Pryf parasitig yn 'aberthu’i olwg' ar ôl dod o hyd i letywr, yn ôl astudiaeth

Hisleuen Ceirw (deer ked) - llun gan un o ddefnyddwyr iNaturalist, François-Xavier Taxil

Hisleuen Ceirw (deer ked) - llun gan un o ddefnyddwyr iNaturalist, François-Xavier Taxil

01 Mehefin 2026

Mae ymchwil newydd yn dangos bod pryf parasitig sy'n bwydo ar waed yn colli’i sensitifrwydd gweledol ar ôl dod o hyd i letywr a rhoi'r gorau i hedfan yn barhaol.

Mae hislod ceirw (deer keds) - pryfed brathog sydd i’w cael ledled Ewrop, Asia, Affrica a Chyfandiroedd America - yn defnyddio eu llygaid a'u gallu i hedfan i ddod o hyd i organebau lletyol, ceirw fel arfer, ond weithiau pobl neu famaliaid eraill. Ar ôl glanio, fodd bynnag, maen nhw'n colli eu hadenydd yn barhaol ac yn treulio gweddill eu bywydau yn cropian trwy ffwr ac yn bwydo ar waed.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Fflorens bellach wedi dangos bod y newid trawiadol hwn yn eu ffordd o fyw yn digwydd law yn llaw â newid mawr ym mlaenoriaethau synhwyraidd y pryfed.

Ar ôl canfod organeb letyol, mae hislod ceirw yn cyfeirio adnoddau i ffwrdd o’u golwg, sydd o bosib yn arbed egni ar gyfer swyddogaethau sy'n fwy addas i fywyd fel parasit parhaol.

Dywedodd Dr Roger Santer o Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, a arweiniodd yr ymchwil:

"Mae golwg yn chwarae rhan hanfodol yn ymddygiad anifeiliaid, ond mae hefyd yn ddrud o ran egni. Mae esblygiad yn ffafrio systemau synhwyraidd sy'n cyd-fynd yn effeithlon â ffordd o fyw'r anifail. Mae rhai pryfed sy'n bwydo ar waed yn dibynnu'n helaeth ar eu golwg, tra bod eraill yn byw’n barhaol ar letywyr felly does ganddynt fawr o angen amdano. Mae hislod ceirw yn arbennig o ddiddorol gan eu bod yn newid o un ffordd o fyw i’r llall."

Dadansoddodd y tîm ymchwil hislod ceirw ar wahanol gyfnodau o'u cylch bywyd, gan gynnwys oedolion adeiniog a gafodd eu dal wrth iddynt hedfan i chwilio am letywyr, ac oedolion diadenydd a gasglwyd o geirw ar ôl iddynt fabwysiadu eu ffordd o fyw barasitig.

Edrychodd y gwyddonwyr ar y genynnau sy'n gyfrifol am sensitifrwydd gweledol ('opsinau'), gan gymharu eu gweithgarwch cyn ac ar ôl i'r pryfed golli eu hadenydd, er mwyn deall sut mae systemau synhwyraidd y pryfed yn ymateb i'r newid sydyn hwn yn eu ffordd o fyw.

Meddai Dr Santer:

"Canfuom fod system weledol hislod ceirw ehedol yn debyg iawn i’r hyn a geir mewn pryfed tsetse, y parasitiaid enwog sy’n bwydo ar waed mamaliaid lletyol yn Affrica. Fodd bynnag, ar ôl i hislod ceirw golli eu hadenydd a dod yn ectoparasitiaid, mae gweithgarwch eu genynnau opsin yn gostwng i tua hanner y lefel flaenorol. Mae hyn yn awgrymu nad yw'r pryfed yn colli’u golwg yn llwyr, ond bod eu sensitifrwydd gweledol yn lleihau. Rydyn ni'n meddwl y gallai'r pryfed fod yn aberthu eu golwg i arbed ynni ar gyfer swyddogaethau fel treulio ac atgenhedlu."

Mae canfyddiadau’r ymchwil, a gyhoeddwyd yn Journal of Experimental Biology, yn darparu dirnadaeth newydd ynghylch sut mae parasitiaid yn addasu eu systemau synhwyraidd yn ystod newidiadau mawr i’w ffordd o fyw.

Gallai gwella’n dealltwriaeth o sut mae hislod ceirw a phryfed brathog eraill yn defnyddio’u synhwyrau helpu i lywio strategaethau monitro a rheoli mwy effeithiol yn y dyfodol.

 

AU12026