Cymorth ynni arbenigwyr Prydain i Wcráin gyda gorsaf bŵer geothermol newydd

Partneriaid y prosiect yn ystod ymweliad â mwynglawdd halen i gefnogi cynlluniau ar gyfer gorsaf bŵer geothermol newydd.
08 Hydref 2026
Mae academyddion o Brydain yn cynorthwyo Wcráiniaid i ailadeiladu eu systemau ynni gyda gorsaf bŵer geothermol newydd yng ngorllewin y wlad sy’n dioddef o achos y rhyfel.
Mae academyddion o Brydain yn cynorthwyo Wcráiniaid i ailadeiladu eu systemau ynni gyda gorsaf bŵer geothermol newydd yng ngorllewin y wlad sy’n dioddef o achos y rhyfel.
Mae dinistrio isadeiledd ynni gan Rwsia wedi gwneud moderneiddio grid pŵer Wcráin yn fater o frys eithriadol.
Wedi’i arwain gan fathemategwyr Prifysgol Aberystwyth, mae ateb y tîm prosiect yn seiliedig ar yr egwyddor y dylid adfer y systemau yn Wcráin yn well nag yr oeddent.
Maent yn anelu at system ddatganoledig yn seiliedig ar rwydwaith o gapasiti cynhyrchu bach i ganolig sy'n anoddach eu tarfu a fydd yn cynorthwyo trawsnewid gwyrdd.
Mae'r gwyddonwyr yn credu y gallai pŵer geothermol newydd gryfhau gwydnwch ynni a chyflenwad cynaliadwy yn Wcráin, yn ogystal â chynnig gwersi i Brydain.
Eu cynllun yw adeiladu gorsaf ynni geothermol o'r radd flaenaf yn Solotvyno, ger y ffin rhwng Wcráin a Romania.
Risgiau daearegol uchel a'r cyfnod archwilio hir - fel arfer 7 i 8 mlynedd - yw'r prif ffactorau sy'n arafu datblygiadau o'r fath.
Nod y consortiwm o ymchwilwyr o'r Deyrnas Gyfunol, Wcráin, a Gwlad Pwyl yw cyflymu'r broses o adeiladu'r gwaith peilot - o leiaf ddwy flynedd - trwy ddatblygu modelau mathemategol o briodweddau creigiau ar lefel microsgopig.
Bydd yr ymchwilwyr yn defnyddio modelau 3D i ddarparu rhagolygon cywir a lliniaru risgiau. Byddant hefyd yn dyfeisio algorithmau newydd i ragweld ymddygiad cronfeydd geothermol dros oes gyfan y gwaith - hyd at 30 mlynedd.
Bydd y gwaith hwn yn caniatáu defnyddio'r dechnoleg yn gyflym a chynnig y posibilrwydd o'i defnyddio ar raddfeydd mwy mewn ardaloedd tebyg yn ddaearegol yn Wcráin a thu hwnt.
Dywedodd yr Athro Gennady Mishuris o Brifysgol Aberystwyth, a gynhaliodd weithdy yn ddiweddar rhwng partneriaid y prosiect yng Nghymru:
“Ein nod yw chwyldroi sut mae ynni geothermol yn cael ei archwilio a'i ddefnyddio, gan ganolbwyntio'n benodol ar adferiad cyflym a moderneiddio seilwaith ynni Wcráin gyda systemau geothermol gwell.
“Trwy gyfuno modelu mathemategol o'r radd flaenaf â geomecaneg arloesol ac arbenigedd diwydiannol, dydyn ni ddim yn datrys problem dechnegol yn unig, rydym ni’n adeiladu dyfodol datganoledig, gwydn, a charbon-niwtral i genedl mewn angen.
“Mae’r prosiect yn fwy na dim ond ymdrech dechnegol: mae’n ymrwymiad i gynaliadwyedd, cynhwysiant cymdeithasol, ac undod rhyngwladol. Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o fod wrth y llyw, gan brofi, trwy arloesi cydweithredol, y gallwn ni droi ansicrwydd daearegol yn ddyfodol sefydlog, gwyrdd a llewyrchus.”
Mae academyddion Prifysgol Aberystwyth yn gweithio ar y prosiect, “Geothermal Ukraine – Gwneud Gwahaniaeth mewn Technoleg ar gyfer Defnydd Cyflym” gyda Rockfield Software Cyf. o dde Cymru, cynhyrchydd nwy Wcráin JSC "Ukrgasvydobuvannya", Prifysgol Genedlaethol Kyiv Taras Shevchenko, Sefydliad Olew a Nwy Gwlad Pwyl, a Chyngor Lleol Solotvyno yn Wcráin.
Ychwanegodd Aleksei Karpenko, o Brifysgol Genedlaethol Taras Shevchenko yn Kyiv:
"Tynnodd y prosiect hwn ar arbenigedd y mae ein tîm ni wedi'i ddatblygu dros sawl degawd. Cyfunodd wybodaeth a data sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod Sofietaidd â digideiddio modern, galluoedd dadansoddol uwch, a chyfraniadau sylweddol gan ein systemau AI mewnol. Roedd cyfraniadau dwy aelod benywaidd rhagorol o dîm TSNUK, Dr. Anastasia Chupryna a Dr. Mariia Kurylo, yn hanfodol yn yr ymdrech hon.
"Rwy'n falch bod y canlyniadau a gafodd eu cyflawni gennym ni gyda'n cydweithwyr INIG wedi galluogi ein partneriaid rhyngwladol i ddatblygu model cynhwysfawr o'r adnoddau thermol sydd ar gael yn y rhanbarth.
"Mae'r holl bartneriaid Wcrainaidd yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gafodd ei darparu gan y Deyrnas Gyfunol i wneud y gwaith hwn yn bosibl."
Dywedodd Dr Tomasz Topór o Sefydliad Olew a Nwy Gwlad Pwyl, y Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol:
“Roedd yn her wyddonol ac ymarferol. Yn wyddonol, roedd yn rhaid i ni “fynd i mewn i'r graig” — deall ei phriodweddau petroffisegol, geofecanyddol a thermol ar y lefel ficro a'u trosi i fodelu system geothermol.
“Yr anhawster allweddol oedd y deunydd sampl cyfyngedig. Roedd yn rhaid i samplau bach o graig gefnogi cyfres lawn o brofion labordy, felly roedd angen cynllunio gofalus pob cam o’r ffordd.
“Rydym ni’n falch, er gwaethaf gwahanol offer a dulliau ymchwil, bod ein canlyniadau i raddau helaeth yn gyson â dehongliadau ein partneriaid prosiect ac yn ategu nhw.”
Ychwanegodd Dr Martin Dutko o Rockfield Software sydd wedi’i leoli yng Nghymru:
“Rydym ni wrth ein bodd yn cymryd rhan yn y prosiect heriol a chyffrous hwn. Roedd swm cyfyngedig o ddata ar gael ar y dechrau ac mae'r ddaeareg mor gymhleth. Felly, mae hon yn dasg anodd i'w datrys – rydym ni’n falch iawn, gyda chymorth ein partneriaid o Wcráin a Gwlad Pwyl sydd wedi gwneud gwaith gwych o roi data wedi'i ddiweddaru i ni gan ganiatáu i ni roi ein meddalwedd soffistigedig ar waith i adeiladu'r model thermofecanyddol cyflawn.”
Cefnogir y prosiect gan raglen Innovate Ukraine a Datblygu Rhyngwladol y Deyrnas Gyfunol.
AU12726
