Cynnydd da ar y strategaeth newydd meddai'r Is-Ganghellor

30 Ionawr 2026

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi dweud bod y Brifysgol yn gwneud “cynnydd da” ar ei chynlluniau i sefydlu model gweithredu cynaliadwy – i ddatblygu sefydliad a ddiogelir rhag yr heriau sy'n wynebu'r sector addysg uwch.

Dywedodd yr Athro Jon Timmis fod llwybr wedi’i osod yn y chwe mis a mwy ar ôl lansio Strategaeth 2030au, sef gweledigaeth y Brifysgol ar gyfer ei dyfodol hirdymor, i adeiladu ymhellach ar ei henw da am addysg ac ymchwil o ansawdd uchel ac i newid bywydau er gwell.

Daeth ei sylwadau wrth i Adroddiad Blynyddol y Brifysgol gael ei gyhoeddi ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25. Mae'r Adroddiad yn manylu ar berfformiad y Brifysgol ar nifer o feysydd gan gynnwys dysgu, ymchwil, ei pherfformiad ariannol, ei strategaeth amgylcheddol, a sut mae’r sefydliad o fudd i’r gymdeithas ehangach.

Roedd perfformiad ariannol y Brifysgol yn y flwyddyn yn well na’r targedau. Gostyngwyd ei diffyg ariannol gweithredol sylfaenol o £8.1 miliwn yn 2023/24 i £2.4 miliwn yn 2024/25. Mae hyn yn well na’r targed i’r diffyg, sef £3.0m, a gynlluniwyd wrth i'r Brifysgol weithio tuag at ddychwelyd i sefyllfa lle mae’n gwneud gwarged. Cafwyd y gostyngiadau hynny trwy weithredu ei Rhaglen Drawsnewid i sefydlu model gweithredu cynaliadwy, ac i sicrhau cynnydd mewn incwm.

Diolchodd yr Athro Timmis i staff a myfyrwyr y Brifysgol am eu cyflawniadau a’u gwaith caled.

Roedd uchafbwyntiau'r Brifysgol yn y flwyddyn academaidd 2024/25 yn cynnwys:

  • Yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn cydnabod Prifysgol Aberystwyth fel y sefydliad gorau yng Nghymru am foddhad y myfyrwyr, a hynny am y ddegfed flwyddyn yn olynol.
  • Canllaw Prifysgolion Da 2025 y Times a’r Sunday Times yn rhoi’r Brifysgol ar y brig yng Nghymru am Brofiad y Myfyrwyr.
  • Ennill cyllid am brosiectau ymchwil sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd, trin clefydau sy'n effeithio ar fwy na 200 miliwn o bobl ledled y byd, datgloi cyfrinachau Côr y Cewri, ac archwilio darlledu yn y DU ddatganoledig.

Mae ffactorau yn effeithio ar Brifysgolion ledled y DU o hyd, sef ffioedd dysgu myfyrwyr o Brydain sydd wedi’u rhewi, gostyngiad ym marchnad y myfyrwyr rhyngwladol,  ac effeithiau hirdymor chwyddiant uchel.

Disgrifiodd yr Athro Timmis y gwelliant ym mherfformiad ariannol y Brifysgol fel un calonogol ond pwysleisiodd y bydd gwaith yn mynd yn ei flaen i sicrhau bod y Brifysgol yn sefydliad cynaliadwy a hyblyg sy'n canolbwyntio ar y dyfodol.

Dywedodd: "Rwy'n hynod falch o lwyddiannau a gwaith caled ein staff a'n myfyrwyr. Roedd nifer o uchafbwyntiau i’r flwyddyn academaidd 2024/25; yn amrywio o’r ffaith ein bod yn parhau i gadarnhau ein henw da am foddhad ein myfyrwyr, ein bod yn gwthio ffiniau arloesedd a gwybodaeth drwy ymchwil sy'n arwain y byd, a’n bod yn hybu bwrlwm y Gymraeg.

"Mae hyn wedi dod er gwaethaf yr heriau sy'n parhau i effeithio ar y sector addysg uwch cyfan. Mae prifysgolion ar draws Prydain yn wynebu heriau o sawl cyfeiriad, yn amrywio o’r gystadleuaeth ffyrnig am fyfyrwyr domestig a rhyngwladol, ac effeithiau parhaus chwyddiant uchel, i’r ffioedd dysgu sydd heb gynyddu i gyd-fynd â’r costau cynyddol.

"Rydym yn gwneud cynnydd da ar ein cynlluniau ariannol ac wedi gwneud camau sylweddol i'r cyfeiriad cywir ar ein taith i greu sefydliad cynaliadwy a hyblyg sy'n canolbwyntio ar y dyfodol. Rydym yn parhau i greu buddiannau mawr i Gymru a'r byd ehangach – gan newid bywydau er gwell. Mae hyn wedi gofyn am lawer o waith caled gan ein staff ac rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am eu cyfraniadau."

Ychwanegodd Meri Huws, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth: "Roedd y flwyddyn academaidd 2024/25 yn flwyddyn o lwyddiannau lu i Brifysgol Aberystwyth a hoffwn ddiolch i’r staff a’r myfyrwyr am y rhannau pwysig y maent yn eu chwarae. Carwn hefyd ddiolch i'n cymuned o bartneriaid am eu cefnogaeth a'u cynhesrwydd tuag atom ni fel Prifysgol.

"Mae'n amlwg o gynnwys yr Adroddiad Blynyddol fod y cynllun a roddwyd ar waith yn ôl yn 2024 yn gweithio. Mae'r gwaith hwnnw’n parhau i'r flwyddyn academaidd bresennol a’r tu hwnt, ond yr hyn sy'n rhoi hyder i mi, ac i’m cyd-aelodau ar y Cyngor, yw y bydd y penderfyniadau a wneir heddiw yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i’r blynyddoedd a ddêl." 

 

AU1126