Prifysgol Aberystwyth yn lansio partneriaeth addysg newydd

Aberystwyth
03 Gorffennaf 2026
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio’n ffurfiol partneriaeth addysg newydd gyda’r nod o gryfhau ei hymgysylltiad rhyngwladol ac ymestyn cyrhaeddiad byd-eang ei darpariaeth academaidd.
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnig tri o'i rhaglenni Meistr drwy gytundeb partneriaeth newydd gydag arbenigwyr addysg rhyngwladol GEDU Global Education, sydd eisoes â phresenoldeb yn ardal Moabit yn Berlin.
O fis Hydref 2026, bydd myfyrwyr yn gallu astudio rhaglenni MSc mewn Deallusrwydd Artiffisial Cymhwysol, Rheoli Digwyddiadau a Phrofiadau Byd-eang, a Marchnata Digidol.
Mae gan GEDU Global Education, sydd â'i bencadlys yn y Deyrnas Gyfunol, brofiad helaeth o gefnogi llwyddiant sefydliadau addysg blaenllaw ledled y byd, gan gynnwys yn yr Almaen.
Dywedodd Fran Carey, Prif Swyddog Marchnata ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Rydym ni’n falch ein bod wedi ffurfio’r bartneriaeth newydd hon. Mae’n gyfle gwych i ddod â’n traddodiad o ragoriaeth academaidd, cefnogaeth bersonol a dysgu uchelgeisiol i fwy o fyfyrwyr rhyngwladol. Drwy gynnig ein rhaglenni yn Berlin, gallwn wneud addysg yn Aberystwyth yn fwy hygyrch i fyfyrwyr talentog o bob cwr o’r byd.
“Byddwn ni’n cadw trosolwg academaidd lawn o’r holl raglenni sy’n cael eu cynnig drwy’r bartneriaeth, gan gynnwys cyfrifoldeb am gymeradwyo rhaglenni, safonau asesu ac arholiadau, a sicrhau ansawdd parhaus.
“Bydd ein rhaglenni Meistr cyntaf yn Berlin yn cyfuno’r trylwyredd academaidd hwnnw â pherthnasedd ymarferol. Paratoi myfyrwyr i wneud gwir effaith yn niwydiannau’r dyfodol.”
Darperir y cyrsiau drwy bartneriaeth gyda GEDU a bydd GEDU yn darparu’r seilwaith sy’n angenrheidiol yn yr adeilad yn Alt-Moabit i ddechrau addysgu’r rhaglenni ym mis Hydref 2026.
Ychwanegodd yr Athro Ray Lloyd, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol GEDU Global Education:
“Rydym ni wrth ein bodd yn gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth i agor hyd yn oed mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr elwa o’r rhagoriaeth y mae’n ei chynnig.”
“Wedi’i seilio ar werthoedd cyffredin, mae’r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd gan GEDU a Phrifysgol Aberystwyth i ddarparu addysg o ansawdd uchel, profiad myfyrwyr rhagorol a chanlyniadau myfyrwyr sy’n newid bywydau.”
