Trafod Ieithoedd Prydain Rufeinig mewn cynhadledd yn Aberystwyth

Y Baddonau Rhufeinig, Caerfaddon. Llun o Pixabay
08 Hydref 2026
Bydd ymchwilwyr o bob rhan o Ewrop yn dod ynghyd yn Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn i drafod sut y defnyddiwyd ieithoedd Celtaidd a Lladin ym Mhrydain Rufeinig.
Wedi’i threfnu gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, bydd y gynhadledd ar 17 Hydref yn trafod yr ieithoedd a siaradwyd ym Mhrydain yn ystod y cyfnod Rhufeinig a’r dylanwad a gafodd y rhain ar ei gilydd.
Lladin oedd yr iaith fwyaf amlwg ym Mhrydain Rufeinig, ond parhawyd i siarad ieithoedd Celtaidd ledled y wlad. Gellir gweld y rhyngweithio rhwng Lladin a’r ieithoedd hyn o hyd mewn enwau lleoedd hynafol, arysgrifau a geiriau a drosglwyddwyd o Ladin i ieithoedd Celtaidd, gan gynnwys y geiriau Cymraeg pont allyfr.
Bydd Dr Simon Rodway a Dr Alexander Falileyev yn rhannu eu hymchwil i ieithoedd Celtaidd a’r rhyngweithio rhyngddynt a Lladin ym Mhrydain Rufeinig ag ymchwilwyr o Sbaen, yr Almaen a’r Eidal.
Dywedodd Dr Simon Rodway, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth:
“Roedd Prydain Rufeinig yn gymdeithas amlieithog gymhleth, a gall y berthynas rhwng yr ieithoedd Celtaidd a Lladin ddweud llawer wrthym am y bobl a oedd yn byw yma a’u cysylltiadau â’r byd Rhufeinig ehangach.
“Rydym yn dod ag ymchwilwyr o nifer o feysydd ynghyd i drafod cwestiynau sy’n amrywio o ddwyieithrwydd ac enwau lleoedd i arysgrifau, gramadeg ac enwau duwiau Celtaidd. Gyda’i gilydd, gall y gwahanol fathau hyn o dystiolaeth ein helpu i wella ein dealltwriaeth o’r ieithoedd a siaradwyd ym Mhrydain Rufeinig a’r bobl a oedd yn eu defnyddio.”
Mae’r rhaglen yn cynnwys ymchwil i ddwyieithrwydd a hunaniaeth, enwau lleoedd hynafol yn yr Alban, dylanwad Lladin ar yr ieithoedd Celtaidd, testunau newydd o Brydain Rufeinig ac enwau duwiau Celtaidd a Rhufeinig.
Cynhelir y gynhadledd yn y Tŷ Trafod yn y Ganolfan Ddelweddu ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth rhwng 9.30 a 17.40. Mae mynediad am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw.
