Ioan Mabbutt o Aberystwyth yn ennill Ysgoloriaeth ‘Defi Fet’ y Coleg Cymraeg

Ioan Mabbutt
24 Tachwedd 2025
Ioan Mabbutt, 18 oed o Aberystwyth, sydd wedi ennill ysgoloriaeth gwerth £2,500 i astudio Milfeddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Ysgoloriaeth ‘Defi Fet’ yn cael ei rhoi yn flynyddol i gefnogi myfyriwr sy’n astudio milfeddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Ysgol Gwyddorau Milfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr unig fan mae modd astudio Milfeddygaeth yng Nghymru.
Dywedodd Ioan, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth,
“Dwi wedi bod â diddordeb mewn gofalu ar ôl anifeiliaid ers o’n i’n grwt bach yn ymweld â fferm tad-cu yn Llanwrtyd.
“Dwi wedi gweld sut mae clefydon yn gallu effeithio ar anifeiliaid fferm a bywoliaeth perchnogion
“Dwi i wedi bod ar brofiad gwaith yn treulio amser gyda milfeddygon i ddeall a dysgu mwy am y clefyd TB, felly rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu fy mhrofiad gan obeithio cyfrannu at wneud gwahaniaeth yn y maes.”
Cafodd yr ysgoloriaeth ei sefydlu ar y cyd rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth er cof am filfeddyg adnabyddus ac uchel iawn ei barch o ardal Llandysul, y diweddar DGE Davies, oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel ‘Defi Fet.’
Ychwanegodd Ioan,
“Mae’n fraint anhygoel derbyn yr ysgoloriaeth i astudio Milfeddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg ac i deulu’r diweddar DGE Davies am y cyfle.
“Ar ôl cyflawni fy ngradd, rwy’n gobeithio magu profiadau newydd yn gweithio tramor cyn dychwelyd i Gymru i ddatblygu gyrfa a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. ”
Dywedodd Dr Dylan Phillips, Cyfarwyddwr Addysg Uwch ac Ysgrifennydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
“Hoffwn longyfarch Ioan ar ennill Ysgoloriaeth Defi Fet eleni. Rydym yn falch iawn i gynnig ysgoloriaeth sy’n cefnogi myfyrwyr i astudio Milfeddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Gweledigaeth y Coleg ydy creu a datblygu cyfleoedd i bawb ym mhob maes i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn rhoi sgiliau ieithyddol hanfodol i weithwyr y dyfodol yma yng Nghymru.
“Dymunwn bob llwyddiant i Ioan yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, a hoffwn ddiolch yn fawr i Elaine a’i theulu am y rhodd ariannol hynod o hael er cof am ei thad, a fydd yn cefnogi Ioan dros y bum mlynedd nesaf.”
Ychwanegodd yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth Yr Ysgol Gwyddorau Milfeddygol, Prifysgol Aberystwyth:
“Rydym ni wrth ein bodd yn llongyfarch Ioan Mabbutt ar ennill gwobr Defi Fet eleni. Mae ei ymrwymiad i filfeddygaeth ac i wasanaethu cymunedau yng Nghymru yn ei wneud yn addas iawn i dderbyn yr ysgoloriaeth arbennig hon.
“Rhan greiddiol o'n gweledigaeth ar gyfer Ysgol Gwyddorau Filfeddygol gyntaf Cymru yma yn Aberystwyth yw ei bod yn gwasanaethu anghenion unigryw ein heconomi wledig a'n cymunedau Cymraeg eu hiaith.
“Rydym ni’n falch o weithio ochr yn ochr â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gryfhau ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac yn ddiolchgar iawn i Elaine a'r teulu am eu haelioni parhaus.”
Am fwy o wybodaeth neu i ymgeisio am Ysgoloriaeth Milfeddygaeth Defi Fet ar gyfer blwyddyn academaidd 2026-2027 ewch i wefan y Coleg.
