwch. Maen nhw hefyd yn ein hatgoffa o’r pris uchel a gafodd ei dalu am ein heddwch a'n diogelwch heddiw, drwy aberthau pobl o lawer o wledydd a chenhedloedd a ymladdodd i amddiffyn rhyddid ac urddas dynol.”

Bydd yr arddangosfa i'w gweld yn Oriel y Senedd tan 22 Ionawr 2025.

 

AU27725