Crys newydd Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth yn nodi partneriaeth Prifysgol

Capteiniaid Menywod a Dynion Clwb Pêl-droed Aberystwyth gyda Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yr Athro Iain Barber a’r cit newydd
22 Rhagfyr 2025
Mae Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth wedi datgelu’i grys newydd ar ôl llofnodi partneriaeth gyda phrifysgol y dref.
Bydd y dillad chwaraeon yn cael eu gwisgo gan dimau cyntaf menywod a dynion y clwb.
Daw’r newyddion ar ôl i’r Clwb a Phrifysgol Aberystwyth lofnodi cytundeb tair blynedd newydd mewn meysydd gan gynnwys ar wyddor chwaraeon a hybu cyfleoedd i’r gymuned leol.
Bydd y Brifysgol yn parhau’n brif noddwr y Clwb gyda mynediad am ddim i bobl â Cherdyn Aber.
Fel rhan o’r cytundeb, bydd chwaraewyr yn cael mynediad at gyfleusterau profi ffitrwydd y Brifysgol a bydd cyfleoedd i fyfyrwyr a staff weithio gyda’r clwb.
Meddai’r Athro Iain Barber o Brifysgol Aberystwyth:
“Pleser o’r mwyaf yw gallu adnewyddu ac ehangu ein perthynas gyda’r Clwb er lles holl gymuned Aberystwyth. Rwy’n siŵr y daw llawer o gyfleoedd gwerthfawr o’r bartneriaeth newydd. Rydym ni’n gwybod bod chwaraeon yn gallu helpu i ddod â phobl ynghyd, ac mae adeiladu cymunedau clos yn rhan ganolog o’n gweledigaeth fel prifysgol i newid bywydau er gwell. Rydym yn falch o’n cartref ger y lli’ yng ngorllewin Cymru, lle sy’n croesawu staff a myfyrwyr o bob cwr o’r byd, ac rydym ni’n llawn cyffro ein bod yn meithrin perthynas gryfach gyda’r clwb pêl-droed lleol.
“Bydd ein partneriaeth gyda Thref Aberystwyth yn dod â budd i’n myfyrwyr, i’r gymuned leol, ac i berfformiad y timau menywod a dynion. Bydd chwaraewyr o dimau dynion, menywod a’r academi yn elwa, a bydd ein myfyrwyr yn gallu cael profiadau amhrisiadwy i wella eu hastudiaethau a dod â'u dysgu academaidd yn fyw.”
Ychwanegodd Donald Kane, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth:
“Rydym ni’n hynod falch o adnewyddu a chryfhau ein partneriaeth hirhoedlog â Phrifysgol Aberystwyth. Mae’r berthynas hon wedi dod yn rhan hanfodol o’r Clwb wrth gefnogi ein timau dynion, menywod a datblygu ar y cae ac oddi arno.
“Mae mynediad at arbenigedd gwyddor chwaraeon, profi perfformiad a meddygol y Brifysgol yn cynnig manteision amhrisiadwy i’n chwaraewyr, tra bod y cyfleoedd sy’n cael eu creu i fyfyrwyr ennill profiad yn y byd go iawn yn adlewyrchu’r gwerthoedd rydym yn eu rhannu sydd wrth wraidd y ddau sefydliad.
“Fel clwb sy’n canolbwyntio ar y gymuned, mae’n hynod bwysig i ni fod y bartneriaeth hon yn parhau i ddod â chanlyniadau cadarnhaol i Aberystwyth, ac rydym ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar y bartneriaeth lwyddiannus hon yn y blynyddoedd i ddod.”
Ychwanegodd Dr Rhys Thatcher, Darllenydd mewn Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Rydym ni wrth ein bodd yn gallu rhoi mynediad i chwaraewyr Tref Aberystwyth i’n cyfleusterau perfformiad a phrofi chwaraeon o’r radd flaenaf yn y Brifysgol. Mae gennym ni’r gallu i gefnogi cyflwr corfforol chwaraewyr a thrwy brofion ffitrwydd. Mae asesiad cyfansoddiad y corff ar gael drwy sgan DXA, gellir asesu ffitrwydd aerobig yn y labordy neu drwy brofion maes, rydym ni hefyd yn anelu at gefnogi chwaraewyr gyda chyngor ar hyfforddiant a pharatoi ar gyfer diwrnod gêm.
“Hefyd, fel rhan o’r bartneriaeth hon, byddwn yn buddsoddi mewn olrheinwyr symudiad GPS a fydd yn caniatáu casglu data ar ddiwrnodau gêm ac yn ystod hyfforddiant, y gall ein myfyrwyr ei ddadansoddi yn eu sesiynau ymarferol, gan roi’r hyfforddiant a’r ddealltwriaeth y bydd eu hangen arnyn nhw os ydyn nhw am ddilyn gyrfa mewn chwaraeon tîm proffesiynol.”
Gall athletwyr amatur neu broffesiynol sydd â'r nod o fesur a gwella perfformiad, neu unrhyw un sy'n dymuno gwella agweddau ar eu ffordd o fyw bersonol, ddefnyddio cyfleusterau Profi Perfformiad Chwaraeon ac Iechyd Prifysgol Aberystwyth ar ei Champws Penglais. Mae rhagor o fanylion ar gael yn: https://www.aber.ac.uk/cy/rbi/research/equipment/sport-performance-health-testing/
