Pennaeth NASA yn cwrdd ag academydd Aberystwyth sy’n helpu canfod bywyd ar y blaned Mawrth

Dr Gunn yn cyfarfod â Gweinyddwr NASA, Jared Isaacman, mewn digwyddiad i randdeiliaid ar safle Airbus yn Stevenage yn gynharach yr wythnos hon.

Dr Gunn yn cyfarfod â Gweinyddwr NASA, Jared Isaacman, mewn digwyddiad i randdeiliaid ar safle Airbus yn Stevenage yn gynharach yr wythnos hon.

24 Gorffennaf 2026

Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi cwrdd â Phennaeth NASA i drafod ei waith ar grwydryn planed Mawrth a fydd yn ceisio darganfod arwyddion bywyd ar y blaned goch.

Cafodd Jared Isaacman, sydd wedi hedfan i’r gofod mwy nag unwaith fel gofodwr preifat, ei benodi i arwain Asiantaeth Gofod yr UDA y llynedd.

Fe sydd â’r cyfrifoldeb am arwain ymdrechion ei genedl i ddychwelydgofodwyr i’r lleuad ymhen dwy flynedd, ac yn y pen draw i’r blaned Mawrth.

Mae Dr Matt Gunn yn un o’r academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n arwain ar adeiladu offeryn allweddol ar gyfer taith i’r blaned Mawrth.

Bydd y sbectromedr is-goch, o’r enw Enfys, yn rhan o'r gyfres o offerynnau synhwyro o bell ar Grwydryn Rosalind Franklin ExoMars a fydd yn lansio i’r blaned goch yn 2028.

Mae Crwydryn Rosalind Franklin yn rhan o raglen ExoMars yr Asiantaeth Ofod Ewrop, a hwn fydd y crwydryn cyntaf o Ewrop i fynd i’r blaned Mawrth.

Cynlluniwyd y crwydryn i gael ei weithredu o bell ar hyd tirwedd garw’r blaned, a bydd yn tyllu hyd at ddau fetr o dan yr arwyneb i ddadansoddi samplau am gyfansoddion organig a biofarcwyr - arwyddion posibl o fywyd yn y gorffennol neu'r presennol.

Bydd Enfys yn gweithio ochr yn ochr â PanCam - system gamerâu a arweinir gan Labordy Gwyddoniaeth y Gofod Mullard yng Ngholeg Prifysgol Llundain - i ganfod mwynau penodol.

Bydd yr wybodaeth hon yn galluogi'r crwydryn i ddewis y safleoedd tyllu gorau posibl ar arwyneb y blaned Mawrth, a bydd y samplau’n cael eudadansoddi gan offerynnau eraill ar y crwydryn.

Cyfarfu Dr Gunn â Gweinyddwr NASA, Jared Isaacman, mewn digwyddiad i randdeiliaid ar safle Airbus yn Stevenage yn gynharach yr wythnos hon. 

Dr Matt Gunn o'r Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth yw'r Prif Ymchwilydd ar brosiect Enfys.  Dywedodd: 

"Roedd yn fraint cwrdd â Gweinyddwr Isaacman a chyflwyno ein gwaith iddo. Mae ein gwaith yn gosod Aberystwyth, a Chymru, wrth galon un o'r prosiectau mwyaf cymhleth erioed ym maes archwilio planedau. Rydym yn manteisio ar flynyddoedd o brofiad o ddatblygu offer gofod i wthio ffiniau'r hyn sy'n bosibl."

"Er bod sawl crwydryn wedi archwilio’r blaned Mawrth, Rosalind Franklin fydd y cyntaf i dyllu drwy’r arwyneb sydd wedi’i grasu gan yr haul, i ddyfnder o ddwy fetr lle mae'r siawns o ddod o hyd i dystiolaeth o fywyd ar ei uchaf. Mae'n gyffrous iawn cael cyfrannu at daith a allai helpu i ddatgloi cyfrinachau bywyd ar y blaned Mawrth. Roedd yn bleser i drafod ein gwaith gyda Phennaeth NASA hefyd."

Ar ôl y garreg filltir hon, bydd y tîm, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, yn troi ei sylw at adeiladu model hedfan (flight model) Enfys, a fydd yn cael ei osod ar Grwydryn Rosalind Franklin cyn ei daith i'r blaned goch.

Arweinir y gwaith o ddatblygu a phrofi Enfys gan Brifysgol Aberystwyth, gyda chymorth Labordy Gwyddoniaeth y Gofod Mullard (MSSL) yng Ngholeg Prifysgol Llundain, Labordy Rutherford Appleton STFC a Qioptiq Ltd.

Rhoddwyd mwy o gyfrifoldeb am y prosiect i Brifysgol Aberystwyth ar ôl diddymu’r cydweithredu â Roscosmos yn Rwsia yn sgil ymosodiad Rwsia ar Wcráin yn 2022. Ni fyddai wedi bod yn bosibl datblygu Enfys heb y £10.7 miliwn ychwanegol gan Asiantaeth Ofod y DU.