Ymchwil newydd yn ystyried opsiynau datganoli darlledu yng Nghymru

Yr athro Jamie Medhurst
18 Rhagfyr 2025
Bydd academyddion Prifysgol Aberystwyth yn ystyried opsiynau ar gyfer datganoli pwerau darlledu ar ran Llywodraeth Cymru.
Bydd yr Athro Jamie Medhurst o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn edrych ar bum opsiwn ar gyfer dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru – o gadw pwerau presennol y Senedd i ddatganoli’r arolygaeth a’r rheoleiddio yn llawn.
Bydd yr ymchwil yn ystyried y costau sy’n gysylltiedig ag unrhyw newidiadau i’r model presennol, a fyddai angen sefydlu corff newydd pe bai un o’r pum opsiwn yn cael ei ddilyn, sut y byddai unrhyw newid yn diwallu’r angen am raglennu Cymraeg a rhaglennu o ddiddordeb Cymreig, ac unrhyw ystyriaethau technegol a chyfreithiol.
Bydd darlledwyr, llunwyr polisi, pleidiau gwleidyddol, undebau llafur, grwpiau ymgyrchu a sefydliadau eraill yng Nghymru yn cael eu cyfweld fel rhan o'r gwaith.
Mae'r prosiect yn dechrau’r mis hwn a bydd yn para tan fis Mawrth 2026 ac mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy Gymru Greadigol.
Meddai’r Athro Jamie Medhurst o Brifysgol Aberystwyth: "Mae hunaniaeth pob un o'r pedair cenedl sy'n rhan o’r Deyrnas Unedig mor wahanol fel bod modd dadlau y dylai'r dirwedd ddarlledu adlewyrchu hynny'n well. Mae hunaniaeth ddiwylliannol ddwyieithog Cymru yn golygu bod ganddi ystyriaethau penodol o fewn y DU yn ehangach. Mae'n bwysig trafod beth mae hynny'n ei olygu i'w darlledu.
"Mae’r pum llwybr yn amrywio o newid sylweddol yn y dull gweithredu i newidiadau sydd wedi’u targedu’n fwy. Drwy siarad â charfan amrywiol o grwpiau buddiant, bydd yr adroddiad hwn yn cyflwyno argymhellion manwl ar ddyfodol darlledu er budd y cyhoedd yng Nghymru."
Dywedodd y Gweinidog dros Greadigrwydd, Jack Sargeant AS:
"Mae gan Gymru hunaniaeth ddiwylliannol ddwyieithog unigryw sy'n haeddu cael ei hadlewyrchu'n briodol yn ein tirwedd ddarlledu. Bydd y cyllid hanfodol hwn yn helpu Prifysgol Aberystwyth i ymchwilio’r pum llwybr i ddatganoli darlledu, fel sy’n cael eu hamlinellu yn adroddiad y Panel Arbenigol.
“Bydd y prosiect hwn yn casglu tystiolaeth hanfodol i adnabod opsiynau ar gyfer cryfhau fframwaith darlledu Cymru. Drwy gefnogi'r gwaith hwn, rydym ni’n bwrw ymlaen â'n hymrwymiad i sicrhau bod darlledu yn diwallu anghenion ein cymunedau yn well, gan archwilio ystyriaethau pwysig gan gynnwys costau, strwythurau llywodraethu, a sut y byddai unrhyw newidiadau yn diwallu'r angen am raglenni Cymraeg a diddordeb Cymreig.”
Mae'r prosiect yn ategu'r gwaith sydd eisoes ar y gweill ym Mhrifysgol Aberystwyth ar astudiaeth pedair gwlad ehangach o ddatganoli darlledu yn y Deyrnas Unedig, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.
