Prifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi rhagor o gynlluniau ailstrwythuro

11 Tachwedd 2026

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi cylch arall o ailstrwythuro’r sefydliad – gyda'r bwriad o gynyddu effeithlonrwydd a diwallu anghenion myfyrwyr wrth iddi gyflawni cynaliadwyedd ariannol.

Yn dilyn adolygiad parhaus o adrannau anacademaidd, bydd cylch nesaf y broses yn cynnwys adolygiad o’r holl unedau academaidd gan gynnwys edrych ar y portffolio a’r cwricwlwm ynghyd â darpariaeth adnoddau. Y bwriad yw sicrhau bod pob maes yn parhau i gyd-fynd â gofynion y dysgwyr wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod adrannau yn parhau i fod mewn lle da i gynnal ymchwil sy’n flaengar drwy’r byd tra’n gweithredu mor effeithiol â phosib er mwyn cyflawni’r arbedion.

Tra bydd y newidiadau arfaethedig yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar brofiad y myfyrwyr, byddan nhw hefyd yn ymateb i heriau ariannol sylweddol o fewn y sector addysg uwch. Gyda’r disgwyliad y bydd y cylch ailstrwythuro diweddaraf yn arwain at ostyngiadau sylweddol o safbwynt costau cynnal, y bwriad yw arbed tua £16m erbyn diwedd y flwyddyn academaidd 2027/28.

Bydd yr adolygiad o’r unedau academaidd yn adeiladu ar y broses barhaus o fabwysiadu strwythur ysgolion academaidd a fydd yn cynnwys pob maes academaidd presennol, yn ogystal ag ailstrwythuro parhaus o adrannau anacademaidd.

Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Jon Timmis:

“Mae’r sector Addysg Uwch yn mynd trwy heriau digynsail – gan olygu bod rhaid i'n sefydliadau addasu i amgylchiadau gwahanol iawn.

“Yn Aberystwyth, rydym yn canolbwyntio ar gynnal ein profiad myfyrwyr rhagorol, tra ar yr un pryd, yn derbyn bod ffioedd dysgu sy’n cael eu rheoleiddio gan lywodraeth dipyn yn is na’r costau mae prifysgolion yn eu talu i ddysgu myfyrwyr.

“Ers tro byd, mae prifysgolion wedi denu myfyrwyr rhyngwladol sy’n talu ffioedd uwch fel ffrwd incwm bwysig, ond mae newid yn rheolau fisa a mewnfudo’r DG yn cael effaith sylweddol ar allu prifysgolion i recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ac o’r herwydd wedi gwneud recriwtio myfyrwyr domestig yn fwy cystadleuol hefyd.

“Ni fydd addasu prifysgolion i fod yn gynaliadwy yn ariannol yn digwydd heb benderfyniadau anodd iawn. Bydd angen i ni weithio drwy’r dewisiadau hyn wrth i ni fwrw ymlaen i ailstrwythuro ein Prifysgol.

“Unwaith y byddwn ni wedi ailstrwythuro, byddwn ni’n cyflogi llai o staff, a fydd yn helpu cynaliadwyedd y brifysgol yn y dyfodol. Mae‘r heriau ariannol hyn yn rhywbeth mae’r sector prifysgolion gyfan yn gorfod mynd i'r afael â nhw ac mae’n rhaid i ni weithredu er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i'n Prifysgol yn y rhan arbennig hwn o ganolbarth Cymru.

“Rydym yn cydnabod yr ansicrwydd a ddaw yn sgil hyn a byddwn ni’n darparu cymorth ac yn anelu at weithio gyda’r undebau llafur. Rydym hefyd wedi ymrwymo i leihau nifer y staff sy'n wynebu diswyddo, lle bo hynny'n bosibl a bydd cynllun diswyddo gwirfoddol ar gael i staff."

 

AU25126