Taith gerdded elusennol y Brifysgol yn codi arian ar gyfer HAHAV

Is-ganghellor, yr Athro Jon Timmis a staff y Brifysgol yn cyflwyno siec i Gwerfyl Pierce Jones, cadeirydd HAHAV Ceredigion.
20 Tachwedd 2025
Cyflwynodd staff Prifysgol Aberystwyth siec am dros £5,000 i HAHAV Ceredigion, Elusen y Flwyddyn y Brifysgol ar gyfer 2024-25.
Mae HAHAV yn sefydliad a arweinir gan wirfoddolwyr sy’n cefnogi pobl ledled Ceredigion sy'n byw gyda salwch na ellir ei wella neu sy’n cyfyngu ar eu bywyd. Mae ei wasanaethau'n cynnwys cymorth yn y cartref, cwnsela ar gyfer profedigaeth, ac amrywiaeth o weithgareddau lles yn y Ganolfan Byw'n Dda ym Mhenparcau, Aberystwyth ac ar draws y sir.
Uchafbwynt ymdrechion codi arian y flwyddyn gan staff y Brifysgol oedd taith gerdded 46 milltir, sef 'Her Dwy Afon Aberystwyth'.
Cynhaliwyd y daith ym mis Gorffennaf ac roedd yn dilyn llif yr Afon Rheidol a’r Afon Ystwyth. Gan ddechrau a gorffen yn harbwr Aberystwyth, teithiodd y cyfranogwyr i fyny'r afon at gronfa ddŵr Nant y Moch, gwersylla dros nos, ac yna dod i lawr ar hyd afon Ystwyth trwy Ystâd godidog yr Hafod yn ôl i aber yr afon yn Aberystwyth.
Ymdrech greadigol arall i godi arian oedd cân Nadolig gan y darlithydd Seicoleg Dr Gareth Hall. Rhyddhawyd y gânChristmas Ends Too Soon, a gyd-ysgrifennwyd gan Léanie Kaleido a Michael Grant, ac a berfformiwyd gan fand lleol, PAPER JAM, ym mis Tachwedd 2024, gyda'r holl elw yn cael ei roi i HAHAV.
Roedd gweithgareddau codi arian eraill yn cynnwys tîm Aber10k, casgliad adeg graddio ac arddangosfa Nadoligaidd wrth fynedfa Campws Penglais y Brifysgol.
Dywedodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
"Mae wedi bod yn fraint cefnogi HAHAV. Mae eu gwaith o fudd i gymaint yn ein cymuned. O greadigrwydd cerddorol i ddygnwch corfforol, mae ein hymdrechion i godi arian wedi adlewyrchu calon ac ysbryd Aberystwyth, ac rwy'n falch o'n staff am eu brwdfrydedd a'u haelioni."
Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, cadeirydd HAHAV Ceredigion:
"Rydym yn ddiolchgar iawn i Brifysgol Aberystwyth am ei chefnogaeth dros y 12 mis diwethaf. Bydd y rhodd anhygoel hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth i ni barhau i ddatblygu ein Canolfan Byw'n Dda ac ehangu ein gwasanaethau cymorth yn y cartref ledled Ceredigion. Bydd cyfraniad y Brifysgol yn cael effaith barhaol ar fywydau'r rhai rydyn ni'n eu cefnogi."
AU22625
