Animeiddiadau newydd yn amlygu profiadau pobl hŷn o gam-drin domestig

Credyd: Artem Labunsky via Unsplash
15 Mehefin 2026
Mae dau animeiddiad newydd sy'n amlygu heriau unigryw y mae oedolion hŷn yn eu hwynebu wrth ddioddef cam-drin domestig wedi'u rhyddhau i nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Gam-drin Pobl Hŷn (dydd Llun, 15 Mehefin).
Mae ‘Lle i Ddweud’ a ‘Pŵer Gofyn’, a grëwyd gan academyddion Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Creative Connection Animation Studio, yn edrych ar brofiadau pobl hŷn sydd wedi dioddef cam-drin domestig.
Mae'r ddwy ffilm newydd yn rhannu safbwyntiau person hŷn sy'n datgelu cam-drin domestig yn ogystal ag ymarferydd rheng flaen sy'n ceisio creu'r amodau i bobl allu siarad a chael cefnogaeth.
Mae'r actorion Sera Cracroft ac Orinda Roberts yn ymddangos yn ‘Lle i Ddweud’, sy'n dilyn profiad menyw hŷn yn myfyrio ar oes o orfodaeth, ofn ac unigedd.
Mae'r ffilm yn amlygu’r effaith o gael gofyn am ei diogelwch mewn amgylchedd cefnogol a phreifat. Mae'n dangos sut y gall gymryd amser, ymddiriedaeth ac amynedd i allu siarad allan a sut y gall eiliadau bach o gysylltiad ddechrau newid.
Mae ‘Pŵer Gofyn’ yn cynnig canllawiau ymarferol i ymarferwyr a gwirfoddolwyr ar sut i helpu oedolion hŷn i siarad am eu profiadau mewn amgylchedd diogel.
Dywedodd Dr Rebecca Zerk, Cyd-arweinydd Menter Dewis Choice ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae pobl hŷn yn cael eu hanwybyddu’n rhy aml mewn sgyrsiau am gam-drin domestig. Crëwyd yr animeiddiadau hyn i herio rhagdybiaethau, cefnogi ymarferwyr yn y gwaith gwych y maent yn ei wneud drwy wneud y sgyrsiau ychydig yn haws ac i gryfhau lleisiau a phrofiadau pobl hŷn.
“Maent yn mynd y tu hwnt i godi ymwybyddiaeth o gam-drin yn ddiweddarach mewn bywyd ac yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n helpu pobl i ddatgelu eu profiad a mynd i’r afael ag ef. Dyna eu gwerth mawr, a gobeithiwn y byddant yn gwneud gwahaniaeth.”
Ychwanegodd Natalie Hancock, arweinydd rhanbarthol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Canolbarth a Gorllewin Cymru:
“Mae Lle i Ddweud yn adnodd pwerus a hanfodol. Mae’n atgoffa ymarferwyr o’r realiti y mae pobl hŷn yn ei wynebu wrth fyw â cham-drin domestig, a pha mor ddwfn y gall eu hymateb ddylanwadu ar p’un a yw rhywun yn teimlo’n ddigon diogel i rannu ei stori. Drwy atgyfnerthu pwysigrwydd arafu, bod yn chwilfrydig, a pheidio â chymryd yn ganiataol bod oedran yn diogelu rhywun rhag niwed, bydd yn atgoffa gweithwyr proffesiynol i greu'r amodau lle mae dioddefwyr hŷn yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu credu, a'u cefnogi. Mae’r animeiddiad hwn yn ein hatgoffa nad oes rhaid i oedran byth fod yn rhwystr i gydnabod cam-drin domestig a bod ymarferwyr yn aml yn allweddol i agor gofod lle mae datgelu'n teimlo'n bosibl.”
Dywedodd Elize Freeman, Cyd-arweinydd Menter Dewis Choice ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Mae prinder sylweddol o adnoddau Cymraeg ar gam-drin domestig, yn enwedig y rhai sy'n canolbwyntio ar bobl hŷn. Roedd sicrhau bod yr animeiddiadau hyn ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg yn flaenoriaeth i ni, gan helpu i sicrhau y gall pobl hŷn a'r rhai sy'n eu cefnogi gael mynediad at wybodaeth ac arweiniad yn eu dewis iaith."
Mae Menter Dewis Choice, sydd wedi'i lleoli yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn astudiaeth hirdymor sy’n ymchwilio i brofiadau bywyd y rhai sydd wedi dioddef cam-drin domestig yn ddiweddarach yn eu bywyd. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth i bobl hŷn sydd wedi profi cam-drin domestig.
Ariannwyd yr animeiddiadau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru drwy Fwrdd VAWDASV Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae'r ffilmiau ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg drwy fynd i:
Pŵer Gofyn https://youtu.be/KhxoOw2kYXU
Lle i Ddweud https://youtu.be/4OhD7FE-U9o
Power of Asking https://youtu.be/PQ9TB2hibQE
Space to Tell https://youtu.be/bQ8EWzfL6es
