Cyfnewid carcharorion yn rhyfel Wcráin-Rwsia – astudiaeth newydd

Dr Jenny Mathers (chwith) o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth a Dr Katerina Krulisova o Brifysgol Nottingham Trent
10 Tachwedd 2026
Bydd prosiect newydd dan arweiniad academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn astudio sut mae teuluoedd yn helpu carcharorion rhyfel a milwyr coll i ddychwelyd o ryfel Wcráin-Rwsia.
Mae carcharorion wedi’u cyfnewid drwy gydol y rhyfel ac mae hyn yn dal i fod yn un o'r ychydig feysydd o gydweithredu parhaus rhwng Wcráin a Rwsia. Er hynny, ni ddeallwn yn iawn o hyd rôl teuluoedd milwyr wrth gefnogi'r ymdrechion hyn.
Bydd y prosiect yn edrych ar rôl teuluoedd milwyr, yn enwedig gwragedd a mamau, wrth helpu i ddod â’u hanwyliaid adref.
Bydd yr ymchwilwyr yn dadansoddi polisïau'r llywodraethau, sylw yn y cyfryngau a gwybodaeth gyhoeddus, yn ogystal â chynnal cyfweliadau ag arbenigwyr a sefydliadau sy'n ymwneud â chyfnewid carcharorion.
Eu nod yw y bydd canfyddiadau’r astudiaeth yn cefnogi llunwyr polisi a sefydliadau’r gymdeithas sifil sy’n gweithio ar gyfryngu mewn gwrthdaro, hawliau dynol, a meithrin heddwch.
Dywedodd Dr Jenny Mathers, arweinydd y prosiect ac Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Y tu ôl i bob achlysur pan gyfnewidir carcharorion neu ddychwelir milwyr coll y mae’r teuluoedd sy’n chwilio am atebion am eu hanwyliaid. Ac eto, ychydig iawn a wyddom am y rôl y mae teuluoedd milwyr – ac yn enwedig y menywod yn y teuluoedd hynny – yn ei chwarae yn y prosesau hyn. Bydd ein hymchwil yn edrych ar sut mae teuluoedd yn trefnu, yn eiriol dros eu perthnasau ac yn gweithio gyda llywodraethau, sefydliadau dyngarol a chyfryngwyr rhyngwladol yn ystod rhyfel.
“Drwy astudio’r profiadau hyn, gobeithiwn y bydd y canfyddiadau’n ein helpu i ddeall yn well effaith gwrthdaro ar bobl ac yn rhoi dealltwriaeth newydd a all helpu i gefnogi teuluoedd a chymunedau y mae rhyfel yn effeithio arnynt.”
Mae'r prosiect yn dod ag ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Aberdeen a Phrifysgol Nottingham Trent ynghyd.
Bydd yr ymchwilwyr yn trefnu cyfres o weithdai sy'n cynnwys llunwyr polisi, ymarferwyr a sefydliadau cymdeithas sifil.
Byddant hefyd yn gweithio gyda dau bartner y prosiect, sef y Sefydliad Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrâg a'r sefydliad meithrin heddwch, International Alert.
Ychwanegodd Dr Natasha Danilova, cyd-arweinydd y prosiect o Brifysgol Aberdeen:
“Mae tuedd hirsefydlog i anwybyddu neu ddiystyru rôl y gymdeithas sifil, ac yn enwedig grwpiau dan arweiniad menywod, mewn gwrthdaro rhyngwladol. Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar ymchwil sy’n edrych ar ymgyrchu gan famau a menywod eraill mewn teuluoedd milwyr, gyda’r nod o ddyfnhau ein dealltwriaeth o ddimensiynau allweddol dyngarwch yn ystod rhyfel.”
Dywedodd Dr Katerina Krulisova, cyd-arweinydd y prosiect o Brifysgol Nottingham Trent:
“Mae cyfnewid carcharorion yn cynnig cyfle pwysig i ddeall sut mae cyfryngu mewn gwrthdaro yn newid, wrth i sefydliadau dyngarol sefydledig weithio ochr yn ochr â chyfryngwyr fel yr Emiradau Arabaidd Unedig, Qatar a Thwrci. Drwy astudio sut mae eu hymdrechion yn cyd-fynd ag ymdrechion teuluoedd a’r gymdeithas sifil, bydd ein hymchwil yn darparu gwersi i ni am sut y gellir bod yn fwy cynhwysol a mwy ystyriol o rywedd wrth gyfryngu mewn gwrthdaro.”
Ariennir y prosiect tair blynedd gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yr UKRI (ESRC).
