Cors fawn yn llwyfan ar gyfer perfformiad hinsawdd

When Peat Speaks: A Boggy Ensemble

When Peat Speaks: A Boggy Ensemble

28 Mai 2026

Daeth cors fawn wedi dirywio yn llwyfan ar gyfer perfformiad awyr agored fis yma, wrth i ddata gwyddonol gael ei drawsnewid yn waith ymdrochol.

Arweiniodd ‘When Peat Speaks’, gan y darlithydd celf Miranda Whall ym Mhrifysgol Aberystwyth, at berfformiad yng Nghanolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran y Brifysgol.

Mae'r prosiect yn edrych at sut y gellir dehongli data gwyddonol drwy gelf, gan gyfuno gwyddoniaeth amgylcheddol a pherfformiad byw i amlygu arwyddocâd amgylcheddol corsydd mawn a'u rôl hanfodol yn yr argyfwng hinsawdd.

Mae'r gwaith yn tynnu ar ddata gwyddonol a gasglwyd gan wyddonwyr Prifysgol Aberystwyth o rwydwaith o synwyryddion pridd a osodwyd ar y gors ac o 32 llain o fawndir ym Mynyddoedd Cambria. Mae'r data hyn wedi'utrawsnewid yn ddarluniadau, cerfluniau, gweithiau sain a ffilm ddogfen.

Daeth yr elfennau hyn ynghyd mewn perfformiad amlgyfrwng gan ensemble rhyngwladol. Wedi'i lwyfannu ar y fawnog yn y cyfnos, edrychodd 'When Peat Speaks: A Boggy Ensemble' ar ei phwysigrwydd ecolegol a diwylliannol drwy gelf perfformio, byrfyfyrio cerddorol a dawns Butoh.

Dywedodd Miranda Whall:

“Mae’r prosiect hwn yn parhau â fy hymarfer o weithio ar draws celf a gwyddor amgylcheddol i agor ffyrdd amgen o ddeall prosesau a newid ecolegol. Mae mawndiroedd yn dal hanesion ecolegol a diwylliannol cymhleth, ac mae gen i ddiddordeb mewn sut y gellir eu synhwyro a’u profi.

“Drwy’r gwaith hwn, rwy’n edrych ar sut y gall prosesau artistig ddatgelu gwahanol ffurfiau o wybodaeth o fewn y dirwedd. Wrth i’r gwaith gyrraedd ei anterth, rwy’n gobeithio y bydd cynulleidfaoedd yn gweld y tirwedd nid yn unig fel storfa garbon, ond fel system fyw sy’n cario atgofion a sain dros amser. Mae’r perfformiad yn gwahodd ymgysylltiad mwy astud â’r tirweddau hyn, ynghyd ag ymdeimlad o’u bregusrwydd a’u rôl hanfodol yn yr argyfwng hinsawdd.”

Hefyd yn rhan o'r prosiect mae Mariecia Fraser, Athro mewn Ecosystemau Amaethyddol Ucheldir yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, ynghyd â nifer o gydweithwyr artistig.

Cefnogwyd y prosiect gan CO2RE, canolfan ymchwil genedlaethol y Deyrnas Gyfunol ar Waredu Nwyon Tŷ Gwydr, a ariennir gan Ymchwil ac Arloesi'r Deyrnas Gyfunol.