Y Brifysgol yn croesawu cefnogaeth Asiantaeth Ofod y DU ar gyfer taith i’r blaned Mawrth

04 Rhagfyr 2025

Mae’r tîm ExoMars ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi croesawu cefnogaeth o'r newydd gan Asiantaeth Ofod y DU ar gyfer taith y crwydryn Rosalind Franklin, prosiect blaenllaw a fydd yn gweld lansiad crwydryn cyntaf Ewrop i’r blaned Mawrth yn 2028.

Wedi'i amserlennu i lanio ar y Blaned Goch yn 2030, bydd y crwydryn yn drilio hyd at ddau fetr o dan wyneb y blaned Mawrth i chwilio am arwyddion o fywyd yn y gorffennol neu'r presennol, gallu na chafwyd ei debyg mewn unrhyw grwydryn blaenorol.

Cadarnhaodd Asiantaeth Ofod y DU becyn buddsoddi o £1.7 biliwn mewn rhaglenni Asiantaeth Ofod Ewrop yn y Cyngor Gweinidogaethol diweddar yn Bremen, gan sicrhau cefnogaeth barhaus i deithiau proffil uchel gan gynnwys y crwydryn Rosalind Franklin.

Wedi'i adeiladu yn y DU gan Airbus, bydd y crwydryn yn cario offer arloesol a ddatblygwyd gan brifysgolion a thimau ymchwil ym Mhrydain, gan gynnwys Enfys, sbectromedr is-goch Prifysgol Aberystwyth.

Bydd Enfys yn gweithio ochr yn ochr â system ddelweddu PanCam y crwydryn i nodi targedau mwynau a nodi’r safleoedd drilio gorau posibl. Bydd y samplau a gesglir yn cael eu dadansoddi gan labordy ar y crwydryn sydd wedi'i gynllunio i ganfod biofarcwyr a chyfansoddion organig - dangosyddion posibl o fywyd yn y gorffennol neu'r presennol.


Dywedodd Dr Helen Miles, Arweinydd Meddalwedd Gweithrediadau ar gyfer Enfys ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Mae rôl Prifysgol Aberystwyth yn nhaith y crwydryn Rosalind Franklin ar y blaned Mawrth yn adeiladu ar ddegawdau o ymchwil arloesol ym maes gwyddor y gofod a roboteg. Mae ymrwymiad newydd Asiantaeth Ofod y DU i'r prosiect hwn yn newyddion gwych - nid yn unig ar gyfer y daith, ond ar gyfer dyfodol archwilio planedau.

"Er bod sawl crwydryn wedi cyrraedd y blaned Mawrth, bydd y daith hon yn caniatáu inni archwilio'r blaned mewn ffyrdd nas gwnaethpwyd erioed o'r blaen.  Am y tro cyntaf, byddwn yn drilio'n ddwfn o dan wyneb y blaned Mawrth i chwilio am arwyddion o fywyd, gan ddatgloi cliwiau a allai drawsnewid ein dealltwriaeth o hanes y blaned a'i photensial i gynnal bywyd.

"Mae bod yn rhan o'r tîm sy'n datblygu'r offer hanfodol hyn yn fraint, ac rydym yn llawn cyffro i weld gwyddoniaeth Cymru yn cyfrannu at un o deithiau planedol mwyaf uchelgeisiol ein hoes."

Arweinir y gwaith o ddatblygu a phrofi Enfys gan Brifysgol Aberystwyth, ar y cyd â phartneriaid gan gynnwys Labordy Gwyddor Gofod Mullard (MSSL) yn UCL, Labordy Rutherford Appleton STFC a Qioptiq Ltd.

Rhoddwyd mwy o gyfrifoldeb am y prosiect i Brifysgol Aberystwyth ar ôl diddymu’r cydweithrediad â Roscosmos yn Rwsia yn sgil yr ymosodiad ar yr Wcráin yn 2022.

 

AU28825