Blwyddyn Y Blew

Blwyddyn

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae’n fis Awst, mis yr Eisteddfod Genedlaethol, pan fydd miloedd o bobl ifanc yn heidio i Fodedern, sir Fôn. Ond hanner can mlynedd yn ôl, yn Awst 1967, y Bala oedd eu cyrchfan, a’u  cartref am yr wythnos fyddai Maes B – safle a anfarwolwyd yng nghân y Blew.

 Roedd y chwedegau yn gyfnod cyffrous iawn yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol, ac o ganlyniad i’r amryw brotestiadau gan fyfyrwyr ar draws Ewrop ac America, erbyn diwedd y degawd byddai bywyd wedi newid yn llwyr i bawb.

 A doedd pethau ddim yn wahanol yng Nghymru. Roedd Tynged yr Iaith, darlith radio Saunders Lewis; a ddarlledwyd yn Chwefror 1962, wedi arwain at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym mis Awst y flwyddyn honno. Ym mis Chwefror 1963 cynhaliwyd eu protest dorfol gyntaf pan rwystrwyd traffig ar Bont Trefechan, Aberystwyth, gan fyfyrwyr o Aberystwyth a Bangor. Ac yn Hydref 1965 roedd 40 o fyfyrwyr Aberystwyth ymhlith y 400 a oedd yn Nhryweryn yn protestio yn erbyn boddi diangen y cwm i gyflenwi anghenion dŵr Lerpwl. Roedd yr adfywiad cenedlaethol ymhlith ieuenctid Cymru yn codi stêm. 

 Erbyn heddiw mae un flwyddyn yn arbennig o’r degawd yn sefyll allan, sef 1967. Dyma flwyddyn cyhoeddi Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band gan y Beatles, a blwyddyn ‘haf cariad’ yn San Francisco ar arfordir gorllewinol yr Unol Daleithiau. Ac ar arfordir gorllewinol Cymru, 1967 oedd blwyddyn y Blew.

 Roedd pob un o aelodau’r Blew yn fyfyrwyr yn Aberystwyth: Dafydd Evans (gitâr fas), Richard Lloyd (gitâr flaen), Geraint Evans (drymiau) yn fyfyrwyr yn Adran y Gyfraith a Maldwyn Pate (prif leisydd) yn yr Adran Gymraeg, ac yn ddiweddarach, er mwyn llenwi’r sŵn, ymunodd Dave Williams, myfyriwr arall yn Aberystwyth, ar yr allweddellau. Daeth Dafydd Evans, a oedd yn fab i Gwynfor Evans, Llywydd Plaid Cymru, i Aberystwyth yn Hydref 1964, ar ôl treulio dwy flynedd yn Ysgol Feddygol St Mary yn Llundain, lle roedd wedi bod yn aelod o grŵp, felly doedd dim rhyfedd ei fod yn awyddus i ddechrau grŵp arall yn Aberystwyth.

 

 

 

Yn haf 1966 roedd Dafydd a Maldwyn Pate wedi ffurfio grŵp o’r enw Y Pedeir Keink gyda thri bachgen ysgol lleol ar gyfer noson lawen Plaid Cymru yn Eisteddfod Aberafan. Er mai siomedig, yn ôl Dafydd, oedd perfformiad y Pedeir Keink yn yr eisteddfod, roedd ei awydd i ffurfio grŵp roc Cymraeg yn dal yn gryf, ac yn Ionawr 1967 fe benderfynodd ef a Maldwyn roi cynnig arall arni. Dyma sut y disgrifiodd Dafydd Evans y dechreuadau:

            ‘Cyfarfu’r Blew i drafod creu grŵp Cymraeg am y tro cyntaf ar y 25ain o Ionawr 1967. Criw o fyfyrwyr oeddwn yn y Coleg yn Aberystwyth, a’r bwriad oedd cael grŵp at ei gilydd i chwarae yn Sioe Rag Gymraeg yn y Coleg. Wedi llawer o ymarfer, bu’r perfformiad cyntaf yn y Sioe Rag ar y 6ed o Chwefror. Bu cryn ganmol gan y myfyrwyr eraill, a chryn bwyso i gario mlaen a cheisio gwneud mwy.

            ‘O ganlyniad i hyn, penderfynwyd y byddai dawns fodern wedi cinio blynyddol y Geltaidd ar nos Fercher y cyntaf o Fawrth. Roedd angen felly dysgu tua ugain o ganeuon newydd yn o gyflym. Bu llawer o ymarfer eto am dair wythnos.

            ‘Aeth y ddawns yn od o llwyddiannus, ac un o’r cefnogwyr mwyaf brwd oedd y diweddar a’r annwyl Athro Llywelfryn Davies – Athro y gyfraith.’

 

Yn dilyn y llwyddiannau hyn o fewn y Coleg, ym mis Ebrill gwahoddwyd y grŵp gan Robat Gruffudd, a oedd newydd sefydlu Gwasg y Lolfa yn Nhal-y-bont, i berfformio yn y pentref. Bu’r noson honno hefyd yn llwyddiant a phenderfynodd y grŵp drefnu cyfres o gyngherddau ar draws Cymru.

 Ond yn ogystal â’r gerddoriaeth, roedd delwedd y grŵp hefyd yn bwysig, ac ar ôl i lun siomedig o hen ffasiwn ohonynt ymddangos yn Y Cymro, gofynnodd Dafydd i’w frawd Alcwyn ddod i Aberystwyth i dynnu nifer o luniau da ar gyfer cyhoeddusrwydd. Tynnwyd rhai ar y traeth, ac eraill y tu mewn i adeilad yr Hen Goleg.

 

 

Dafydd Evans              Maldwyn Pate             Richard Lloyd              Geraint Evans

 

 

Hawlfraint y lluniau Alcwyn Deiniol Evans ac fe’u defnyddir drwy ei ganiatâd caredig.

 Cynhaliwyd y daith gyntaf rhwng 29 Mehefin a 21 Gorffennaf gan ymweld â  Chaerdydd, Llanymddyfri, Myddfai, Llandeilo, Aberaeron, Tal-y-bont, Glanllyn, Penrhyndeudraeth, Llanbryn-mair, Tregaron, Llansawel a Felindre. Trefnwyd yr ail daith ar gyfer mis Awst ac roedd Richard Lloyd yn awyddus i gael aelod arall er mwyn cael sŵn llawnach. Ystyriwyd gofyn i Hefin Elis a Geraint Griffiths, dau o aelodau’r Pedeir Keinc, ond yn y diwedd gofynnwyd i Dave Williams ymuno â’r grŵp. A’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad mor bwysig, roedd Dafydd Evans wedi ceisio ers misoedd drefnu noson yn y Bala ond yn ofer, yna bron ar y funud olaf cynigiwyd lle iddynt mewn cyngerdd yn y Babell Lên ddydd Mawrth 8 Awst.

 Parhaodd y Blew gyda’u taith ar ôl yr Eisteddfod gyda dim ond pythefnos o orffwys ar ddiwedd mis Awst cyn dechrau ar y drydedd daith a fyddai’n fis o hyd. Hanner ffordd drwyddi, ar ddydd Sadwrn 30 Medi, aeth y grŵp i stiwdio’r BBC yn Abertawe i recordio ar gyfer cwmni Qualiton. Cyfieithiadau caneuon poblogaidd y dydd oedd mwyafrif caneuon y Blew ond roedd ‘Maes B’, prif gân y record, yn gân Gymraeg wreiddiol roedd Dave Williams a Maldwyn Pate wedi ei chyfansoddi ond y diwrnod cynt. Dyma ddisgrifiad Dafydd Evans o’r sesiwn:

            ‘Aethom trwy’r gân newydd unwaith. Roedd mor newydd nes bod rhaid i ni ddarllen y cordiau oddi ar ddarnau o bapur o’n blaenau. I raddau helaeth, felly, improvisation ar ran pawb yw’r gân. Wedyn fe aethom drwy’r gân yr ail waith, a recordiwyd hi y tro hwnnw.

            ‘Roeddwn i am roi lleisiau ychwanegol ar ddiwwdd y record, ond roedd y lleill yn erbyn hyn, gan fod rhaid recordio’r flip side ac roeddem i fod yn Aberystwyth erbyn saith i drefnu dawns yn dechrau am wyth. Yn y diwedd cytunwyd i roi lleisiau ychwanegol...Recordiwyd yr ail ochr yn gyflym, ac yna i’r fan â’r holl stwff ac i fyny â ni i Aber.’

 Daeth y drydedd daith i ben yn Aberystwyth nos Sadwrn 7 Hydref gyda dawns ar gyfer y Coleg yn Neuadd y Plwyf. Rhyddhawyd ‘Maes B’ ar 12 Tachwedd a chyn hir fe’i chwaraewyd ar Radio 1 [dechreuodd yr orsaf newydd ar Sadwrn 30 Medi, y diwrnod y recordiwyd ‘Maes B’] a dywedodd y DJ, ‘Do you think this gimmick will work?’

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dafydd Evans      Maldwyn Pate      Dave Williams      Geraint Evans      Richard Lloyd

(‘Maes B’ ar YouTube https://www.youtube.com/watch?v=jboNxLeKCO8)

 

Bwriadai’r grŵp barhau ac adeiladu ar eu llwyddiant. Cynhaliwyd sawl noson cyn diwedd y tymor a bu Dafydd a Maldwyn yn trafod y posibilrwydd o wneud EP neu LP. Ond bu gwerthiant ‘Maes B’ yn siomedig a chollwyd momentwm rywsut. Yn ei ddyddiadur ar gyfer 1 Ionawr 1968 ysgrifennodd Dafydd, Mae’n amlwg, gyda llaw, fod y Blew bellach ar ben. Rydym wedi penderfynu gwerthu’r holl offer. Mae’r fan ar yr heol tu allan. Mae tocyn arni gan fod y dreth wedi rhedeg allan. Sgwn i faint fydd y ddirwy...

 

1967 oedd Blwyddyn y Blew, a blwyddyn union bu eu bywyd, ond yn ystod y deuddeg mis hwnnw gwnaeth y grŵp tua 50 o ymddangosiadau, yn gyngherddau, dawnsfeydd ac ymddangosiadau ar y teledu. Ar ôl graddio yn 1968 gwasgarodd yr aelodau; aeth Maldwyn Pate i Efrog Newydd lle bu’n goreograffydd am rai blynyddoedd, ddychwelodd Richard Lloyd i Lundain ond parhaodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth. Ymunodd â’r grŵp y Flying Pickets ac aeth eu record ‘Only You’ i rif un yn y siartiau dros Nadolig 1983. Bu hefyd yn gyfarwyddwr cerdd ar sioeau cerdd a ffilmiau. Enillodd BAFTA yn 1987 am ei waith ar y gyfres Porterhouse Blue ar Sianel 4.

 

Roeddwn i’n byw yn Aberystwyth yn 1967 ond gan fod eu cyngherddau i gyd yn rhai mewnol i’r Coleg, ni welais y Blew yn chwarae’n fyw; byddai blwyddyn arall cyn y byddwn yn dechrau sleifio i mewn i’r ‘Coll Hops’ yn Neuadd y Plwyf. Ond fe brynais gopi o ‘Maes B’ yn siop Evered Davies, siop ffotograffiaeth a cherddoriaeth oedd drws nesaf i dŷ fy mam-gu a ’nhad-cu yn Heol y Wig. Roedd Mam-gu yn nodweddiadol o landladies Aberystwyth ar y pryd, yn cadw ymwelwyr dros yr haf a myfyrwyr gweddill y flwyddyn, ac un o’r myfyrwyr hynny oedd Rick Lloyd, gitarydd y Blew. Roedd y ddau ohonom yn hoff iawn o Bob Dylan – roedd Blonde on Blonde wedi ei chyhoeddi yn 1966, record a oedd mor ddylanwadol â Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band – ac rwy’n cofio cael ambell sgwrs gyda Rick am Dylan.

 

Un troednodyn cerddorol. Daeth Hefin Elis, un a fu’n aelod o’r Pedeir Keink gyda Dafydd Evans adeg Eisteddfod Aberafan, yn fyfyriwr i Aberystwyth ar ddiwedd y chwedegau a bwrw ei hun i mewn i fywyd cerddorol y Coleg, gan greu’r grwpiau Y Nhw a’r Chwyldro – dau grŵp roedd Meinir, chwaer Dafydd Evans, hefyd yn aelod ohonynt. Ar ôl gadael y Coleg ffurfiodd Hefin Edward H. Dafis, grŵp a adeiladodd ar sail y Blew gan wireddu breuddwyd Dafydd Evans o gael grŵp roc Cymraeg.

 

 

Ffynonellau

Hanes Y Blew Cymdeithas yr Iaith. Rhanbarth Clwyd. [1986]

Y Blew a Buddugoliaeth Gwynfor: dyddiadur 60au.  Dafydd Evans. Y Lolfa, 2003.

Papurau’r grŵp pop Cymraeg ‘Y Blew’ yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru .

 

Elgan Davies