Prosiect cam-drin domestig yn ennill gwobr yn Senedd y DG

Enillwyr y gwobrau, gan gynnwys prosiect Dewis Choice Prifysgol Aberystwyth, yn Nhŷ’r Arglwyddi
19 Rhagfyr 2025
Mae prosiect ym Mhrifysgol Aberystwyth i gefnogi pobl hŷn a effeithiwyd gan gam-drin domestig wedi ennill gwobr fawreddog yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Enwebwyd y tîm o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect yn y Brifysgol ar gyfer Gwobrau 16 Diwrnod o Ymgyrchu Cynghrair Cenedlaethol Mudiadau Menywod gan Gynulliad Menywod Cymru.
Mae’r gwobrau, a gynhaliwyd yn Nhŷ’r Arglwyddi eleni ar Ddiwrnod Hawliau Dynol, yn dathlu sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio er mwyn dod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben. Y thema eleni oedd aflonyddu digidol.
Wedi'i leoli yn y Ganolfan ar gyfer Oedran, Rhyw a Chyfiawnder Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth, mae’r fenter Dewis Choice yn cefnogi dioddefwyr hŷn o gam-drin domestig.
Yr astudiaeth hirdymor gyntaf sy'n edrych ar wneud penderfyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd, mae'n cyfuno darparu gwasanaethau uniongyrchol gydag ymchwil arloesol.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Dewis Choice ganllaw newydd i helpu i fynd i’r afael â bygythiad cynyddol o gam-drinwyr domestig yn defnyddio technoleg, megis clychau drws clyfar a ffonau symudol, yn erbyn pobl hŷn.
Derbyniodd y tîm Dewis Choice y wobr o achos eu cefnogaeth, ymchwil a gwaith ynghyd â’u gwaith i godi proffil pobl hŷn mewn polisi ac ymarfer cam-drin domestig yn y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt.
Dywedodd Elize Freeman, Cyd-arweinydd prosiect Dewis Choice ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Roedden ni wrth ein bodd yn derbyn y wobr ar ran y tîm Dewis Choice. Rydym ni’n dîm amlddisgyblaethol, sy’n cyfuno ymchwil arloesol ag arbenigedd ymarferol arbenigol ar gam-drin domestig yn ddiweddarach mewn bywyd. Gan gyfuno ymchwil hydredol â chymorth dwys a gynhyrchwyd ar y cyd ar gyfer dioddefwyr-goroeswyr hŷn, rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn dylanwadu’n uniongyrchol ar y penderfyniadau polisi ac ymarfer sy’n effeithio arnyn nhw. Mae’r gwasanaeth yn cynnig dewis gwybodus dan arweiniad y cleient ym mhob cam o’r daith ceisio cymorth a cheisio cyfiawnder, yn ystod digwyddiadau argyfwng, cynllunio diogelwch ac adferiad.
“Mae’r fenter wedi gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad sydd wedi’i gynllunio gan y gymuned yn benodol i gefnogi dioddefwyr-goroeswyr hŷn cam-drin i wneud dewisiadau gwybodus am gyfiawnder gan gynnwys sifil, troseddol ac adferol ac i sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu trin yn wahanol oherwydd oedran, rhyw, rhywioldeb neu anabledd. Rydym ni’n gobeithio bod y gwaith pwysig hwn yn gallu mynd o nerth i nerth, ac mae’r wobr hon yn hwb go iawn i’r tîm cyfan yma yn Aberystwyth.”
