Cynyddu’r nifer sy’n derbyn brechlynnau yw nod arbenigwyr mewn cyfarfod yng Ngholombia

Llun gan Anna Tarazevich ar Pexels
17 Mehefin 2026
Cynyddu'r nifer o bobl sy'n derbyn brechlynnau yn erbyn rhai o glefydau mwyaf niweidiol y byd fydd ffocws gwaith arbenigwyr o Brifysgol Aberystwyth mewn cyfarfod rhyngwladol o'r gymuned frechlynnau fyd-eang.
Bydd Dr Kate Parsons a Dr Simon Payne yn arwain sesiynau mewn gweithdy yn Cartagena, Colombia dros y tridiau nesaf (17–19 Mehefin 2026).
Bydd y digwyddiad yn dod â gwyddonwyr rhyngwladol ynghyd sy’n datblygu brechlynnau ar gyfer rhai o’r clefydau heintus mwyaf heriol yn y byd, yn enwedig y rhai sy’n effeithio ar wledydd incwm isel a chanolig.
Mae’r rhwydwaith ehangach sy’n trefnu’r digwyddiad, a elwir yn VALIDATE, yn canolbwyntio ar ymchwil i glefydau a achosir gan bathogenau cymhleth, gan gynnwys twbercwlosis, leishmaniasis, y gwahanglwyf a melioidosis.
Mae Dr Parsons a Dr Payne o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth yn arbenigwyr ym maes gwyddor ymddygiad a newid ymddygiad.
Bydd eu sesiynau’n canolbwyntio ar gymhwyso gwyddor ymddygiad yn ymarferol ym maes ymchwil i frechlynnau ac ar ddeall y ffactorau sy’n dylanwadu ar faint o bobl sy’n derbyn brechlynnau.
Dywedodd Dr Simon Payne, Darlithydd Seicoleg a Newid Ymddygiad ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Mae gwyddonwyr yn ein rhwydwaith yn datblygu brechlynnau ar gyfer clefydau cymhleth fel twbercwlosis a’r gwahanglwyf, sy'n cael effaith enfawr yn rhai o ranbarthau tlotaf y byd.
"Fodd bynnag, dim ond rhan o'r her yw datblygu brechlyn effeithiol. Mae gwir effaith yn dibynnu ar p’un a yw pobl yn fodlon ac yn gallu derbyn a chael mynediad at y brechlynnau hyn a’u defnyddio. Mae hynny'n gwneud gwyddor newid ymddygiad yn ganolog i ymchwil a chyflenwi brechlynnau yn llwyddiannus."
Ychwanegodd Dr Kate Parsons, Darlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Ym maes brechlynnau, mae deall ymddygiad yn hanfodol. Mae'n ein helpu i fynd at wraidd pam y gallai pobl deimlo'n ansicr - boed hynny oherwydd pryderon diogelwch, camwybodaeth, canfyddiadau o risg, neu ddylanwad cymdeithasol.
"Trwy gydnabod y ffactorau hyn, gall y rhai sy'n gweithredu rhaglenni brechu gynllunio cyfathrebu cliriach, gweithio'n agosach gyda chymunedau, a chyflwyno negeseuon trwy leisiau dibynadwy fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol neu ymgyrchoedd sy’n ddiwylliannol briodol.
"Ein nod yw pontio'r bwlch rhwng ymchwil labordy ac effaith yn y byd go iawn, trwy roi'r adnoddau i wyddonwyr sicrhau bod brechlynnau nid yn unig yn effeithiol, ond hefyd yn cael eu derbyn yn eang ac yn cael eu cyflwyno'n ymarferol i'r poblogaethau sydd eu hangen fwyaf."
Mae VALIDATE yn gydweithrediad rhyngwladol sy’n cynnwys dros 1,000 o ymchwilwyr o 80 o wledydd. Mae’n dod ag arbenigwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau a gwledydd ynghyd er mwyn cyflymu ymchwil a datblygiad brechlynnau. Ei nod yw gwella iechyd byd-eang drwy feithrin cydweithio, ariannu prosiectau arloesol, a rhannu gwybodaeth rhwng ymchwilwyr.
Dywedodd Samantha Vermaak, Rheolwr Gweithredol Rhwydwaith VALIDATE:
“Mae aelodau VALIDATE yn gweithio ar flaen y gad ym maes ymchwil brechlynnau, yn aml ar glefydau lle gall heriau gwyddonol, ymarferol a pholisi wneud cynnydd yn arbennig o anodd.
“Bydd sesiynau gwyddor ymddygiad Kate a Simon yn cynnig safbwynt ffres ac ymarferol, gan helpu ymchwilwyr i edrych y tu hwnt i’r labordy ac ystyried sut y gall cymunedau ddeall, defnyddio ac ymddiried mewn brechlynnau, yn ogystal â sut y gall y rhai sy’n llunio polisïau gefnogi eu cyflwyno.”
Mae’r gweithdy tridiau, o’r enw ‘Becoming Drivers of Change for Vaccines in One Health’, yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol y dull Iechyd Cyfunol, sy’n cydnabod y cysylltiad rhwng iechyd pobl, iechyd anifeiliaid ac iechyd yr amgylchedd. Drwy ddod â gwahanol ddisgyblaethau ynghyd, nod y dull hwn yw gwella'r ffordd rydym yn deall ac yn rheoli clefydau sy'n lledaenu rhwng pobl, anifeiliaid a'r amgylchedd.
