Y Tywysog Gwyn

Ar ddydd Gwener 16 Rhagfyr 2016 dadorchuddiwyd plac yng Nghwad yr Hen Goleg i goffáu Leigh Richmond Roose (1877-1916), gôl-geidwad rhyngwladol Cymru a chyn-fyfyriwr Aberystwyth, a fu farw ym Mrwydr y Somme ar 7 Hydref 1916  (https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2016/12/title-195375-cy.html). Mae’r plac yma ar bwys plac arall sy’n coffáu 102 o staff a myfyrwyr y Brifysgol a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr, ond oherwydd camgymeriad yn sillafiad ei enw, Rouse yn lle Roose, pan ymunodd â’r fyddin, nid oedd enw Leigh Richmond wedi cael ei gynnwys ar y plac gwreiddiol.

 

Tan yn ddiweddar roedd y plac hwnnw i’w weld yng nghyn-adeilad Undeb y Myfyrwyr yn rhif 10 Maes Lowri. Cyflwynwyd yr adeilad a’r plac i’r Coleg gan Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr fel Cofeb ar y cyd i Sefydlwyr y Coleg a’r myfyrwyr a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.  Agorwyd yr adeilad yn swyddogol ar 30 Hydref 1923 gan Edward Tywysog Cymru a oedd yn Ganghellor y Brifysgol ar y pryd.

 

(Prifathro J.H. Davies, y Tywysog Edward a David Davies yn cerdded o’r Hen Goleg i Undeb y Myfyrwyr ar ddiwrnod ei agoriad)

 

Mae’r Hen Goleg hefyd yn lleoliad yr unig gerflun mawr cyhoeddus yn y DU o’r Tywysog Edward, Edward VIII yn ddiweddarach a roddodd heibio’r goron yn 1936. Rhodd gan T.D. Jenkins, gŵr a anwyd yn Aberystwyth ac a wnaeth ei arian ym myd llongau a masnach, oedd y cerflun. Roedd ef yn aelod o Lys Llywodraethwyr y Coleg, a chymaint oedd ei gariad tuag at y Coleg a’i edmygedd o’r Tywysog Edward comisiynodd y cerflunydd Eidalaidd, Mario Rutelli, i lunio cerflun efydd o’r tywysog yn ei wisg fel Canghellor Prifysgol Cymru.

 

Bwriadwyd dadorchuddio’r cerflun fel rhan o Ddathliadau Jiwbili y Coleg ar 9 Hydref 1922 ond nid oedd wedi ei gwblhau mewn pryd a phenderfynwyd cynnal seremoni arbennig ar 7 Rhagfyr 1922. Ond nid oedd rhai o’r myfyrwyr wedi’r rhyfel yn rhannu edmygedd T.D. Jenkins o’r tywysog ac roedden nhw’n credu y gallent wella ar ei ymddangosiad cyn y dadorchuddio.

 

Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn drobwynt mawr yn gymdeithasol yng Ngwledydd Prydain ac nid arbedwyd Aberystwyth a’r Coleg rhag y newidiadau. Cyn 1914 roedd pethau yn y Coleg wedi bod fwy neu lai yr un peth er 1872, ond yn sgil y rhyfel dechreuodd bethau newid. Daeth math newydd o berson i Aberystwyth, sef milwyr a gafodd grantiau cynhaliaeth hael gan y llywodraeth i fod yn fyfyrwyr. Un o’r rheini oedd Idwal Jones o Lambed a fu rhwng mis Mawrth 1915 a mis Mawrth 1919 yn gwasanaethu gyda’r fyddin yn Nwyrain Affrica, ond ym mis Hydref 1919 daeth i’r Coleg yn Aberystwyth. Dyma ddisgrifiad Gwenallt o Aberystwyth yn ystod y cyfnod hwnnw yn ei gofiant i Idwal Jones:

 

Erbyn 1920 yr oedd bron un cant ar ddeg o fyfyrwyr yng Ngholeg Aberystwyth, ac ymhlith y rhain yr oedd dau ddosbarth, sef y cyn-filwyr, a'r myfyrwyr a ddaeth yn union i'r Coleg o'r Ysgolion Canol a'r Ysgolion Sir. Roedd y cyn-filwyr, wrth gwrs, yn hŷn na'r lleill, a rhai ohonynt heb gael cyfle i basio'r Matric, fel Idwal Jones, ac eraill wedi pasio'r Matric ond heb gael siawns i ddilyn cwrs yr Arholiad Uchaf; a buont i gyd flynyddoedd yn y byd rhwng Ysgol a Choleg. Am y myfyrwyr a ddaeth yn union o'r Ysgolion i'r Coleg gellir dywedyd eu bod ar y cyfan yn fyfyrwyr diwyd yn eu gwaith yn y Coleg, yn copïo nodiadau yn y darlithiau yn gydwybodol, yn rhuthro am y cyntaf i Lyfrgell y Coleg i nôl llyfrau a gymeradwywyd gan yr athrawon ac nad oedd ganddynt fawr o ddiddordeb ym mywyd cymdeithasol y Coleg. Nid oedd gan y cyn-filwyr feddwl uchel o'r myfyrwyr hyn, a'r enw a roesant arnynt oedd 'swots'.

 

Y sarff arall a oedd yn tagu bywyd Coleg Aberystwyth oedd y rheolau cymdeithasol. Yn y llyfr, ‘The College By The Sea’, ceir gan y Dr. Thomas Quayle yn ei erthygl, 'Far Away and Long Ago,' ddisgrifiad o Goleg Aberystwyth cyn Rhyfel 1914-18, y Coleg pan oedd ynddo 450 o fyfyrwyr, a'r athrawon a hwythau yn byw gyda'i gilydd fel teulu, eithr ni châi'r meibion a'r merched gyfathrachu â'i gilydd ond yn y Coleg, ar gae chwarae'r Ficerdy ac ar orsaf y rheilffordd. Nid oedd ychwaith hawl i fyned i dafarn. Nid oedd y cyn-filwyr yn fodlon ar reolau fel y rhain, rheolau a luniwyd yn Oes Victoria neu cyn y Dilyw. Ymladdodd y cyn-filwyr yn y Rhyfel tros ddemocratiaeth, tros roi diwedd am byth ar ryfel a thros fyd yn gymwys i arwyr fyw ynddo. Daeth yr arwyr i Goleg Aber­ystwyth a chael nad oedd ganddynt hawl i siarad â merch na myned i dafarn: yr oedd yn rhaid iddynt gadw rheolau wedi eu llunio gan hen wlanenni Piwritanaidd o athrawon, hen ddynion 'wedi oeri'u gwaed' a'u 'heneidiau wedi tyfu'n gam'; hen ddirwestwyr o hil gerdd nad yfasant ddiferyn erioed, ond, efallai, lasaid o win ar y slei ym Mharis. Roedd rhai o'r cyn-filwyr wedi cael mwy o brofiad mewn pum munud ar y Somme nag yr oedd y rhain wedi ei gael yn ystod eu hoes academig. Nid oedd dim amdani ond torri'r rheolau. (Gwenallt Cofiant Idwal Jones. Aberystwyth: Gwasg Aberystwyth, 1958.)

 

A’r torrwr rheolau llonnaf ohonynt i gyd oedd Idwal Jones ei hun. Dyma sut y cofnododd Gwenallt ei ymdrechion i wella ar waith Mario Rutelli:

 

Noson cyn y dadorchuddio aeth ef a'i fintai berfedd nos at y ddelw; tynnu'r llen oddi arni a'i gwyngalchu; rhoi crafet goch am wddf y Tywysog, pib yn ei ben a doli rhwng ei freichiau ; a gosod y llen yn ôl arni...

(Cerflun Mario Rutelli o’r Tywysog Edward wedi ei ail-lunio gan Monica Decelis)

 

Mawr oedd y disgwyl am y dadorchuddio brynhawn Sadwrn, a mawrion y Deyrnas yno, ond yn ffodus neu'n anffodus tynnodd y porthor y bore hwnnw y llen amdani, a gweled y grafet, y bib a'r ddoli; a dadwyngalchodd y ddelw. Bu'r plismyn yn chwilio am y troseddwyr, a gellir heddiw adrodd yr hanes am fod arweinydd y fintai ac eraill y tu hwnt i gyrraedd pob plismon.

 

Nid yw Gwenallt yn enwi’r porthor a ganfyddodd y newidiadau ond mae’n bosibl mai’r Sergeant E.J. Wakeling, prif borthor, proctor rhan-amser ac ‘arglwydd a meistr y Cwad’ o 1896 tan ei farw yn 1924. Roedd D. Seaborne Davies (1904-1984), cyfreithiwr a gwleidydd, hefyd yn fyfyriwr yn Aberystwyth ar y pryd ac yn cofio’r digwyddiad gyda chryn anghymeradwyaeth yn Our Golden Years: Aber in the Twenties:

 

Roedd gwyngalchu cerflun Tywysog Cymru yn weithred hollol lwfr. Nid fy ngwaith i yn awr yw datgelu enwau’r cynllwynwyr a thrwy hynny danseilio’r parchusrwydd (hollol anhaeddiannol) a gawsant yn ddiweddarach. Ar ôl y glanhau aeth yr un Olympaidd [Sergeant Wakeling] at fyfyriwr o uniondeb diymwad a geirwiredd amheus (bu’n Llywydd Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr ar un adeg), a, gyda gwên dirion a chwinciad hollwybodus, meddai, “Dy’n ni ddim yn gwybod, ydyn ni Mr Davies, pwy wyngalchodd Ei Fawrydi?” “Nad ydym yn sicr”, atebodd anudonwr bwriadol, ac efengylaidd. “Na,” meddai’r Llais, “ond fe fyddai'n braf, oni fyddai Mr Davies, pe baent yn cydnabod llafur y porthorion a’i glanhaodd ’E?” A chodwyd casgliad llechwraidd a gyflwynwyd yn ei dro i’r Ffau.

 

Mae’n siŵr y byddai T.D. Jenkins, cymwynaswr hael i’r Brifysgol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a thref Aberystwyth, a gomisiynodd y cerflun, wedi cytuno â Seaborne Davies, a gobeithiwn gael cyfle i ddweud ychydig yn fwy am y person diddorol ond braidd yn anhysbys hwn fis nesaf.