Lansio Platfform Pori Ymchwil a Dysgu newydd yn y Ffair Aeaf

Mae’r platfform pori ymchwil a dysgu ar dir fferm y Brifysgol yn Nhŷ Hen, Penglais.

Mae’r platfform pori ymchwil a dysgu ar dir fferm y Brifysgol yn Nhŷ Hen, Penglais.

26 Tachwedd 2026

Bydd Platfform Pori newydd ar gyfer Ymchwil a Dysgu, a luniwyd i gefnogi amaethu tir glas cynhyrchiol a chynaliadwy, yn cael ei lansio’n swyddogol gan ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru eleni.

Cafodd y platfform pori ei sefydlu ar dir Tŷ Hen, Penglais, Aberystwyth, yn gynharach eleni gan ymchwilwyr o Grŵp Ymchwil Systemau Amaethyddol yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ac Adran Gwyddorau Bywyd y Brifysgol.

Mae'r platfform eisoes wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer astudiaethau pori fel rhan o brosiect NUE-Leg – prosiect aml-bartner dan arweiniad cwmni Germinal sy'n anelu at wneud y defnydd gorau posibl o nitrogen o godlysiau er mwyn lleihau allyriadau mewn amaethyddiaeth tir glas.

Mae astudiaethau pori’r platfform hefyd yn cael eu defnyddio fel adnodd addysgu pwysig gan ddarlithwyr amaethyddiaeth o’r Adran Gwyddorau Bywyd, gyda myfyrwyr yn helpu gyda’r gwaith o gasglu data o'r caeau ymchwil.

Bydd gwyddonwyr a myfyrwyr sydd wedi bod yn gweithio ar y platfform pori dros y misoedd diwethaf yn trafod eu gwaith yn ystod y lansiad swyddogol yn y Ffair Aeaf. Byddan nhw hefyd yn gofyn i'r gymuned amaethyddol pa ymchwil arall yr hoffen nhwn ei weld ar y safle 15 hectar sy'n cwmpasu naw o gaeau unigol.

Dywedodd Dr Christina Marley, Pennaeth y Grŵp Ymchwil Systemau Amaethyddol yn IBERS:

"Mae’n platfform pori pwrpasol ar dir Tŷ Hen y Brifysgol ym Mhenglais yn darparu adnodd ymchwil pwysig i ni. Fel rhan o brosiect NUE-Leg, mae lleiniau arbrofol y platfform yn ein galluogi i ddilysu'n wyddonol yr ymchwil ry’n ni yn ei chynnal ar 12 fferm yng Nghymru a Lloegr i astudio perfformiad codlysiau porthiant newydd pan maen nhw’n cael eu pori gan wartheg a defaid, gyda'r nod o sicrhau buddion cynhyrchiant ac amgylcheddol. Yn y Ffair Aeaf, ry’n ni rhefyd am glywed gan y gymuned amaethyddol am yr ymchwil yr hoffen nhw ei gweld yn digwydd ar ein platfform pori yn y dyfodol."

Bydd y Ffair Aeaf hefyd yn gyfle i staff IBERS ac Adran Gwyddorau Bywyd y Brifysgol arddangos ystod eang o brosiectau ymchwil ac arloesi sy'n cefnogi dyfodol amaethyddiaeth gynaliadwy yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd ymwelwyr â stondin IBERS, sydd ar balconi uwchlaw prif gylch y gwartheg, yn cael cyfle i ddysgu mwy am waith yr Athrofa ym meysydd gwyddor tir glas a bridio planhigion, cnydau porthiant, systemau da byw, monitro amgylcheddol a systemau amaethyddol cynaliadwy.

Bydd y stondin yn cynnwys arddangosfa drawiadol o systemau gwreiddiau rhai o prif gnydau ymchwil IBERS; manteision plannu porfeydd cymysg eu rhywogaeth; miscanthus fel deunydd gorwedd amgen ar gyfer da byw a chnwd y gellir ei dyfu ar y ffarm, a phrosiectau sy'n defnyddio technolegau newydd ar gyfer monitro DNA amgylcheddol a synwyryddion diwifr ar gyfer monitro dŵr.

Bydd ymwelwyr hefyd yn cael eu herio i gymryd rhan mewn gweithgaredd "Adnabod yr Hadau", gan baru detholiad o hadau â mathau o gnydau a ddatblygwyd yn IBERS, megis rhygwelltau lluosflwydd, meillion a cheirch.

Bydd gwybodaeth ar gael am raglenni Dysgu o Bell IBERS, sy'n galluogi pobl sy'n gweithio ym maes amaethyddiaeth a sectorau cysylltiedig i ddatblygu eu sgiliau a'u cymwysterau ochr yn ochr â'u gyrfaoedd. Mae nifer o'r cyrsiau hyn yn cwrdd â gofynion dysgu Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ac yn gymwys ar gyfer pwyntiau BASIS.

Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Cyfarwyddwr IBERS:

"Mae'r Ffair Aeaf yn gyfle rhagorol i rannu ein hymchwil gyda ffermwyr, y diwydiant a'r cyhoedd ehangach. O ddatblygu porfeydd mwy cynhyrchiol a chynaliadwy i gymhwyso technolegau newydd ym myd amaethyddiaeth, mae ein gwaith yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r prif heriau a chyfleoedd sy'n wynebu'r sector.

Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr i'r stondin ac at lansio ein Platfform Pori Ymchwil a Dysgu newydd.”

Lleolir stondin IBERS ar y balconi ar y llawr cyntaf uwchlaw prif gylch y gwartheg yn Neuadd Arddangos 1.