Dros un rhan o bump o ffermydd wedi profi trosedd yn ystod y 12 mis diwethaf – arolwg

Dr Wyn Morris (chwith) o Ysgol Fusnes Aberystwyth a Dr Gareth Norris o'r Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu’r arolwg o droseddau mewn ardaloedd gwledig.
29 Gorffennaf 2026
Roedd 22% o ffermydd wedi dioddef trosedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn ôl arolwg newydd o droseddau gwledig, a arweiniwyd gan academyddion Prifysgol Aberystwyth.
Mae'r astudiaeth, sy’n seiliedig ar arolwg manwl o fwy na 150 o gyfranogwyr, yn datgelu bod cymunedau gwledig yn wynebu heriau parhaus gyda lladrad, difrod i eiddo, a throseddau amgylcheddol, tra'n profi adnoddau heddlu a gwasanaethau cymorth cyfyngedig.
Er bod yr arolwg yn datgelu bylchau sylweddol mewn atal troseddau, mecanweithiau adrodd, a systemau cymorth cymunedol, nododd 78% o ddioddefwyr eu bod yn fodlon ag ymateb yr heddlu.
Lladrad yw'r math mwyaf cyffredin o drosedd sy'n effeithio ar ffermydd, gan dargedu peiriannau, da byw, ac offer, gyda lladrad peiriannau yn cynrychioli 65% o'r troseddau sy'n taro busnesau amaethyddol.
Wedi'i ariannu fel rhan o brosiect Cymru Wledig LPIP, Dr Wyn Morris a Dr Gareth Norris oedd awduron yr adroddiad. Maent wedi bod yn olrhain tueddiadau mewn troseddau gwledig yn Nyfed-Powys a ledled Cymru dros yr 8 mlynedd diwethaf.
Dywedodd Dr Morris a Dr Norris o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae’r canlyniadau diweddaraf yn dangos y gwaith rhagorol y mae heddluoedd yng Nghymru wedi’i wneud i leihau’r effaith y mae troseddau gwledig yn ei chael ar ein cymunedau a’n busnesau. Fodd bynnag, bob blwyddyn rydym ni’n gweld tueddiadau newydd sy’n gofyn am werthuso gofalus ac ymyriadau wedi’u targedu. Rydym ni’n ddiolchgar am y cyfle i weithio ochr yn ochr â’r heddlu ar y fenter bwysig hon a hoffem ni ddiolch i holl ymatebwyr yr arolwg am rannu eu profiadau.”
Ar ddydd Llun 3ydd Awst, bydd Cymru Wledig LPIP yn cynnal trafodaeth ar gyfer lansiad eu hadroddiad Arolwg Troseddau Fferm a Gwledig yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ar Stondin Heddlu Dyfed-Powys. Bydd y lansiad yn rhoi cyfle i glywed mwy am y canfyddiadau allweddol a fydd yn cynnig cipolwg hanfodol ar gyflwr troseddau gwledig a fferm.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn:
“Gall troseddau gwledig gael effaith ddinistriol ar gymunedau, busnesau a theuluoedd. Mae’r adroddiad hwn yn cynnig cipolwg hanfodol ar agweddau tuag at blismona a throseddu ar draws cymunedau gwledig yng Nghymru. Rhaid i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i gefnogi cymunedau gwledig a deall eu pryderon a’u heriau.”
