Plastig newydd a wnaed o wymon i becynnu bwyd

Dr Jessica Adams

Dr Jessica Adams

25 Mai 2026

Gallai bwyd gael ei lapio mewn pecynnau a wnaed o wymon yn y dyfodol yn lle plastig artiffisial, diolch i ymchwil newydd.

Mewn papur a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Algal Research, mae academyddion o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn datgan bod modd troi echdyniadau o wymon yn blastig bioddiraddadwy amgen.

Gwneir ffilmiau plastig y diwydiant bwyd o danwydd ffosil yn bennaf. Yn 2022, roeddent yn cyfrif am ychydig yn llai na thraean o’r 400 miliwn o dunellau o blastig a gynhyrchwyd ledled y byd.

Caiff pecynnau plastig effaith fawr ar yr amgylchedd naturiol, wrth i 15 biliwn kg o wastraff plastig gyrraedd yr amgylchedd morol bob blwyddyn.

Mae y gwyddonwyr o orllewin Cymru wedi cyfuno alginad, echdynnyn o wymon, â chyfansoddion biolegol eraill i gryfhau’r plastig a’i wneud yn fwy hyblyg er mwyn gallu ei ddefnyddio ar gyfer lapio bwyd.

Mae’r echdyniadau yn cael eu troi’n bowdr a gymysgir â dŵr, a’u cynhesu ac yna eu moldio i greu ffilm. Mae’r academyddion wedi profi’r plastigau cynaliadwy newydd am eu cryfder, eu rhinweddau gwrthfacterol, eu gallu i wrthsefyll dŵr a nodweddion eraill. 

Dr Jessica Adams o IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’n newyddion da i’r blaned fod gwymon sy’n cael ei dyfu yn y DU yn gallu cael ei ddefnyddio i greu plastigau mwy cynaliadwy. Mae gan wymon gymaint o nodweddion arbennig ac unigryw, yn bennaf oherwydd bod ffilmiau a gynhyrchir o alginad yn hollol fioddiraddadwy, sy’n golygu bod hwn yn gynnyrch cwbl gylchol.

“Gellir defnyddio gwymon i ffurfio haenau tenau a thryloyw, tebyg i blastig sydd â llawer o nodweddion gwerthfawr, gan eu gwneud yn ddewis rhagorol yn lle deunyddiau lapio bwyd eraill.”

Dywedodd y myfyriwr PhD, Luke Barnett, a arweiniodd yr astudiaeth:

“Er bod gan fioblastigau hanes hir, mae pecynnu plastig, gan gynnwys ffilmiau, bellach yn dechrau symud i ddewisiadau amgen ecogyfeillgar. Bydd y ffynonellau mwy naturiol hyn ar gyfer pecynnu yn helpu i leihau effaith llygredd plastig ar yr amgylchedd. Dyna pam rydw i, ac eraill, mor angerddol dros symud yr ymchwil hwn ymlaen i’w roi ar waith yn ymarferol.”

Cefnogwyd yr ymchwil gan y BBSRC a’r cwmni bwyd Samworth Brothers Ltd.

Dywedodd yr Athro Anne Ferguson-Smith, Cadeirydd Gweithredol y BBSRC: “Mae gan y biowyddorau ran hanfodol i’w chwarae wrth ymdrin â heriau amgylcheddol, ac mae’r ymchwil hwn yn dangos sut y gall adnoddau naturiol, fel gwymon, ysbrydoli deunyddiau eraill amgen yn lle plastigau sy’n deillio o danwyddau ffosil.

“Drwy ein buddsoddiadau mae’r BBSRC yn cefnogi partneriaethau rhwng academia a byd diwydiant i droi darganfyddiadau ymchwil yn atebion ymarferol sy’n gwella bywydau a bywoliaethau, gan hybu bio-economi gylchol a mwy cynaliadwy.”

Dywedodd llefarydd ar ran Samworth Brothers:  “Cwmni bwyd go ddylanwadol yw Samworth Brothers – mae ein gwaith yn effeithio ar yr amgylchedd, newid hinsawdd, maeth, cyflogaeth, cadwyni cyflenwi a’r cymunedau lle gweithiwn; rydym yn benderfynol mai dylanwad er gwell fydd y dylanwad hwnnw. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’n hymroddiad i herio ymarferion y presennol  a chyfrannu at ymchwil a allai leihau’r effaith ar yr amgylchedd yn y dyfodol.”