Cyhoeddi enillydd Ysgoloriaeth ‘Defi Fet’ y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Beca Lois Keen

Beca Lois Keen

06 Hydref 2026

Mae Beca Lois Keen, o Llangristiolus, wedi ennill ysgoloriaeth i astudio Milfeddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gyda chefnogaeth Prifysgol Aberystwyth a theulu y diweddar filfeddyg, DGE Davies, cynigir Ysgoloriaeth ‘Defi Fet’ yn cael ei rhoi yn flynyddol i gefnogi myfyriwr sy’n astudio milfeddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Ysgol Gwyddorau Milfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr unig fan mae modd astudio Milfeddygaeth yng Nghymru.

Mae Beca, sy’n 21 oed, yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Llangefni ac mae wedi cwblhau gradd mewn Biowyddorau Milfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dywedodd Beca:

“Mae ennill yr ysgoloriaeth a chael y cyfle i astudio Milfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn golygu cymaint i mi.

“Tair blynedd yn ôl, pan o’n i’n ddeunaw oed, ni chefais y canlyniadau Safon Uwch oedd eu hangen i sicrhau lle ar y cwrs Milfeddygaeth, felly rydw i wedi dilyn trywydd ychydig yn wahanol.

“Gobeithio y bydd fy stori i yn ysbrydoli pobl eraill i beidio â digalonni os nad ydyn nhw’n cael y graddau y maen nhw’n eu dymuno y tro cyntaf. Mae nifer o lwybrau ar gael. Rydw i’n edrych ymlaen at y dyfodol, gan wybod fy mod un cam yn nes at gyrraedd fy nod o fod yn filfeddyg Cymraeg yn fy nghymuned.”

Cafodd Ysgoloriaeth ‘Defi Fet’ ei sefydlu yn 2023 ar y cyd rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth er cof am filfeddyg uchel ei barch o ardal Llandysul, y diweddar DGE Davies, a oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel ‘Defi Fet’.

Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg:

“Llongyfarchiadau mawr i Beca ar ennill Ysgoloriaeth ‘Defi Fet’ eleni. Mae’n bleser mawr gennym allu cynnig ysgoloriaeth sy’n cefnogi myfyrwyr i astudio Milfeddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Wrth wraidd gwaith y Coleg mae’r ymrwymiad i gryfhau ac ehangu cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws pob maes, gan sicrhau bod gweithwyr proffesiynol y dyfodol yn gallu ffynnu yn eu sgiliau dwyieithog.

“Dymunwn bob llwyddiant i Beca yn ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth, a hoffwn ddiolch yn fawr i Elaine a’i theulu am eu haelioni er cof am ei thad, a fydd yn cefnogi Beca dros y bum mlynedd nesaf.”

Dywedodd yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth:

"Rydym yn falch iawn o longyfarch Beca Lois Keen ar ennill Ysgoloriaeth Defi Fet eleni.  Mae taith Beca o’i gradd yn y Biowyddorau Milfeddygol i fod yn fyfyriwr ar ein rhaglen Baglor yn y Gwyddorau Milfeddygol yn adlewyrchu'r uchelgais, yr ymroddiad a'r brwdfrydedd dros y proffesiwn y mae'r ysgoloriaeth hon wedi'i chynllunio i'w cefnogi.

"Trwy haelioni teulu Defi Fet a chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae'r ysgoloriaeth hon yn helpu i feithrin gweithwyr milfeddygol proffesiynol y dyfodol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau Cymraeg a gwledig ledled Cymru."

Am fwy o wybodaeth neu i ymgeisio am Ysgoloriaeth Defi Fet y Coleg Cymraeg ar gyfer blwyddyn academaidd 2027-2028 ewch i wefan y Coleg

 

AU22526