Bwrsariaeth newydd i wella mynediad ffoaduriaid at addysg uwch

Aberystwyth o’r awyr

Aberystwyth o’r awyr

15 Rhagfyr 2025

Bydd cyfle i fyfyrwyr o Affrica a ffoaduriaid ymgeisio am fwrsariaeth newydd i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, diolch i rodd elusennol.

Mae’r rhodd o £310,000 gan Ymddiriedolaeth Addysgiadol Keates-Lee wedi sefydlu bwrsariaeth newydd a fydd yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr derbyn hyd at £4,000 y flwyddyn i helpu gyda chostau eu hastudiaethau.

Nod y cyfleoedd newydd yw ehangu mynediad at addysg uwch i fyfyrwyr o wledydd Affrica a ffoaduriaid sydd eisoes wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Lyndsey Stokes, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Rydym wrth ein boddau ein bod ni’n gallu cynnig y fwrsariaeth newydd hyn diolch i’r rhodd hynod o hael gan yr Ymddiriedaeth. Rydym ni’n falch o fod yn sefydliad dysgu ac ymchwil cynhwysol gydag agwedd fyd-eang - mae ehangu mynediad i addysg uwch yn rhan ganolog o’n gweledigaeth fel prifysgol.

“Ers dros ganrif a hanner, mae Prifysgol Aberystwyth wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl o bob rhan o’r byd i newid bywydau er gwell: gan feithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru a’r byd yn ehangach. Mae’r fwrsariaeth newydd hon yn barhad o’r traddodiad hir hwnnw: i feithrin Cymru sy’n ffynnu ac yn estyn allan i’r byd ac yn dwyn pobl ynghyd i ni gael dysgu o’n gilydd.” 

Ychwanegodd Lesley Keates o Ymddiriedolaeth Addysgiadol Keates-Lee:

“Graddiodd fy niweddar ŵr, Dr Peter David Lee, a minnau o Brifysgol Cymru. Gan fy mod i wedi derbyn bwrsariaeth, rwy’ wastad wedi bwriadu rhoi rhywbeth yn ôl a dyna oedd dymuniad Peter hefyd. Mae gennym ni’n dau ddiddordeb mawr yn Wcráin, yn Affrica a helpu’r rhai sy’n llai breintiedig na ni ein hunain.”

Ceir rhagor o wybodaeth am y Fwrsariaeth Ymddiriedolaeth Addysgiadol newydd Keates-Lee a sut i ymgeisio drwy fynd i: https://www.aber.ac.uk/en/study-with-us/international/scholarships/thekeates-leeeducationaltrustbursary/

Diwedd

Nodiadau

Llun:

Rhagor o Wybodaeth: