Sut mae’r iaith y mae’r teulu’n ei siarad yn dylanwadu ar ddatblygiad y Gymraeg ymhlith plant. Astudiaeth newydd

O’r chwith i’r dde: Dr Hanna Binks a Dr Elin Royles
28 Hydref 2026
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn lansio astudiaeth i ystyried sut mae arferion iaith o fewn teuluoedd yn dylanwadu ar ddatblygiad y Gymraeg ymhlith plant.
Mae astudiaethau'n awgrymu y gall arferion iaith a sefydlir yn ystod plentyndod cynnar gael effaith barhaol ar yr ieithoedd y mae pobl yn penderfynu eu siarad yn ddiweddarach mewn bywyd.
Er bod ysgolion yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi dysgu’r Gymraeg, ystyrir bod rhyngweithio bob dydd yn y cartref hefyd yn hanfodol i ddyfodol hirdymor yr iaith.
Bydd yr astudiaeth newydd yn canolbwyntio ar yr hyn y mae ymchwilwyr yn ei alw'n 'Bolisi Iaith y Teulu’ – y ffyrdd y mae teuluoedd yn rheoli, yn cefnogi ac yn trosglwyddo ieithoedd i'r genhedlaeth nesaf.
Bydd y tîm yn ystyried sut mae credoau teuluol, penderfyniadau ac arferion dyddiol ynghylch siarad iaith yn llywio caffaeliad plant ifanc o’r Gymraeg.
Dan arweiniad Dr Hanna Binks a Dr Elin Royles, mae'r prosiect yn dwyn ynghyd arbenigedd mewn polisi iaith, dwyieithrwydd a datblygiad iaith plant.
Bydd yr ymchwilwyr yn ystyried sut mae profiadau teuluol yn gysylltiedig â thwf geirfa mewn plant dwyieithog Cymraeg-Saesneg rhwng dwy a phedair oed.
Dywedodd Dr Hanna Binks, Darlithydd yn yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Mae'r blynyddoedd cyn-ysgol yn gyfnod hanfodol ar gyfer datblygiad iaith, ond ychydig iawn o ymchwil sydd wedi ystyried sut mae gwahanol arferion iaith o fewn y teulu yn dylanwadu ar blant yn ystod y cyfnod cynnar hwn yn eu bywydau. Drwy edrych ar brofiadau iaith plant ifanc, bydd y prosiect hwn yn rhoi darlun gwerthfawr o sut mae geirfa Gymraeg yn datblygu a sut y gall yr iaith a siaredir yn y cartref lywio'r broses honno.
"Bydd y canfyddiadau'n helpu i ymdrin â’r bwlch pwysig yn ein dealltwriaeth o gaffaeliad o’r iaith Gymraeg a datblygiad dwyieithrwydd, gan ddarparu tystiolaeth a all gefnogi teuluoedd, addysgwyr a llunwyr polisi fel ei gilydd."
Mae'r tîm yn gobeithio y bydd yr astudiaeth yn rhoi darlun newydd o'r ffactorau sy'n annog plant i siarad Cymraeg yn naturiol yn eu bywyd teuluol bob dydd ac yn helpu i lywio’r gwaith o gynllunio a pholisi iaith yn y dyfodol.
Dywedodd Dr Elin Royles, Darllenydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth:
"Un o'r heriau allweddol sy'n wynebu unrhyw iaith leiafrifol yw sicrhau ei bod yn cael ei throsglwyddo o un genhedlaeth i'r llall. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen i gynyddu trosglwyddiad iaith o fewn y teulu er mwyn cyfrannu at ei nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac wedi cynhyrchu polisi cenedlaethol ar drosglwyddo a siarad Cymraeg o fewn teuluoedd yn 2021.
"Ar hyn o bryd, dealltwriaeth gyfyngedig sydd gennym ynghylch sut mae dewisiadau iaith yn cael eu trafod a'u cynnal mewn teuluoedd dwyieithog bob dydd a sut mae dewisiadau o'r fath yn effeithio ar sut mae plentyn yn dysgu Cymraeg. Drwy weithio gyda theuluoedd dwyieithog Cymraeg-Saesneg ledled Cymru, bydd y prosiect hwn yn ein helpu i ddeall yn well y profiadau, y cyfleoedd a'r heriau sy'n llywio defnydd plant o'r Gymraeg yn y cartref a'u datblygiad iaith."
Bydd y canfyddiadau yn cyfrannu at gorff cynyddol o ymchwil ar ddatblygiad dwyieithrwydd ac yn llywio trafodaethau polisi ehangach am bolisïau trosglwyddo iaith a dyfodol y Gymraeg.
Cymryd Rhan
Gwahoddir teuluoedd dwyieithog Cymraeg-Saesneg gyda phlentyn/plant rhwng dwy a phedair oed i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Gall rhieni neu warcheidwaid a hoffai gymryd rhan, neu ddysgu mwy am y prosiect, gysylltu â'r tîm ymchwil yn hlb13@aber.ac.uk neu ymweld â https://tinyurl.com/mwa8nazj.
AU23426
