Bygythiad mosgito sy'n brathu yng ngolau dydd yn sbarduno chwiliad genetig newydd

Dr Niall McKeown o Brifysgol Aberystwyth a Benjamin Chanda o Brifysgol Zambia

Dr Niall McKeown o Brifysgol Aberystwyth a Benjamin Chanda o Brifysgol Zambia

18 Tachwedd 2026

Mae gwyddonwyr yn ceisio datgloi cyfrinachau mosgitos sy'n brathu yng ngolau dydd sy'n trosglwyddo malaria, mewn ymdrech newydd i fynd i'r afael â'r clefyd.

Er gwaethaf y defnydd eang o ddulliau megis rhwydi gwely wedi'u trin â phryfleiddiaid a chwistrellu gweddilliol dan do, mae malaria yn dal i fod yn faich ar Zambia.

Gwnaeth ymchwil diweddar dan arweiniad Benjamin Chanda, entomolegydd yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dileu Malaria (NMEC) ac ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol Zambia, nodi ymddygiadau mosgito a allai fod yn tanseilio ymdrechion cyfredol i ddileu malaria.

Yn benodol, er bod y prif gludwr malaria yn y rhanbarth, Anopheles funestus, fel arfer yn cael ei ystyried fel mosgito dan do, sy'n brathu yn ystod y nos; mae'r astudiaeth hon yn dangos ei fod hefyd yn brathu yn yr awyr agored ac ar ôl iddi wawrio. Mae'r ymddygiad hwn yn cynyddu datguddiad dynol i frathiadau heintus mewn mannau cyhoeddus, megis ysgolion a marchnadoedd, lle nad yw pobl yn cael eu hamddiffyn gan ymyriadau rheoli cludwyr confensiynol.

Mae ymchwilwyr yn Zambia yn dweud bod diffyg dealltwriaeth am wahanol rywogaethau o fosgitos a'u hymddygiad yn parhau i fod yn rhwystr mawr i reoli malaria yn effeithiol.

Er mwyn mynd i'r afael â'r her hon, mae Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, o dan Gynllun Grant Cymru–Affrica Llywodraeth Cymru, yn cynnal dadansoddiad genetig o samplau Anopheles funestus a gasglwyd ar wahanol adegau a lleoliadau.

Bydd y dadansoddiad genetig hwn, a fydd yn cael ei gynnal mewn cyfleusterau arbenigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn helpu gwyddonwyr i egluro a yw gwahanol batrymau brathu gan fosgitos - gan gynnwys pryd a ble mae mosgitos yn bwydo - yn cael eu canfod mewn un boblogaeth neu'n gysylltiedig â grwpiau genetig gwahanol.

Dywedodd Dr Niall McKeown, uwch ddarlithydd ac ymchwilydd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae tystiolaeth o Zambia yn dangos bod y prif fosgito sy’n cario malaria yn bwydo dan do ac yn yr awyr agored, ac ar wahanol adegau o'r dydd, gan gynnwys yn ystod oriau golau dydd pan fydd mesurau rheoli yn llai effeithiol. Trwy edrych ar eu cyfansoddiad genetig, rydym yn gobeithio deall sut mae'r gwahaniaethau ymddygiadol hyn yn codi a sut y gallant fod yn dylanwadu ar ledaeniad malaria. Mae'r mewnwelediad hwn yn hanfodol os ydym am ddatblygu strategaethau rheoli sy'n adlewyrchu sut mae mosgitos yn ymddwyn mewn lleoliadau go iawn.”

Disgwylir i ganfyddiadau'r ymchwil helpu i ddatblygu strategaeth rheoli cludwyr malaria cenedlaethol Zambia. Mae hefyd yn ceisio cefnogi mesurau wedi'u targedu ac amcanion hirdymor o leihau achosion a dileu'r clefyd.

Yn ogystal â chasglu tystiolaeth wyddonol newydd, bydd academyddion o Aberystwyth yn hyfforddi cydweithwyr o Zambia mewn technegau moleciwlaidd a biowybodeg ar gyfer gwyliadwriaeth mosgitos integredig. Bydd hynny'n helpu timau lleol i ddefnyddio eu labordai presennol ar gyfer monitro sy'n fwy cost-effeithiol.

Yn gyfnewid am hyn, bydd ymchwilwyr ac ymarferwyr o Zambia yn hyfforddi gwyddonwyr Aberystwyth ym maes samplu mosgitos, gan gynnwys dal oedolion a larfa. Bydd y dulliau hyn yn helpu i wella strategaethau gwyliadwriaeth pryfed yng Nghymru, wrth i newid yn yr hinsawdd a theithio byd-eang gynyddu'r risg o glefydau gan fosgitos a gwybed yn dod i'r amlwg ledled gogledd Ewrop.

Mae entomolegydd NMEC, Benjamin Chanda, yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi gweithgareddau gwyliadwriaeth entomolegol yn Zambia.  Yn ystod ymweliad ymchwil cydweithredol â Phrifysgol Aberystwyth yn ddiweddar, dywedodd:

“Mae'r cyfle i hyfforddi ym maes dadansoddi poblogaeth genetig a'r rhaglen gyfnewid gwybodaeth a ddarperir gan Brifysgol Aberystwyth yn hanfodol er mwyn cyflawni nodweddu dyfnach o drosglwyddiad malaria gweddilliol yng Ngorllewin Zambia. Yn y pen draw, bydd y cydweithrediad hwn yn cryfhau gwyliadwriaeth entomolegol yn Zambia ac yn cefnogi’r gwaith o wneud penderfyniadau mwy gwybodus ar gyfer ymdrechion i reoli a dileu malaria.”

Ariennir y prosiect gan Gynllun Grant Cymru-Affrica, sy'n rhan o Raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru, wedi’i reoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae'r gronfa'n cefnogi prosiectau ar raddfa fach sy'n cyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig sydd o fudd i gymunedau yng Nghymru ac Affrica.


AU10426