Thomas David Slingsby-Jenkins: Dyngarwr Anghofiedig

Ers ei sefydlu mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn hynod ffodus yn ei noddwyr (gweler Dyngarwch ym Mhrifysgol Aberystwyth, 1860-1950 gan Dr Susan Davies), a heb eu cefnogaeth gyson, yn wleidyddol ac yn ariannol, fe fyddai wedi bod yn anodd i’r sefydliad oroesi nifer o’r stormydd a’i hwynebodd yn ei ddyddiau cynnar.

Ond nid yn unig y goroesodd y Coleg, fe ffynnodd a denu cefnogaeth bellach a’i alluogodd i dyfu’n ganolfan addysg o'r radd flaenaf a oedd yn ffocws balchder i bobl Aberystwyth, yn eu plith T.D. Jenkins.

Ganwyd Thomas David Jenkins ar ddydd Nadolig 1872, y flwyddyn y sefydlwyd y Coleg, yn fab hynaf Evan a Mary Jenkins, Bodhyfryd, Stryd y Bont. Pan oedd yn ddwy flwydd oed collodd ei d ad ar y môr ond llwyddodd T.D. Jenkins i barhau â’i addysg. Ar ôl gadael yr ysgol fe aeth i weithio mewn swyddfa cyfreithiwr lleol cyn ymuno â chwmni llongau lleol John Mathias a’i Fab oedd â swyddfeydd yn Aberystwyth a Chaerdydd, ac yn ystod ei yrfa de ddaeth yn Ysgrifennydd Rheoli’r cwmni.

Roedd ei gariad tuag at Aberystwyth a’i sefydliadau yn gryf. Roedd wedi gwaddoli ysgoloriaethau ar gyfer plant lleol yn y Brifysgol, ac yn 1920, pan oedd yn 47 mlwydd oed, fe’i hetholwyd yn Aelod am Oes o Lys Llywodraethwyr y Coleg. O 1922 tan ei farwolaeth yn 1955 bu’n aelod o Gyngor y Coleg. Yn 1924 daeth yn aelod o Lys Llywodraethwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac o 1932 tan ei farwolaeth bu’n aelod o’r Cyngor.

Roedd hefyd yn aelod blaenllaw o Gapel Methodistiaid Calfinaidd y Tabernacl yn y dref ac yn athro ysgol Sul dosbarth y bechgyn. Nid yw’n syndod felly, pan gollodd 14 o’r bechgyn hynny eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, fod T.D. Jenkins ac eraill yn y capel yn dymuno’u coffáu. Trwy ei fusnes llongau ymwelai T.D. Jenkins â’r Eidal yn aml ac roedd yn edmygydd mawr o gelf Eidalaidd; dyna pam y gwahoddodd y cerflunydd Mario Rutelli o Palermo i wneud y gofeb.

Codwyd £540 drwy roddion ond gwir gost y gofeb oedd £1,000. Yn ystod y seremoni ddadorchuddio ar 6 Gorffennaf 1921 cyhoeddodd T.D. Jenkins ei fod ef yn barod i dalu am y gofeb ac yr hoffai i’r arian a gasglwyd gael ei roi i Ysbyty Aberystwyth ar gyfer ward y plant. Cytunwyd i hyn ac ar 17 Tachwedd 1925 dadorchuddiodd T.D. Jenkins blac yn Ysbyty Ffordd y Gogledd a ddarllenai Towards the cost of erecting the PRINCE OF WALES WING at this hospital the sum of £587.9.10d. was contributed by the Tabernacle C.M. Church of this town, the contribution being made in affectionate remembrance of the members of the church who fell in the GREAT WAR 1914-1918, and in recognition of the establishment of a Children’s Ward in the hospital, December 1924.

T.D. Slingsby-Jenkins a rhai o gyn-filwyr y Tabernacl gyda chofeb Mario Rutelli i goffáu’r 14 a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn ogystal â sicrhau bod arian cofeb y Tabernacl yn mynd tuag at ward y plant, mae’n bosibl iawn fod gan T.D. Jenkins ran yn enwi’r ward yn Adain Tywysog Cymru. Fel y nodwyd yn ‘Y Tywysog Gwyn’, blog mis diwethaf, roedd T.D. Jenkins yn edmygydd mawr o Ddug Windsor a thalodd am y cerflun ohono yn yr Hen Goleg a ddadorchuddiwyd ym mis Rhagfyr 1922. Mario Rutelli oedd cerflunydd hwnnw hefyd ac roedd ef a T.D. Jenkins yn gyfrifol, yn anuniongyrchol ac uniongyrchol, am ddau gerflun arall yn Aberystwyth.

Pan ymwelodd Mario Rutelli â’r dref i weithio ar gofeb y Tabernacl roedd Pwyllgor Cofeb Rhyfel Aberystwyth mewn tipyn o benbleth yn dilyn marwolaeth Harvard Thomas, y cerflunydd roeddynt wedi ei gomisiynu i wneud y gwaith, yn fuan ar ôl cyflwyno’i syniadau i’r pwyllgor. Gofynnodd y pwyllgor i Rutelli baratoi cynllun ar gyfer cofeb y dref a hwnnw yw’r un a ddadorchuddiwyd ar ‘Pen Cwningen’ y castell ar 14 Medi 1923 ‘a ystyrir gan rai i fod yn un o’r gorau ym Mhrydain’.

Y pedwerydd a’r olaf o’r cerfluniau mae T.D. Jenkins a Mario Rutelli yn gyfrifol amdanynt yw’r cerflun marmor o Syr John Williams a ddadorchuddiwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 4 Hydref 1924. Roedd John Williams, a fu’n feddyg i’r Frenhines Victoria, yn un o brif sylfaenwyr y Llyfrgell a’i rodd ef o lyfrau a llawysgrifau a sicrhaodd fod y sefydliad yn dod i Aberystwyth. Roedd hefyd yn Llywydd Prifysgol Aberystwyth rhwng 1913 ac 1926 ac edmygai T.D. Jenkins ef lawn cymaint â’r Tywysog Edward.

Ond roedd gwasanaeth T.D. Jenkins i Aberystwyth a Chymru yn ehangach na’r Brifysgol a’r Llyfrgell Genedlaethol; roedd yn Ynad Heddwch ar Fainc Llanbadarn, yn Uchel Siryf Sir Aberteifi yn 1931, ac yn Is-lywydd Urdd Gobaith Cymru.

Ond âi ei gyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru y tu hwnt i Gymru ei hun. Yn 1937 priododd â Roma Beatrice Evlyn Marie Slingsby ac ychwanegodd ‘Slingsby’ at ei enw a’i alw’i hun yn T.D. Slingsby-Jenkins o hynny ymlaen. Roedd ganddynt gartref ym Mhontarfynach, Porth Elenydd, ac yn 9 Sgwâr Victoria, Llundain (roedd Ian Fleming yn byw yn rhif 16), a phan oedd yn Llundain byddai’n weithgar iawn gyda’r Pethe. Bu’n aelod o’r Cymmrodorion am 35 mlynedd, ac yn 1951, pan roddwyd Siartr Frenhinol i’r Gymdeithas ar achlysur dathlu ei 250 mlwyddiant, roedd T.D. Slingsby-Jenkins yn aelod o’r Cyngor. Ymhlith y 30 aelod arall o’r Cyngor roedd Ifan ab Owen Edwards, Ifor Evans, David Hughes-Parry, T.H. Parry-Williams a Ben Bowen Thomas, i gyd yn ffigurau cenedlaethol amlwg a chanddynt gysylltiadau cryf ag Aberystwyth.

Roedd yn Drysorydd y Gymdeithas rhwng 1934 ac 1949 ac yn Is-lywydd yn 1953. Ystyrir y blynyddoedd hyn ymhlith y rhai ‘pwysicaf a mwyaf gweithgar yn hanes y Gymdeithas’. Roedd cyhoeddi Y Bywgraffiadur Cymreig yn uchafbwynt, a chyfrannodd T.D. Slingsby-Jenkins yn hael iawn tuag at y costau.

Mae’n naturiol o ystyried ei fusnes ei fod ar Fwrdd Cymdeithas Morwyr Prydain ac yn hael ei gefnogaeth iddi. O ganlyniad i’r cysylltiadau busnes hynny â’r Eidal, yn 1940 derbyniodd yr anrhydedd ‘Commendatore Urdd Coron yr Eidal’ gan Frenin Victor Emmanuell III am ei waith yn hyrwyddo cyfeillgarwch rhwng yr Eidal a Phrydain.

Roedd marwolaeth ei wraig Roma yn 1948 yn ergyd drist iddo, ac oherwydd afiechyd treuliai’r gaeafau ger y Môr Canoldir. Yno yn ei gartref, Villa Carla, Imperia ar y Riviera Eidalaidd y bu farw ar 5 Ebrill 1955.

Ond mae i’r hanes rhyfeddol hwn un tro olaf yn ei gynffon. Ar 3 Mawrth 1955, 24 diwrnod cyn ei farwolaeth, ac yntau’n 82 mlwydd oed, priododd T.D. Slingsby-Jenkins â Margherita Vita, wyres 29 mlwydd oed i gyfaill busnes iddo, a hi a etifeddodd ei ystad o £50,000 (c.£1.5 miliwn heddiw). Parodd hyn gryn syndod ac fe adroddwyd yn eang arno.

Nid oedd plant gan Thomas a Roma Slingsby-Jenkins ac roedd ei briodas â Margherita Vita yn diddymu unrhyw ewyllys yr oedd wedi ei gwneud, ond fe fyddai’n ddiddorol iawn gwybod a fyddai sefydliadau, cymdeithasau ac achosion da lleol wedi elwa ar haelioni’r dyngarwr yma o Aberystwyth sydd i raddau helaeth wedi ei anghofio.

FFYNONELLAU

Brynley F. Roberts, ‘Syr John a’r Eidalwr’ yn Ysgrifau a Cherddi Cyflwynedig i Daniel Huws Tegwyn Jones a E.B. Fryde. Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1994.
Moelwyn I. Williams Y Tabernacl Aberystwyth, 1785-1985. Aberystwyth: Cyhoeddedig gan yr awdur, 1986.
Sir John Cecil-Williams, LL.D., ‘T. D. Slingsby-Jenkins’. The Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1956, tt+.70-72.