Ydy ansicrwydd yn achosi gorbryder mewn oedolion awtistig?

Llun gan Liza Summer o Pexels

Llun gan Liza Summer o Pexels

02 Ebrill 2026

Mae academyddion yn ymchwilio i weld a yw wynebu sefyllfaoedd anhysbys neu annisgwyl yn cyfrannu’n benodol at orbryder mewn oedolion awtistig.

Mae'r astudiaeth newydd, dan arweiniad academyddion yn yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn canolbwyntio ar nodwedd a elwir yn anoddefiad ansicrwydd – y duedd o ddioddef straen arbennig wrth wynebu sefyllfaoedd nad oes modd eu rhagweld – a sut y gall hynny ffurfio profiadau o orbryder mewn awtistiaeth.

Mae awtistiaeth yn effeithio ar o leiaf 1% o'r boblogaeth, gyda nifer yr achosion sy’n cael diagnosis yn cynyddu yn y DU a mwy o bobl yn gofyn am asesiadau fel oedolion.

Mae gorbryder yn aml yn digwydd ochr yn ochr ag awtistiaeth: er bod sefyllfaoedd cymdeithasol yn gallu gwneud llawer o bobl yn bryderus, mae'r rhai ag awtistiaeth yn aml yn dweud bod y ffaith nad oes modd rhagweld beth yn union sydd o’u blaen yn arbennig o heriol.

Bydd y prosiect newydd yn edrych ar sut mae ansicrwydd yn dylanwadu ar bryder corfforol a seicolegol mewn oedolion awtistig, ac a yw'r patrymau hyn yn wahanol rhwng dynion a menywod.

Bydd y tîm ymchwil yn defnyddio holiaduron a grwpiau ffocws ar y cyd â thasgau ymddygiadol mewn labordy a fydd yn mesur cywirdeb, amser ymateb, cyfradd curiad y galon a dargludedd y croen mewn ymateb i ysgogiadau cymdeithasol a rhai heb fod yn gymdeithasol a gyflwynir mewn trefn y gellir eu rhagweld, a rhai na ellir eu rhagweld.

Trwy dynnu sylw at rôl ansicrwydd fel ffactor a allai achosi trallod, mae'r ymchwilwyr yn gobeithio cyfrannu at ddealltwriaeth lawnach o orbryder mewn awtistiaeth, gan arwain at newidiadau ymarferol mewn lleoliadau clinigol, addysgol a gweithleoedd i leihau pryder diangen - er enghraifft, gwella sut mae clinigwyr yn paratoi cleifion ar gyfer newidiadau annisgwyl i amserlenni, neu gynorthwyo addysgwyr a chyflogwyr i gyfathrebu mewn ffordd gliriach a chynnig llif gwaith mwy rhagweladwy.

Eleanor Gamble, ymchwilydd PhD yn yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth sy'n arwain yr astudiaeth. Dywedodd:

"Mae llawer o oedolion awtistig yn dweud bod newidiadau munud olaf - fel newid ystafell yn sydyn cyn darlith - yn gallu peri i’w gorbryder gynyddu, hyd yn oed pan fydd y newid i’w weld yn fach. Nid y newid ystafell ynddo'i hun sy'n peri straen, ond yn hytrach, er enghraifft, y ffaith nad yw’r lleoliad na’r trefniadau eistedd yn hysbys. Os gallwn ddangos bod ansicrwydd ei hun yn sbardun allweddol, gellid ailgynllunio gwasanaethau i flaenoriaethu darparu gwybodaeth glir, rhoi amser i baratoi ac osgoi sefyllfaoedd na ellir eu rhagweld. Gallai hynny wneud bywyd bob dydd yn haws mewn ffyrdd ystyrlon."

Ychwanegodd Dr Catherine O'Hanlon o’r Adran Seicoleg:

"Mae gorbryder yn gyffredin mewn awtistiaeth, ond mae'r rhan fwyaf o'r gefnogaeth yn dal i ganolbwyntio ar orbryder cyffredinol neu gymdeithasol. Mae'r astudiaeth hon yn gofyn cwestiwn gwahanol: a yw methu goddef ansicrwydd yn llwybr penodol, mesuradwy, sy’n arwain at orbryder mewn awtistiaeth? Os y gallwn ganfod nodwedd benodol o fewn profiadau awtistig, gallai hynny fireinio prosesau diagnostig a chryfhau'r achos dros ymyriadau wedi’u targedu sy'n lleihau ansicrwydd - a fydd yn y pen draw yn gwella canlyniadau clinigol a bywydau oedolion awtistig o ddydd-i-ddydd."

 

Bydd y tîm yn defnyddio holiaduron i asesu sut mae’r ymatebwyr yn goddef ansicrwydd, eu gorbryder, a’u nodweddion awtistig. Byddant hefyd yn cynnal grwpiau ffocws i ddeall sut mae oedolion awtistig yn profi ansicrwydd yn eu bywydau bob dydd.

Ychwanegodd yr Athro Charles Musselwhite o’r Adran Seicoleg:

"Bydd grwpiau ffocws yn ein galluogi i ystyried a thrafod profiadau bywyd pobl awtistig a'u dulliau nhw eu hunain o ymdopi â gorbryder mewn sefyllfaoedd bob dydd. Mae pobl awtistig yn aml yn gorfod bod yn hynod greadigol a gwydn i oresgyn y rhwystrau y maent yn eu hwynebu mewn sefyllfaoedd bob dydd, yn y gwaith, wrth hamddena - mewn siopau, bariau, bwytai ac ati, ac mewn gwasanaethau - lleoliadau gofal iechyd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus er enghraifft. Mae rhannu'r profiadau hyn mewn grwpiau ffocws yn gyfle i adnabod y rhwystrau allweddol a all godi, ynghyd â’r arloesedd a’r tactegau a ddefnyddir i’w goresgyn, a fydd yn hanfodol wrth weithio tuag at ddatrysiadau y gallai mannau cyhoeddus eu rhoi ar waith."

AU0726