Barddoniaeth newydd Neuadd Pantycelyn yn dathlu taith ei hail-agor

Cerddi Pantycelyn
28 Ionawr 2026
Mae cerddi newydd wedi’u cyfansoddi am Neuadd Pantycelyn er mwyn nodi 10 mlynedd ers cychwyn y daith tuag at ei hail-agor.
Mae tri bardd nodedig sydd â chysylltiad agos â’r llety preswyl enwog - yr Athro Mererid Hopwood, Dr Eurig Salisbury a Dr Hywel Griffiths - wedi cyfansoddi englyn yr un.
Cerdd pedair llinell sy’n defnyddio mesur caeth Cynghanedd yw englyn. Cynghanedd yw’r ddyfais farddonol Gymraeg unigryw lle defnyddir amrywiaeth o batrymau drwy odl, cyflythrennu a chyfateb cytseiniaid, i greu harmoni rhwng geiriau.
Diolch i gynllun ar y cyd rhwng UMCA â’r Brifysgol, mae’r cerddi newydd hyn yn cael eu harddangos ochr yn ochr â barddoniaeth Gymraeg eiconig arall ym Mhantycelyn.
Mae englyn newydd yr Athro Hopwood o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol, yn datgan:
‘Yma cei orwel dielyn – yr haul
Yn rhodd, ac ar gychwyn
Dy daith yn dy iaith dy hun
Cei aelwyd Pantycelyn.’
Ail-agorwyd Neuadd Pantycelyn ym mis Medi 2020 fel neuadd preswyl cyfrwng Cymraeg wedi dros bum mlynedd o waith i adnewyddu’r adeilad.
Dywedodd Dr Gwawr Taylor, Cyfarwyddwr y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’n hyfryd darllen y cerddi newydd hyn sydd wedi’u gosod yn chwaethus ar furiau’r neuadd. Heb os, mae Pantycelyn yn un o drysorau addysg Cymru - lle unigryw. Roedd ailagor y neuadd bum mlynedd yn ôl yn ffrwyth gwaith nifer o fyfyrwyr, staff a phartneriaid, ynghyd â’n cyfeillion yn y gymuned. Mae’n neuadd breswyl unigryw sy’n meithrin ein hiaith genedlaethol ar dafodau’r genhedlaeth nesaf. Mae’r farddoniaeth newydd hon bellach yn rhan o hanes cyfoethog y neuadd.”
“Gydag Aberystwyth wedi’i dynodi’n ddiweddar yn Ddinas Llên UNESCO gyntaf Cymru, rydym ni’n falch bod myfyrwyr a staff y Brifysgol yn cyfrannu ymhellach at y sin lenyddol fywiog a gynhelir o fewn muriau Pantycelyn ac ar draws y dref.”
Mae Nanw Maelor, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, wedi cyfansoddi barddoniaeth yn seiliedig ar ei phrofiad o fyw a gweithio ym Mhantycelyn. Yn ogystal, mae hi wedi dehongli’r cyfansoddiadau newydd gyda’i darluniau artistig ei hun.
Cafodd ei dethol yn aelod o gynllun ‘Pencerdd’ Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2025-26 – cynllun sydd yn rhoi cyfle i feirdd ddatblygu eu sgiliau fel cynganeddwyr.
Ychwanegodd Nanw:
“Dros y degawdau, mae llenyddiaeth wedi bod yn sail ar gyfer y gymuned Gymraeg yn Aberystwyth ac rydym yn ffodus iawn o gyfleoedd fel yr Eisteddfod Ryng-golegol sydd wedi bod yn llwyfan i feirdd a llenorion Cymraeg y gorffennol a’r dyfodol. Roedd hi’n bwysig imi ein bod yn dathlu’r etifeddiaeth honno ac yn saernïo barddoniaeth nid yn unig fel rhan o hanes yr adeilad, ond hefyd ei arwyddocâd heddiw. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Adran Llety am eu holl waith yn paratoi’r gwaith ac i Mererid, Eurig a Hywel am eu cyfraniadau arbennig.”
AU2826
