Gwyddonydd milfeddygol o Aberystwyth wedi'i hethol i rôl arwain genedlaethol ym maes milfeddygaeth

Dr Gwenllian Rees
25 Medi 2026
Mae darlithydd o Ysgol y Gwyddorau Milfeddygol Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei hethol yn Llywydd Cymdeithas Filfeddygol Prydain (BVA).
Mae Dr Gwenllian Rees yn un o’r academyddion a sefydlodd yr unig ysgol filfeddygol yng Nghymru, lle mae'n helpu i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol milfeddygol. Cymdeithas Filfeddygol Prydain yw'r sefydliad aelodaeth proffesiynol sy'n cynrychioli 19,000 o filfeddygon ledled y DU.
Yn uchel ei pharch ar draws y sectorau ffermio a milfeddygol, mae'n fwyaf adnabyddus am arwain y Rhwydwaith Hyrwyddwyr Presgripsiynu Milfeddygol arobryn ar ran Arwain DGC, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n mynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn da byw sy’n cnoi cil.
Wrth sôn am ei hetholiad, dywedodd Dr Rees:
“Rwy'n falch iawn o ymgymryd â rôl Llywydd Cymdeithas Filfeddygol Prydain ac rwy’n edrych ymlaen at gynrychioli'r proffesiwn ar ran ein haelodau. Trwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi bod yn angerddol am gefnogi'r proffesiwn milfeddygol a'r anifeiliaid a'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu, yn enwedig mewn meysydd fel stiwardiaeth gwrthficrobaidd, lles anifeiliaid a chynhyrchu da byw yn gynaliadwy. Rwy'n falch o gynrychioli Cymru a Phrifysgol Aberystwyth yn y rôl hon, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws y proffesiwn i helpu i fynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu timau milfeddygol heddiw.”
Ychwanegodd yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Milfeddygol Aberystwyth:
“Rydym yn llongyfarch Gwen yn gynnes ar gael ei hethol i'r rôl genedlaethol nodedig hon. Mae ei harweinyddiaeth, ei harbenigedd a'i hymroddiad i wella iechyd anifeiliaid wedi cael effaith sylweddol ar draws y proffesiwn milfeddygol, yn enwedig trwy ei gwaith ar ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae hi'n llysgennad rhagorol i Brifysgol Aberystwyth, i filfeddygaeth, ac i Gymru, ac rydym yn falch iawn o weld ei chyfraniadau yn cael eu cydnabod ar y lefel uchaf.”
Ochr yn ochr â'i rôl addysgu academaidd, mae Dr Rees yn cynnal ymchwil sy'n cyfuno gwyddoniaeth ymddygiadol ac epidemioleg i wella sut mae cymunedau amaethyddol yn rheoli meddyginiaethau da byw, yn mynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd, ac yn rheoli trosglwyddo clefydau parasitig fel llyngyr yr afu a llyngyr hydatid.
Mae hi hefyd yn gwasanaethu ar Grŵp Cynghori Technegol ar Twbercwlosis Buchol Llywodraeth Cymru a’r Grŵp Cyflawni Ymwrthedd Gwrthficrobaidd mewn Iechyd Anifeiliaid ac mae'n Ymddiriedolwr y Sefydliad Lles Anifeiliaid.
Mae ei gwaith i hyrwyddo defnydd gwrthficrobaidd cyfrifol wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol. Yn 2023, derbyniodd y prosiect Wobr Gwarcheidwad Gwrthfiotigau Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU am Bresgripsiynu a Stiwardiaeth, ac yn 2021 cyflwynwyd Gwobr Effaith Coleg Brenhinol y Milfeddygon iddi. Mae hi'n Gymrawd Coleg Brenhinol y Milfeddygon a’r Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol.
Mae hi wedi bod yn aelod gweithgar o Gymdeithas Filfeddygol Prydain ers blynyddoedd lawer, gan wasanaethu fel Is-lywydd Iau yn 2025-26, Llywydd Cangen Cymru o’r gymdeithas rhwng 2023-25, ac fel aelod o Fwrdd y Gymdeithas.
