Hwb i allu brofi afiechydon anifeiliaid diolch i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru

Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, yn VetHub1, Prifysgol Aberystwyth

Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, yn VetHub1, Prifysgol Aberystwyth

02 Rhagfyr 2025

Bydd ffermwyr da byw a swyddogion iechyd anifeiliaid yng Nghymru yn cael elwa cyn hir ar drefniadau rhanbarthol i brofi am glefydau, hynny yn dilyn buddsoddiad i ddechrau'r broses o sefydlu canolfan ddiagnostig arbenigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Heddiw, mae'r Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cyhoeddi £265,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i Brifysgol Aberystwyth.

Y cyllid hwn yw'r cam cyntaf i ddynodi'r brifysgol fel y ganolfan brofi trwybwn uchel gyntaf yng Nghymru ar gyfer clefydau anifeiliaid hysbysadwy, gan gynnwys y tafod glas. Bydd y ganolfan yn gweithredu o VetHub1 y brifysgol, sy'n gyfleuster diogel ar gyfer ynysu heintiau. Ar hyn o bryd, mae samplau clefydau hysbysadwy yn cael eu hanfon y tu allan i Gymru i'w prosesu.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:

"Rwy'n falch iawn o gael cyhoeddi'r cyllid hwn a fydd yn gam cyntaf i gryfhau ein trefniadau ar gyfer profi clefydau anifeiliaid. Bydd y ganolfan yn gwella'n gallu i gadw gwyliadwriaeth dros yr hirdymor ar glefydau yng Nghymru, gan leihau amseroedd ymateb a chreu capasiti rheoli 'ymchwydd' pan geir achos o glefyd.  Mae profiad diweddar o'r tafod glas a ffliw adar wedi dangos i ni fod gwella capasiti yn hanfodol i fynd i'r afael â chlefydau yn y dyfodol. Mae hyn yn ddechrau cadarnhaol iawn, a dwi’n disgwyl ymlaen at weithio gyda'n cydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth."

Prifysgol Aberystwyth yw'r unig gyfleuster yng Nghymru sydd â'r isadeiledd a'r cyfleusterau i gynnal profion o'r fath. 

Meddai'r Athro Iain Barber, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Mae'n destun cyffro i ni gael dechrau'r ymarfer cwmpasu pwysig hwn, sef y cam cyntaf tuag at wella gallu Cymru i brofi am glefydau anifeiliaid yn gyflym. Er mai dechrau'r broses yw hyn, mae'n gosod sylfeini cyfleuster a allai chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu da byw a chefnogi bioddiogelwch yn y dyfodol."

Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:

"Mae'n wych y bydd Prifysgol Aberystwyth yn gartref i ganolfan brofi trwybwn uchel gyntaf Cymru ar gyfer clefydau anifeiliaid. Mae'r buddsoddiad hwn yn cydnabod arbenigedd a chyfleusterau rhagorol y brifysgol mewn gwyddoniaeth filfeddygol, ac rwyf am ddiolch iddynt am ymgymryd â'r cyfrifoldeb pwysig hwn. Bydd y ganolfan hon yn cefnogi ac yn gweithio'n agos gyda'n cymunedau ffermio, gan ddangos sut mae cyllid ein prifysgolion yn rhoi manteision gwirioneddol i Gymru."

Bydd dynodi'r ganolfan yn golygu y bydd yn cael cynnal profion sydd wedi'u hachredu gan Wasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig ac sydd felly'n cydymffurfio â safonau'r Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig. Bydd y ganolfan yn creu swyddi medrus ac yn cryfhau cyfraniad Cymru at fioddiogelwch y DU. 

 

AU28625