Treialon crwydryn Mawrth yn yr anialwch yn profi technoleg Aberystwyth

Dr Helen Miles yn ‘Rover Operations Control Centre’ yn Turin

Dr Helen Miles yn ‘Rover Operations Control Centre’ yn Turin

01 Hydref 2026

Mae technoleg a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei defnyddio yn yr amgylchedd awyr agored tebycaf i’r blaned Mawrth yn Ewrop i baratoi ar gyfer taith ExoMars Asiantaeth Ofod Ewrop.

Mae ymchwilwyr o Adrannau Ffiseg a Chyfrifiadureg y Brifysgol yn cefnogi ymarfer pwysig yn Anialwch y Tabernas yn Sbaen, lle mae prototeip o'r crwydryn Rosalind Franklin yn cymryd rhan mewn cyfres o dreialon cyn lansiad arfaethedig y daith yn 2028.

Wedi'i leoli yn nhalaith Almería yn ne-ddwyrain Sbaen, Anialwch y Tabernas yw'r unig anialwch go iawn ar dir mawr Ewrop. Mae ei hinsawdd sych, ei dirwedd garw a'i dir creigiog yn ei wneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer profi technolegau archwilio'r gofod o dan amodau tebyg i’r blaned Mawrth.

Mae'r treial yn dod â gwyddonwyr a pheirianwyr o bob cwr o Ewrop ynghyd i asesu caledwedd, meddalwedd a gweithdrefnau gweithredol o dan amodau realistig cyn i'r crwydryn ddechrau ei daith.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithio ar ddau ddarn allweddol o galedwedd sy'n cael eu datblygu ar gyfer y daith: PanCam, camera panoramig amlsbectrol sy’n cael ei arwain gan Labordy Gwyddor Gofod Mullard yng Ngholeg Prifysgol Llundain, ac Enfys, sbectromedr is-goch sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth.

Yn ystod y daith ei hun, bydd PanCam ac Enfys yn gwasanaethu fel "llygaid" gwyddonol y crwydryn, a byddant yn helpu gwyddonwyr i ganfod y lleoliadau mwyaf addawol i chwilio am dystiolaeth o fywyd yn y gorffennol. Mae’r offerynnau wedi’u dylunio i ganfod mwynau, gan gynnwys clai a deunyddiau eraill wedi'u ffurfio gan ddŵr sydd, ar y Ddaear, yn adnabyddus am warchod cyfansoddion organig ac a allai ddarparu cliwiau am weithgaredd microbaidd yn y gorffennol pell.

Yn ystod y treialon maes, defnyddir efelychwyr: systemau sydd wedi'u cynllunio i ddynwared y caledwedd go iawn ond nad ydynt yn gymwys i'w defnyddio yn y gofod. Mae'r systemau efelychu hyn yn caniatáu i ymchwilwyr ymgymryd â phrofion maes helaeth heb beryglu caledwedd gwerthfawr yr hediad, sy'n gostus ac yn cymryd llawer o amser i'w ddatblygu. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cyflenwi dau efelychydd ar gyfer yr ymarfer: Efelychydd PanCam Prifysgol Aberystwyth (AUPE) ac efelychydd Enfys.

Mae Dr Helen Miles, Uwch Ddarlithydd Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu a dilysu'r feddalwedd a ddefnyddir yn ystod yr ymarferion, a bydd peth o’r feddalwedd honno yn cael ei defnyddio ar y daith go iawn at ddibenion rheoli offerynnau a phrosesu data. Dywedodd:

“Mae ymarferion fel y rhain yn gam hanfodol wrth baratoi ar gyfer teithiau i archwilio planedau. Maent yn ein galluogi i werthuso technolegau, meddalwedd a gweithdrefnau gweithredol mewn amgylchedd heriol sy'n rhannu llawer o nodweddion â’r blaned Mawrth.

“Mae'n gyffrous gweld systemau sydd wedi cael eu datblygu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at daith ryngwladol o'r raddfa hon. Bydd yr wybodaeth sy’n deillio o’r ymarferion hyn yn helpu i sicrhau bod y crwydryn a'r technolegau sy’n ei gynnal yn barod ar gyfer yr heriau o weithredu ar blaned arall.”

Mae’r ymchwilydd ôl-raddedig o Brifysgol Aberystwyth, Harry Marsh, yn rhan o'r tîm gweithrediadau. Dywedodd:   

“Mae'n arbennig iawn cael bod yn rhan o’r paratoadau ar gyfer taith a fydd yn chwilio am arwyddion o fywyd yn y gorffennol ar y blaned Mawrth. O'r Rover Operations Control Centre yn Turin, rydym yn anfon gorchmynion ac yn goruchwylio gweithgareddau yn union fel y byddent yn cael eu cynnal yn ystod taith go iawn i’r blaned Mawrth, gan weithio'n agos â chydweithwyr ar draws Ewrop i roi prawf ar berfformiad y crwydryn.

“Mae cymryd rhan yn yr ymgyrch hon wedi rhoi profiad uniongyrchol i mi o gymhlethdod archwilio planedau a'r gwaith tîm sydd ei angen i sicrhau bod y teithiau hyn yn llwyddiannus. Mae'n gyffrous cael cyfrannu at brosiect sy'n adeiladu ar gyfraniad hirsefydlog Prifysgol Aberystwyth i ymchwil ar y blaned Mawrth ac ar fy PhD.”

Rover Operations Control Centre yn Turin. Llun: ALTEC

Mae'r crwydryn Rosalind Franklin yn rhan o raglen flaenllaw ExoMars Asiantaeth Ofod Ewrop, sy'n anelu at chwilio am dystiolaeth o fywyd yn y gorffennol ar y blaned Mawrth ac ymchwilio i hanes ac amgylchedd daearegol y blaned.

Gan fanteisio ar arbenigedd o safon fyd-eang ym maes ffiseg, cyfrifiadureg a roboteg, mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi chwarae rhan allweddol ym mhrosiect ExoMars ers 15 mlynedd, gan helpu i ddatblygu technolegau a fydd yn ei alluogi i deithio ar hyd wyneb y blaned Mawrth a chanfod y targedau mwyaf addawol ar gyfer ymchwil wyddonol.

AU21126