Ethol academydd o Aberystwyth yn Gymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol

Dr Lucy Taylor

Dr Lucy Taylor

04 Tachwedd 2026

Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi’i hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol i gydnabod ei chyfraniad at ysgolheictod hanesyddol.

Mae Dr Lucy Taylor, Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau America Ladin yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yn ymchwilio i wladychiaeth a dinasyddiaeth yn y Wladfa, y gymuned Gymreig ym Mhatagonia.

Mae ei gwaith yn edrych ar y berthynas rhwng ymsefydlwyr Cymreig a chymunedau brodorol ​​​​yn yr Ariannin, ac ar sut mae straeon am y Wladfa yn parhau i lunio cymdeithas Cymru heddiw a thrafodaethau am hanes a hunaniaeth.

Mae ei llyfr a gyhoeddwyd yn 2025, ‘Global Politics of Welsh Patagonia: Settler Colonialism from the Margins’, yn herio dehongliadau cyfarwydd o’r Wladfa Gymreig drwy edrych ar ei lle yn hanes trefedigaethol yr Ariannin.

Gan ddefnyddio ffynonellau archifol a safbwyntiau brodorol, mae'r llyfr yn cynnig dealltwriaeth ehangach o'r profiadau a'r perthnasoedd a luniodd y Wladfa.

Dywedodd Dr Taylor:

“Rwy’n falch iawn o gael fy ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol. Mae’n anrhydedd bod yn rhan o gymdeithas sydd â hanes mor hir, ond sydd hefyd yn hyrwyddo agenda ddad-drefedigaethol.

“Rwy’n gobeithio y bydd fy ymchwil yn annog pobl i edrych y tu hwnt i’r hanesion cyfarwydd am y Wladfa. Mae hyn yn cynnwys cydnabod y berthynas gymhleth rhwng ymsefydlwyr Cymreig a chymunedau brodorol, yn ogystal â phrofiadau’r Mapuche-Tehuelche yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg – a heddiw.”

Dywedodd Dr Philip Carter, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol:

“Llongyfarchiadau mawr i Dr Lucy Taylor ar gael ei hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol. Mae’r Gymrodoriaeth yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae haneswyr fel Lucy yn ei wneud, yn y DU ac ar draws y byd, at ymchwil hanesyddol a’n dealltwriaeth o’r gorffennol. Mae ethol Lucy yn arbennig o briodol gan ei fod yn dilyn ymweliad diweddar gan y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol â haneswyr yn Aberystwyth. Yma gwelsom â’n llygaid ein hunain y gwaith rhagorol y mae Lucy a'i chydweithwyr yn ei wneud er budd eu myfyrwyr a'r gymuned ehangach.”

Wedi'i sefydlu ym 1868, mae'r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol yn cefnogi haneswyr ac yn hyrwyddo ymchwil hanesyddol yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae gwaith y Gymdeithas yn cynnwys hyrwyddo gwerth hanes, cyhoeddi ymchwil, trefnu digwyddiadau a darparu cyllid ymchwil. Mae ei Chymrodoriaeth yn cydnabod cyfraniadau gwreiddiol at ysgolheictod hanesyddol.