Arbrawf newydd i drawsnewid sut mae pobl yn cofnodi eu diet dyddiol

Tîm-ymchwil-Sodiat-2, Aberystwyth
09 Chwefror 2026
Mae gwyddonwyr yn recriwtio oedolion o bob rhan o'r DU i gymryd rhan mewn treial arloesol i olrhain yn gywir beth mae pobl yn ei fwyta a'i yfed yn eu bywydau bob dydd.
Gallai canfyddiadau eu hymchwil arwain at wella strategaethau iechyd y cyhoedd sy’n mynd i'r afael â chlefydau sy'n gysylltiedig â diet gwael fel diabetes math 2, clefyd y galon a rhai mathau o ganser.
Ar hyn o bryd caiff cynnwys diet ei fesur gan bobl sy'n cwblhau arolygon maeth cymhleth sy'n cymryd amser ac sy’n gofyn iddyn nhw gofio’n union beth maen nhw wedi'i fwyta, ond gall hyn arwain at ganlyniadau annibynadwy.
Mewn ymgais i ddod o hyd i ffyrdd mwy dibynadwy o olrhain diet pobl, mae ymchwilwyr yn defnyddio cyfuniad o dechnegau arloesol - gan gynnwys camerâu gwisgadwy, dyfeisiau monitro gwaed a dadansoddiadau metabolomig o samplau wrin, ynghyd ag apiau ar gyfer hunan-adrodd.
Mae studiaeth SODIAT-2 yn rhan o brosiect ymchwil pum mlynedd ehangach a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad ag arbenigwyr ym Mhirfysgol Reading, Prifysgol Caergrawnt a Choleg Imperial Llundain.
Mae cyfanswm o 133 o oedolion yn cael eu recriwtio o bob rhan o’r DG i gymryd rhan mewn rhaglen bum wythnos yn monitro’n union beth maen nhw’n ei fwyta a’i yfed. Bydd cyfranogwyr yn:
- gwisgo sbectol camera i gofnodi beth maen nhw'n ei fwyta a'i yfed
- darparu samplau gwaed ac wrin a gasglwyd yn eu cartrefi eu hunain i ddangos beth mae eu cyrff yn ei gymryd o’r bwyd
- cwblhau holiaduron bwyd a diod symlach ar eu harferion bwyta.
Trwy gymharu'r dulliau hyn, nod ymchwilwyr yw canfod pa gyfuniad o dechnegau sy'n gweithio orau o ran astudio diet mewn bywydau go iawn.
Dywedodd Dr Manfred Beckmann, Prif Ymchwilydd arweiniol o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth:
“Un o’r problemau sy’n wynebu ymchwilwyr maeth yw cael darlun cywir o arferion bwyta pobl. Hyd yn hyn, mae’r rhan fwyaf o astudiaethau wedi dibynnu ar gyfranogwyr yn cofio ac yn cofnodi manylion eu prydau ond gall y cof fod yn annibynadwy ac felly nid yw’r data bob amser yn gadarn. Hefyd, mae pobl yn aml yn newid eu diet pan fyddant yn gwybod eu bod yn cael eu gwylio.
“Drwy ddatblygu methodoleg newydd, ein nod yw cael cofnod llawer mwy cywir o ddiet pobl a fydd yn helpu i lywio sut mae llywodraethau a llunwyr polisi yn asesu llwyddiant ymdrechion i wella iechyd pobl a rhoi gwell cyngor dietegol.
Ychwanegodd Dr Amanda J Lloyd o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth:
“Ar hyn o bryd nid oes un dechneg unigol a all gofnodi’n gwmws bob elfen o’r hyn rydyn ni’n ei fwyta a’i yfed, felly rydym yn defnyddio cyfuniad o dechnegau. Mantais defnyddio samplau wrin a gwaed i brofi am ‘farcwyr’ bwyd a diod yw eu bod yn rhoi data gwrthrychol i ni. Mae camerâu gwisgadwy ynghyd â meddalwedd AI, ac offer ar-lein symlach newydd ar gyfer hunan-adrodd hefyd yn cynnig potensial gwych i gofnodi diet.
“Rydyn ni eisoes wedi rhoi ein methodoleg ar brawf mewn astudiaeth beilot a gynhaliwyd mewn dau amgylchedd labordy rheoledig ond byddwn ni nawr yn gweld pa mor effeithiol yw ein technegau newydd o ran monitro’n union beth mae pobl yn ei fwyta a’i yfed yn eu bywydau bob dydd ac yng nghysur eu cartrefi eu hunain.”
Ariennir yr ymchwil gan grant o £2.5 miliwn a ddarperir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) a'r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC).
Gall pobl sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli ar gyfer yr astudiaeth wneud hynny yma: https://sodiat.org
AU2626
