Arolwg Aber Ydym Ni

CynhelIr Arolwg cyntaf Aber Ydym Ni o 16 -30 Tachwedd 2015.

Beth yw amacanion yr arolwg?

Bydd yr arolwg yn rhoi cyfle i bob aelod o staff i rannu barn a syniadau am wasanaethau cymorth proffesiynol y Brifysgol.

Sut ybydd yn gweithio?

• Byddwch yn derbyn e-bost ar ddydd Llun 16 Tachwedd a fydd yn cynnwys gwe-ddolen i'r arolwg ar-lein. Bydd yr arolwg ar-lein yn fyw o ddydd Llun 16 Tachwedd hyd Ddydd Llun 30 Tachwedd, pan fydd yr arolwg yn cau. Os nad oes gennych fynediad i gyfrifiadur a / neu os hoffech gwblhau fersiwn papur o'r arolwg staff, cysylltwch â Dr Ian Archer, ina@aber.ac.uk

• Bydd yr adborth a’r wybodaeth sy'n dod i'r amlwg yn cael eu defnyddio i wella'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau yn ein hadrannau, yn ein galluogi i gymharu ein hunain ag adrannau eraill, a bydd yn ein helpu i weithio ar welliannau mewn gweithredu a phroses effeithlonrwydd.

Cwestiynau Cyffredin