Busnesau seidr, gwarchod ffermydd a gŵyl gerddoriaeth yn ennill Gwobrau Menter

Enillwyr y gwobrau £10,000 o'r chwith i'r dde: Liam Bell, Stephanie McGean, Camp Wender, Ffion Roberts, Pennaeth Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Aberystwyth Bev Herring, Holly Zeidler ac Adam Broomhead
28 Medi 2026
Mae mentergarwr sy'n cynhyrchu seidr, sylfaenydd busnes gwarchod ffermydd (farm-sitting) ledled Prydain, a threfnwyr rhaglen o wyliau cerddoriaeth ymhlith enillwyr Gwobrau Menter Prifysgol Aberystwyth.
Mae'r gwobrau, sydd yn eu 12fed flwyddyn ac a gefnogir trwy roddion gan gyn-fyfyrwyr a Chronfa Arloesi Ymchwil Cymru, yn dathlu creadigrwydd ac arloesedd myfyrwyr a graddedigion diweddar Prifysgol Aberystwyth.
Dyfarnwyd £10,000 yr un i dri enillydd. Byddant yn cael eu cefnogi gan y Brifysgol dros y 12 mis nesaf wrth iddynt barhau i ddatblygu eu mentrau. Cawsant eu dewis yn dilyn asesiad o’r ceisiadau busnes gan banel o feirniaid o gefndiroedd a meysydd arbenigedd amrywiol.
Dyfarnwyd gwobr £10,000 i Ffion Roberts, myfyriwr PhD yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru, am ei busnes Tŷ Seidr Bar & Bottle Shop. Mae'r bar annibynnol, sydd wedi’i leoli yng nghanol Aberystwyth, yn gwerthu seidr, cwrw crefft ac mae ganddo 100 o gemau bwrdd at ddefnydd y cwsmeriaid.
Dywedodd Roberts y byddai'r wobr ariannol yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu amrediad newydd o gynnyrch seidr. Dywedodd: "Pan rydych chi’n rhedeg busnes bach, mae'n rhaid cyfiawnhau pob gwariant, ac mae wastad rhestr o bethau y byddech chi'n eu gwneud pe bai'r arian yno. Bydd y wobr hon yn fy ngalluogi i wneud buddsoddiad yn y busnes na allwn ei gyfiawnhau fel arall.
"Mae'n rhoi’r cyfle i mi dyfu'r cynnyrch, cyrraedd pobl ymhell y tu hwnt i Aberystwyth a chryfhau'r busnes ar gyfer yr hirdymor. Rwyf wrth fy modd fy mod i wedi ennill y wobr, ac rwy’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth ac am y ffydd mae hyn yn ei ddangos yn yr hyn rydw i'n ei adeiladu."
Enillodd Holly Zeidler, myfyrwraig BSc Amaethyddiaeth a Rheoli Busnes, £10,000 hefyd i ddatblygu busnes gwarchod ffermydd sy'n gweithredu ledled Prydain. Mae Zeidler a'i phartner busnes yn cynnig cymorth - o ofalu am dda byw i waith cyffredinol ar y fferm - i alluogi ffermwyr i deithio at ddibenion proffesiynol yn ogystal â phersonol.
Dywedodd Zeidler: "Dros y 12 mis diwethaf, y gefnogaeth fwyaf a gawsom gan y Brifysgol yw'r cyfleoedd a'r cysylltiadau y mae wedi’u rhoi i mi. Bu modd i mi redeg The BZy Shepherd ochr yn ochr â’m gradd, ac mae cael pobl o'm cwmpas sy'n deall y diwydiant, herio fy syniadau, a fy annog yn barhaus wedi ein helpu i fynd â'r busnes ymhellach nag yr oeddem yn meddwl oedd yn bosib. Fe wnaeth y gefnogaeth un-i-un a gawsom gan y Tîm Menter ein hannog i wneud cais am y Gwobrau Menter, sydd wedi arwain at gyfle cyffrous arall i ni ddatblygu'r busnes."
Y trydydd i ennill gwobr o £10,000 oedd Camp Wender, myfyriwr MA mewn Celfyddyd Gain, ac Alana Batty Hughes, a raddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn 2025, sy'n cyd-redeg Gŵylan, cwmni digwyddiadau byw sy'n trefnu rhaglen o wyliau cerddoriaeth yn Aberystwyth a'r cyffiniau.
Mae saith enillydd i gyd, a chynhaliwyd digwyddiad i’w gwobrwyo ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw (23 Medi).
Dywedodd yr Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Mae natur gydweithredol ac amrywiol y syniadau yn y gystadleuaeth hon yn werth ei ddathlu. Mae yna amrywiaeth wirioneddol yn y mentrau buddugol eleni, o fusnesau yn y sectorau creadigol, amaethyddol a bwyd a diod i fentrau cymdeithasol ac arloesi digidol. Mae’n arbennig o gyffrous gweld partneriaethau a fydd yn darparu cynnyrch, gwasanaethau a thwf cadarnhaol yn y gymuned leol.
"Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i'n cyn-fyfyrwyr ac i Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru am eu cyfraniadau i helpu i ariannu'r wobr eleni. Maen nhw'n chwarae rhan allweddol wrth helpu’r myfyrwyr a’r graddedigion o Brifysgol Aberystwyth a enillodd eleni i ddatblygu syniadau a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol a newid bywydau er gwell."
Yr enillwyr eraill oedd:
£5,000 – elusen celfyddydau creadigol a lles sy'n cyflwyno gweithdai i feithrin cymuned, a arweinir gan Hannah Hannon-Worthington (myfyrwraig israddedig Celfyddyd Gain yn ei thrydedd flwyddyn).
£2,500– gêm fideo addysgol sy'n dysgu hanfodion y gyfraith i bobl, a arweinir gan Tomos Jenkyn-Jones (myfyriwr israddedig LLB yn ei drydedd flwyddyn).
£2,500– One Device Multiple Impact – menter gymdeithasol sy'n cyflenwi dyfeisiau wedi'u hadnewyddu ac sy’n darparu dysgu digidol i gymunedau yr effeithiwyd arnynt gan ddadleoli, a arweinir gan Ghakanyuy Fabrice Bongbarah (myfyriwr MSc Gwyddor Data a raddiodd yn 2026).
£1,000- Veloura - llwyfan e-fasnach a gynlluniwyd i wasanaethu busnesau bach, a arweinir gan Nadhirah Zulkifli (myfyriwr BSc Gwyddor Data a raddiodd yn 2026).
AU21926
