Bywydau cudd cathod yn allweddol ar gyfer cynlluniau i ailgyflwyno’r gath wyllt

Gath wyllt Ewropeaidd (Felis silvestris silvestris) – llun gan Angela ar Pixabay

Gath wyllt Ewropeaidd (Felis silvestris silvestris) – llun gan Angela ar Pixabay

22 Rhagfyr 2025

Gallai astudiaeth newydd sy'n edrych ar fywydau cudd cathod fferal a chathod sy’n crwydro’n rhydd yng Nghymru helpu i lywio’r drafodaeth ynghylch ailgyflwyno cathod gwyllt i’r wlad.

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Queen’s Belfast, ac Ymddiriedolaeth Natur Vincent yn ymchwilio i'r rôl y gall cathod sy’n crwydro’n rhydd ei chwarae wrth drosglwyddo clefydau i bobl ac anifeiliaid eraill.

Bydd yr astudiaeth yn llywio gwaith sy’n mynd rhagddo gan Ymddiriedolaeth Natur Vincent i ymchwilio i ddichonoldeb ailgyflwyno’r gath wyllt Ewropeaidd i ardaloedd yr arferai fyw ynddynt yng Nghymru.

Nid yw gwir faint poblogaeth y cathod fferal a’r cathod sy’n crwydro’n rhydd yn y DU yn hysbys. Gan fyw'n annibynnol ac yn aml yn osgoi cysylltiad â phobl, mae'r cathod hyn fel arfer yn ffurfio cytrefi o amgylch ffynonellau bwyd a lloches, fel adeiladau gwledig, ffermydd, a safleoedd diwydiannol.

Gallant gario pathogenau milheintiol - clefydau a all gael eu trosglwyddo o anifeiliaid i bobl - sy’n golygu eu bod yn bryder o ran iechyd y cyhoedd yn ogystal ag iechyd milfeddygol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae monitro a rheoli yn fwy heriol.

Bydd y prosiect newydd yn astudio poblogaethau o gathod sy’n crwydro’n rhydd ledled Cymru, gan ymchwilio i'w hymddygiad, deinameg y boblogaeth, a'r pathogenau y maent yn eu cario.

Bydd y tîm ymchwil yn defnyddio cyfuniad o dechnegau, gan gynnwys trapiau camera a phrofion genetig, i amcangyfrif maint y boblogaeth ac astudio sut mae'r cathod hyn yn ymddwyn ac yn symud o amgylch ardaloedd gwledig.

Sophie Harris, myfyriwr PhD a ariennir gan OneZoo o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth, yw’r prif ymchwilydd. Dywedodd:

"Dyma'r astudiaeth gyntaf o'i math i ganolbwyntio'n benodol ar gathod sy’n crwydro’n rhydd mewn amgylcheddau gwledig. Er y bu sawl astudiaeth ar boblogaethau trefol, mae cathod gwledig yn parhau i gael eu hanwybyddu i raddau helaeth.

"Bydd ein hymchwil yn helpu i lenwi'r bwlch hwn ac yn darparu gwybodaeth allweddol am sut mae clefydau milheintiol yn lledaenu yn y tirweddau hyn, sy'n hanfodol ar gyfer iechyd y cyhoedd a chadwraeth bywyd gwyllt. Bydd hefyd yn rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n asesu dichonoldeb ailgyflwyno cathod gwyllt yng Nghymru, gan eu helpu i fireinio a thargedu strategaethau ailgyflwyno.”

Sophie Harries, Adran Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Aberystwyth

Trwy ddadansoddi DNA o’r samplau a gesglir, bydd y tîm ymchwil yn gallu adnabod cathod unigol, pennu eu rhyw, ac asesu cysylltiadau genetig. Bydd hyn yn helpu i greu darlun o ba mor gysylltiedig yw gwahanol boblogaethau, pa mor bell mae cathod yn teithio, a pha effaith y gall ymddygiadau fel mewnfridio ei chael ar drosglwyddo clefydau.

Bydd yr astudiaeth hefyd yn craffu ar sut mae cathod sy’n crwydro’n rhydd yn rhyngweithio â rhywogaethau eraill - yn enwedig trwy hela a bwydo - gan y gall yr ymddygiadau hyn chwarae rhan allweddol wrth ledaenu clefydau rhwng anifeiliaid a phobl.

Er mwyn deall eu diet, bydd gwyddonwyr yn dadansoddi samplau o garthion i nodi rhywogaethau ysglyfaeth a phatrymau dietegol. Bydd y samplau hyn yn cael eu prosesu yng Nghanolfan Milfeddygol1, cyfleuster o’r radd flaenaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle byddant yn cael eu sgrinio am ystod eang o gyfryngau milheintiol, gan gynnwys parasitiaid, firysau a bacteria. 

Bydd y prosiect hefyd yn archwilio sut mae ffactorau megis dwysedd y boblogaeth ddynol, y defnydd o’r tir, a’r mathau o lystyfiant yn dylanwadu ar ledaeniad clefydau sy'n cael eu cario gan gathod sy’n crwydro’n rhydd.

Ychwanegodd Dr Niall McKeown, arbenigwr ym maes ecoleg bywyd gwyllt ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae cathod gwyllt yn elfen bwysig o ecosystemau gwledig, ond yn elfen sy’n aml yn cael ei hanwybyddu. Trwy ddeall eu symudiadau, rhyngweithiadau rhyngrywogaethol ac amgylcheddol, a’u rôl wrth gario a lledaenu pathogenau, gallwn fynd i'r afael â bylchau gwybodaeth allweddol sy'n berthnasol i iechyd anifeiliaid a phobl.

“Bydd yr ymchwil hon yn cyfrannu at ddatblygiad strategaethau atal clefydau integredig ledled Cymru, wrth hefyd ddarparu tystiolaeth a fydd o fudd i gadwraeth bioamrywiaeth.”

Dywedodd y cydweithiwr ymchwil, Dr Jenny MacPherson o Ymddiriedolaeth Natur Vincent:

"Mae deall sut mae cathod gwyllt a chathod fferm yn rhyngweithio â bywyd gwyllt a chymunedau gwledig yn hanfodol er mwyn datblygu atebion cadwraethol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Trwy astudio cathod mewn lleoliadau gwledig, gallwn gefnogi ffermwyr a bywyd gwyllt i ffynnu ochr yn ochr."

Mae’r prosiect - 'Ymchwilio i'r risg o haint milheintiol o gathod gwyllt mewn tirweddau gwledig' - yn rhan o fenter OneZoo, sy'n dod ag arbenigwyr ynghyd ledled y DU i fynd i'r afael â'r rhyngwyneb cymhleth rhwng bywyd gwyllt, da byw ac iechyd pobl.

Mae cydweithwyr eraill y prosiect yn cynnwys Dr Amanda Gibson, Dr Bibi Linden, a'r Athro Luis Mur o Brifysgol Aberystwyth, a Dr Sarah Helyar o Brifysgol Queen’s Belfast.


AU24325