Pennaeth y Sioe Fawr yw Dirprwy Ganghellor newydd Prifysgol Aberystwyth
Aled Rhys Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth
18 Rhagfyr 2025
Mae Prif Weithredwr Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi’i benodi’n Ddirprwy Ganghellor newydd Prifysgol Aberystwyth.
Mae Aled Rhys Jones yn enw adnabyddus yn y byd amaeth yng Nghymru a chafodd ei benodi’n Brif Weithredwr y Sioe Fawr yn 2022 wedi 4 mlynedd fel ei dirprwy.
Yn hanu o Gwrt-y-Cadno yn Sir Gaerfyrddin, graddiodd o Brifysgol Reading mewn Rheolaeth Tir ac aeth ymlaen i fod yn Syrfëwr Siartredig cymwysedig a Phrisiwr Amaethyddol.
Yn ysgolhaig Ffermio Nuffield, bu’n cyflwyno’r rhaglen Bwletin Amaeth ar BBC Radio Cymru ynghyd â gwasanaethu fel Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Canolog Priswyr Amaethyddol.
Mae Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn un o benaethiaid seremonïol y Sefydliad ac fe'u penodir gan Gyngor y Brifysgol. Mae'r Dirprwy Gangellorion yn cyflawni nifer o ddyletswyddau seremonïol a llysgenhadol, gan gynnwys llywio yn ystod graddio blynyddol.
Yn siarad am ei benodiad, meddai Aled Rhys Jones:
“Rwyf wrth fy modd yn derbyn y rôl arbennig iawn hon. Rwyf bob amser wedi edmygu gwaith Prifysgol Aberystwyth a’i hanes hir o fod ar flaen y gad o ran ymchwil, addysgu a dysgu. Rwy’n edrych ymlaen i gyfrannu’n gadarnhaol at ddyfodol y Brifysgol, mewn ffordd lysgenhadol a chefnogol.
“Ers dros ganrif a hanner, mae rhagoriaeth dysgu ac ymchwil Prifysgol Aberystwyth wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl o bob rhan o’r byd i newid bywydau er gwell: yn meithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru a’r byd yn ehangach. Rwy’n falch iawn i bellach allu chwarae rhan yn yr hanes ddisglair honno.”
Bydd tymor 3 blynedd Mr Jones yn dechrau ar 1 Ionawr flwyddyn nesaf, yn dilyn diwedd tymor ei ragflaenydd yn y rôl, yr Athro Fonesig Elan Closs-Stephens.
Ychwanegodd Meri Huws, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth:
“Bydd Aled yn gaffaeliad mawr i’n cymuned yma yn y Brifysgol – mae’n bleser ei groesawu i’r tîm. Byddwn ni’n gweithio yn agos gydag Aled i adeiladu ar ein hanes anrhydeddus fel y Brifysgol gyntaf yng Nghymru. Rydym yn sefydliad sy’n gwthio ffiniau arloesi a gwybodaeth - gan feithrin a rhannu’r syniadau a’r arbenigedd sydd o fudd i bobl, y blaned a chyfoeth bywyd diwylliannol.”
“Ar ran pawb yn y Brifysgol, hoffwn i hefyd ddiolch i Elan Closs-Stephens am ei gwasanaeth dyfal dros y chwe mlynedd diwethaf. Fel cyfaill a chefnogwraig fawr o’n cenhadaeth addysgiadol yn Aberystwyth, gwn y bydd yn parhau i genhadu dros y Brifysgol yn y dyfodol.”
