Prifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi Cymrodoriaethau a Doethuriaethau er Anrhydedd 2026

Colofn gyntaf: Yr Athro Martin Stoddart a Bethan Bryn Ail golofn: Rosemary Kabaki, Ioan Guile a'r Athro Syr George Berwick CBE Trydydd golofn: Richard Howells OBE a Dato' Amin Rafie Othman

Colofn gyntaf: Yr Athro Martin Stoddart a Bethan Bryn Ail golofn: Rosemary Kabaki, Ioan Guile a'r Athro Syr George Berwick CBE Trydydd golofn: Richard Howells OBE a Dato' Amin Rafie Othman

08 Gorffennaf 2026

Bydd unigolion blaenllaw yn y sectorau addysg, cerddoriaeth, hawliau dynol a chyllid yn derbyn Gwobrau er Anrhydedd yn seremonïau graddio Prifysgol Aberystwyth y mis hwn.

Cyflwynir Cymrodoriaethau er Anrhydedd gan y Brifysgol i bobl sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu maes ac sydd â chysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru:

  • Yr Athro Syr George Berwick CBE: arweinydd addysgol uchel ei barch sydd wedi cael ei urddo'n farchog am ei waith arloesol ym maes addysg ac sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at wella ysgolion yn y DU ac yn rhyngwladol.
  • Bethan Bryn: telynores, beirniad, a gosodwraig cerdd dant sydd wedi hyfforddi cannoedd o blant, pobl ifanc, oedolion, partïon a chorau, ac wedi llwyddo i gyflwyno cerdd dant i gynulleidfa ehangach.
  • Ioan Guile: tiwtor dysgu Cymraeg i oedolion sydd wedi dysgu am fwy na 25 mlynedd. Mae hefyd wedi bod yn ymwneud â Chwmni Theatr y Wardens yn Aberystwyth ers bron i 50 mlynedd ac wedi arwain digwyddiadau cymunedol.
  • Dato' Amin Rafie Othman: Uwch weithredwr gyda thros bedwar degawd o brofiad mewn masnach ryngwladol, rheoli buddsoddiadau a chyllid. Mae wedi cadeirio ac eistedd ar fyrddau cwmnïau ym Malaysia, Singapore, Gwlad Thai a Hong Kong.

Yn ogystal, bydd tri unigolyn yn derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd i gydnabod llwyddiant eithriadol yn eu priod feysydd. Sef:

  • Richard Howells OBE: Prif Swyddog Gweithredol Bronze Software Labs Ltd, cwmni ymchwil a datblygu cymhwysol y mae ei waith yn rhychwantu mentrau Formula 1, data mawr a 'tech for good' wedi'u pweru gan DA.
  • Rosemary Kabaki: Pennaeth y Genhadaeth yn y Llu Heddwch Di-drais yn Ne Sudan a chyfrannwr hirsefydlog i gadw heddwch rhyngwladol. Mae ganddi hefyd brofiad helaeth o weithio yn Kenya mewn sefydliad anllywodraethol a’r sectorau gweision sifil.
  • Yr Athro Martin Stoddart: Dirprwy Gyfarwyddwr ac Arweinydd Rhaglen ar gyfer Orthopaedeg Adfywiol yn Sefydliad Ymchwil AO Davos, y Swistir. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar sut y gall RNA nad ydynt yn codio wella atgyweiriad cyhyrysgerbydol.

Dywedodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Graddio yw un o uchafbwyntiau'r flwyddyn. Mae’n amser i ni ddod at ein gilydd fel cymuned i ddathlu llwyddiant ein graddedigion gyda’u cefnogwyr. Rydym yn ymroddedig i newid bywydau er gwell ac rwy'n llawn cyffro am ddyfodol ein graddedigion wrth iddynt symud ymlaen i gam nesaf eu bywydau. Llongyfarchiadau i bob un ohonynt.

"Mae hefyd yn gyfle gwych i ddathlu llwyddiannau ein Cymrodyr a'n Doethurion er Anrhydedd. Mae pob un wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu priod feysydd ac edrychaf ymlaen at ddathlu ac anrhydeddu eu cyflawniadau."

Cynhelir dathliadau graddio'r Brifysgol rhwng 14-16 Gorffennaf mewn saith seremoni yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau.