Y Tim Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus

 

Lyn Morgan Lyn Morgan

Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus
Ffôn: 01970 628654
Symudol: 07896 230 326
Ebost: dym@aber.ac.uk

Mae Lyn wedi gweithio yn y diwydiant cyfryngau a chyfathrebu ers dros 30 mlynedd. Yn flaenorol, bu’n gyflwynydd, yn uwch gynhyrchydd ac yn rheolwr darlledu gyda'r BBC, gan redeg cwmni ymgynghori ar y cyfryngau yng Nghaerdydd yn y 10 mlynedd diwethaf. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y defnydd o dechnolegau newydd ar gyfer cyfathrebu. Penodwyd ef yn Bennaeth yr Adran yn ystod haf 2009, ac mae ar hyn o bryd yn arwain y tîm mewn llu o fentrau cyfathrebu cyffrous a newydd ledled y Brifysgol.

Cyswllt Adrannol:Ieithoedd Ewropeaidd, Ysgol Rheolaeth a Busnes, Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori, Derbyniadau, y Tim Rheoli Hyn, Iechyd a Diogelwch

 

Arthur Dafis Arthur Dafis

Swyddog y Wasg
Ffôn: 01970 621763
Symudol: 07841 979 452
Ebost: aid@aber.ac.uk

Ymunodd â’r Brifysgol ym mis Medi 1997 ac mae wedi gweithio ar gyfathrebu mewnol ac allanol. Ef ar hyn o bryd sy’n gyfrifol am fwletin newyddion electronig wythnosol y Brifysgol, yr E-bost Wythnosol yn ogystal â golygu amrywiaeth o gyhoeddiadau mewnol ac allanol, gan gynnwys Newyddion Aber a chylchgrawn cyn-fyfyrwyr y Brifysgol, sef Prom.

Cyswllt Adrannol: Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Sefydliad Mathemateg a Ffiseg, Cyfrifiadureg, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Seicoleg, Cymorth Myfyrwyr, Y Ganolfan Chwaraeon, Swyddfa Ystadau

 

Elena Gruffudd Elena Gruffudd

Swyddog Cyfathrebu
Ffôn: 01970 621571
Ebost: elg@aber.ac.uk 

A hithau wedi ymuno â'r Brifysgol yn 2008, mae Elena wedi ymuno â’r tîm fel Swyddog Cyfathrebu Mewnol. Mae'n gyfrifol am gydlynu a gweithredu prosiectau cyfathrebu mewnol a chefnogi gwaith yr adran. Mae'n Hyrwyddwr Cydraddoldeb o fewn y Brifysgol a hefyd yn Fentor Iaith Gymraeg.

Cyswllt Adrannol: Hanes a Hanes Cymru, Cymraeg, Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Ysgol Gelf, Y Gwasanaeth Gyrfaoedd, Swyddfa Academaidd, Adnoddau Dynol

Hayley Neville-Jones Hayley Neville Jones

Rheolwr Swyddfa a Chynorthwy-ydd Personol
Ffôn: 01970 621568
Ebost: hln@aber.ac.uk

Ymunodd Hayley â Phrifysgol Aberystwyth ym mis Ionawr 2010 fel Cynorthwy-ydd Personol/Rheolwr Swyddfa, ac mae hi’n rhannu ei hamser rhwng Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus a’r swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, gan ddelio â gweinyddu swyddfa bob dydd a rhoi cefnogaeth a chymorth i adrannau yn eu gwahanol brosiectau a digwyddiadau.

 

Alwena Hughes Moakes Alwena Hughes Moakes

Swyddog Cyfathrebu
Ffôn: 01970 621933
Symudol: 07896 653 733
Ebost: crm@aber.ac.uk

Mae Alwena yn weithwraig cyfathrebu broffesiynol sydd â phrofiad o weithio ar draws y sbectrwm Cysylltiadau Cyhoeddus a marchnata.   O reoli ymgyrchoedd Cysylltiadau Cyhoeddus i waith materion cyhoeddus i gwmnïau mawr, mae Alwena wedi rheoli amrediad o brosiectau Cysylltiadau Cyhoeddus sydd wedi ennill gwobrau.  Yn raddedig o Aberystwyth, mae Alwena hefyd yn aelod llawn o’r Sefydliad Siartredig dros Gysylltiadau Cyhoeddus, a chanddi Ddiploma Ôl-radd mewn Cysylltiadau Cyhoeddus ag MA mewn Rheoli Newid.

Cyswllt Adrannol: Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Y Gyfraith a Throseddeg, Datblygu a Chysylltiadau Alumni, Gwasanaethau Preswyl a Chroeso, Canolfan y Celfyddydau, Adnoddau Dynol

Dawn Havard Dawn Havard
Ffôn: 01970 628440
Ebost: dbh@aber.ac.uk

Ymgynghorydd prosiectau cyfathrebu amryddawn sydd â 25 mlynedd o brofiad o gynllunio strategol a gweithredu cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, rheoli digwyddiadau a chynllunio gweithgareddau ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae Dawn yn gweithio i Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth, yn ogystal ag ymwneud â materion gweithgarwch cyhoeddus ar draws y Brifysgol.

Cyswllt Adrannol: Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amaethyddol a Gwledig (IBERS)