Camera crwydryn Mawrth yn glanio yn Aberystwyth wrth i Labordy’r Traeth ehangu

Labordy'r Traeth 24

Labordy'r Traeth 24

29 Mai 2026

Bydd camera prawf ar gyfer crwydryn sy’n mynd i’r blaned Mawrth yn glanio ar lan y môr Aberystwyth wrth i Labordy’r Traeth ddychwelyd ddechrau mis Mehefin, gyda gwledd fwy byth o wyddoniaeth a robotiaid.

Bydd y digwyddiad a gynhelir yn y Bandstand yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 6 Mehefin rhwng 10:00 a 15:00 yn dangos rhai o ffefrynnau’r cyhoedd.

Yn ogystal â hoff rhai y torfeydd, Doris y Dalek a K9 o Doctor Who, bydd cyfle gan bobl i fwynhau bygis hunan-yrru oddi ar y ffordd a cherbydau crwydro ar y traeth ynghyd â chael pip ar Tardis maint llawn.

Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu mwynhau chwythu swigod mewn ffyrdd newydd, anarferol a dysgu am y mathemateg sy’n eu hesbonio.

Eleni, bydd y digwyddiad ar raddfa fwy ac yn arddangos ystod eang o waith gwyddonol, gan gynnwys barasitoleg, cig wedi’i feithrin a delweddau lloeren o’r Ddaear.

Dywedodd Tally Roberts, Darlithydd Cyswllt ym Mhrifysgol Aberystwyth sy'n gyfrifol am allgymorth gwyddoniaeth:

“Mae'n hyfryd rhannu rhywfaint o lawenydd gwyddoniaeth gyda'r cyhoedd. Rydyn ni'n gwybod bod ein robotiaid bob amser yn boblogaidd gyda phlant ac oedolion - dyna pam mae Labordy’r Traeth yn un o uchafbwyntiau calendr gwyddoniaeth y Brifysgol.

“Eleni mae'r arddangosfeydd yn fwy ac yn well nag erioed o'r blaen. Rydyn ni'n rhannu amrywiaeth eang o'r gwaith sy'n digwydd yn y Brifysgol - o ffiseg a mathemateg i seicoleg a daearyddiaeth.

“Mae'n wych y bydd y tîm sy'n gweithio ar daith ExoMars i'r blaned Mawrth sydd ar ddod yn gallu dangos y systemau camera maen nhw'n gweithio arnyn nhw. Rwy'n siŵr y bydd pobl yn wirioneddol awyddus i weld ymchwil sy'n digwydd yn Aberystwyth a fydd ar ei ffordd i blaned arall ymhen cwpl o flynyddoedd.”

 

AU14226