Prifysgol Aberystwyth yn cynnig graddau Meistr yn yr Almaen am y tro cyntaf

Y digwyddiad lansio ym Merlin

Y digwyddiad lansio ym Merlin

30 Hydref 2026

Agorodd Prifysgol Aberystwyth ei changen newydd yn ardal Moabit ym Merlin yn swyddogol mewn seremoni ar 29 Hydref 2026. Hon yw’r brifysgol gyntaf o Gymru i agor cangen yn yr Almaen, a bydd yn cynnig tair rhaglen Feistr ar y cyd â’r grŵp addysg GEDU Global Education: MSc mewn Deallusrwydd Artiffisial Cymhwysol, MSc mewn Marchnata Digidol, a MSc mewn Rheoli Digwyddiadau a Phrofiadau Byd-eang. 

Mynychwyd yr agoriad gan westeion o fyd addysg uwch, busnes a gwleidyddiaeth yn yr Almaen a’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Federico Patini, Pennaeth Swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn yr Almaen, a chynrychiolwyr o’r Cyngor Prydeinig, yn ogystal â chyn-fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth sy’n byw ym Merlin. Perfformiodd Côr Lumina hefyd – côr rhyngwladol ym Merlin ac sydd wedi’i ysbrydoli gan draddodiad corawl Cymru. 

Berlin fel porth i dir mawr Ewrop 

I Brifysgol Aberystwyth, sydd â hanes o dros 150 mlynedd o addysgu ac ymchwil, mae Berlin yn nodi dechrau pennod newydd. Drwy’r gangen, mae’r brifysgol yn cryfhau ei phresenoldeb rhyngwladol ac yn gwneud ei rhaglenni Meistr yn hygyrch ledled Ewrop a’r byd. Mae’r gangen newydd yn ganlyniad i’r bartneriaeth addysgol gyda GEDU Global Education a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. 

“Mae Berlin yn nodi ein presenoldeb cyntaf ar dir mawr Ewrop,” meddai’r Athro Nigel Holt, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol (Rhyngwladol) ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn y seremoni agoriadol.  
“Roedd y ddinas yn ddewis amlwg: mae’n un o’r dinasoedd sydd â’r cysylltiadau rhyngwladol cryfaf yn Ewrop, ac mae’n cynnig cyfleoedd rhagorol i fyfyrwyr, cyflogwyr a phartneriaid academaidd gydweithio.” 

Mae’r penderfyniad gan y Brifysgol i ddewis Berlin yn tanlinellu apêl y ddinas fel cyrchfan ar gyfer addysg uwch, ac yn ehangu ei hystod ryngwladol o opsiynau astudio. Yn y dyfodol, bydd myfyrwyr o bob cwr o'r byd yn gallu ennill gradd Meistr Gwyddoniaeth (MSc) o Brifysgol Aberystwyth tra byddan nhw ym Merlin, a chyfoethogi datblygiad y ddinas gyda'u safbwyntiau rhyngwladol. 

“Ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, rydym yn agor mynediad at addysg uwch o safon uchel i fyfyrwyr o'r Almaen, Ewrop a gweddill y byd,” ychwanegodd yr Athro Ray Lloyd, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol GEDU Global Education. “Gyda'i rhagolygon rhyngwladol a'i phwysigrwydd cynyddol ym meysydd addysg, arloesi ac entrepreneuriaeth, Berlin yw'r lleoliad delfrydol ar gyfer y bartneriaeth hon.” 

Mae'r gangen newydd yn y brifddinas yn ategu prif safle'r Brifysgol yn Aberystwyth. Er bod y ddau leoliad yn wahanol iawn, mae'r ddau yn cynnig amgylchedd rhagorol ar gyfer astudio a byw. Nod y Brifysgol yw cryfhau’r cysylltiadau academaidd rhwng Cymru a'r Almaen. Wrth wneud hynny, mae'n parhau i fod yn driw i'w chenhadaeth o drawsnewid bywydau trwy addysg o safon uchel, ac yn adeiladu ar ei hymgysylltiad rhyngwladol hirsefydlog.