W.T. Jones a datblygu Cwad yr Hen Goleg

Am yn agos i ganrif roedd Cwad yr Hen Goleg yn ganolfan gymdeithasol i fyfyrwyr Aberystwyth, ac fel yr ysgrifennodd Dr E.L. Ellis yn ei lyfr The University College of Wales Aberystwyth 1872-1972:

 

Roedd y Cwad (a’r oriel o’i gwmpas) yn lle i weld ac i gael eich gweld, a dros y blynyddoedd gwnaeth gyfraniad yr un mor bwysig i addysg myfyrwyr Aberystwyth ag unrhyw ystafell ddarlithio a labordy.

 

 

 

Ond sut y daeth y gofod anhygoel hwn a’r nenfwd addurnedig gwych i fodolaeth? Dyma E.L. Ellis eto:

 

Yn 1889-90 bu un newid strythwyrol cymharol fechan i adeilad y Coleg a oedd i gael arwyddocâd dwys. Rhoddodd W.T. Jones, Melbourne, Awstralia, ddigon o arian i adeiladu to mewnol addurnedig uwchben ‘coridor y Coleg’, fel y’i gelwid. Trwy hynny daeth ‘Cwad’ i fodolaeth, ac o’r amser hwnnw ymlaen, yn sicr tan yr 1950au, fe ddaeth yn ganolbwynt bywyd i’r myfyrwyr. Ar y dechrau rheolwyd symud yn llym, merched ar un ochr, dynion ar yr ochr arall, ac wedi eu gwahanu gan ‘ganolfur y gwahaniaeth’, llinell hir o gasys arddangos. Yma’n ddyddiol, rhwng darlithoedd, cylchdroai crocodeil cywrain o ddynion a merched, ac roedd yn rhaid dysgu pob math o driciau a chastiau i osgoi’r gwahaniad swyddogol a osodwyd rhwng y ddau.  

 

 

 

Daeth y newid cymharol fechan yma i fodolaeth trwy’r gwaith ailadeiladu a fu yn sgil tân Gorffennaf 1885. O ganlyniad i’r tân hwnnw,

 

dinistriwyd y cyfan o adain ogleddol y Coleg, gan gynnwys yr holl ystafelloedd darlithio, labordai, llyfrgell, amgueddfa ac ystafelloedd preifat y myfyrwyr. Roedd adain ddeheuol yr adeilad wedi ei neilltuo ar gyfer Dosbarthiadau Gwyddonol a thŷ’r Prifathro [yr hen Castle House a oedd yn dal yng nghanol yr adeilad] ar gyfer y Llyfrgell a Swyddfa, tra rentiwyd y Queen’s Hotel ar gyfer y Dosbarthiadau Celfyddydau. Parhaodd y trefniant yma am dri Sesiwn. Ar ôl ymgynghoriad llawn, penderfynwyd ailadeiladu’r Coleg ar yr hen safle, a lluniodd pensaer yr adeilad gwreiddiol [John Pollard Seddon] gynlluniau ar gyfer y gwaith, a oedd yn defnyddio gofod a oedd i bob pwrpas wedi cael ei wastraffu o ran dibenion y Coleg, gan greu safle a oedd yn llawer mwy eang a chyfleus nag a fu’n bosibl cynt. Gwariwyd tua £25,000 ar yr ailadeiladu. (University College of Wales, Students’ Handbook 1903)

 

Nodwyd rhodd W.T. Jones y cyfeiriodd Ellis ati yn rhifyn 31 Hydref 1889 o Gylchgrawn CPC:

 

Mae Mr W.T. Jones, a oedd yn bresennol yn y Soiree Dydd Gŵyl Dewi diwethaf, wedi rhoi prawf pellach o’i haelioni drwy gynnig i roi to ar y cwadrangl neu neuadd ganolog ar gost o £500. Mae Mr Jones yn haeddu ein diolchgarwch diffuant am ei rodd amserol a hael.

 

Ac yn ei adroddiad i Lywodraethwyr y Coleg yn eu cyfarfod ddydd Mercher 15 Hydref 1890, ymhelaethodd y Prifathro Thomas Charles Edwards ar y pwnc gyda phleser a balchder amlwg:

 

Dyletswydd mwy dymunol yw cydnabod yn galonnog ein dyled ddiolchgar i noddwyr y Coleg. Y blaenaf ohonynt eleni yw Mr W.T. Jones o Melbourne a gyflwynodd i’r amgueddfa gasgliad gwerthfawr iawn o fwynau Awstralaidd sydd erbyn hyn wedi eu trefnu a’u harddangos yn gywir. Ond rydym yn llawer mwy dyledus i haelioni Mr Jones yn talu am do mewnol addurnedig ar gyfer neuadd ganolog y Coleg. Derbyniwyd cynllun hardd Mr Seddon gan y Pwyllgor Adeiladau ac adeiladwyd y to gan Mri Davies a’i Feibion, y Drenewydd, sydd wedi gorffen y gwaith. Dywed wrthyf gan feirniaid cymwys nad oes yr un gwaith coed gwell i’w weld unrhyw le yn yr adeilad. Mae arfbeisiau Cynghorau Sir Cymru wedi eu gosod ar hyd dwy ochr y neuadd o dan y to. Hyderaf y bydd y Cyngor yn penderfynu gosod tabled ac arni arysgrif addas yn y neuadd ganolog i goffáu rhodd hael Mr Jones (Cambrian News, 17 Hydref 1890).

 

Ond y tu ôl i’r llenni nid oedd pethau wedi bod mor hawdd a gwresog ag yr awgryma’r adroddiadau hyn. Nid cynllun John Pollard Seddon i ailadeiladu yr Hen Goleg oedd dewis cyntaf awdurdodau’r Coleg, ond fe’u gorfodwyd i’w dderbyn oherwydd cost uchel iawn adeiladu adeilad newydd ar safle newydd. Ond roeddent yn dal yn amheus ohono a’i afradlonedd tybiedig.

 

Yn 1886 roedd John Ffoulkes Roberts – yn enedigol o Fachynlleth, ac yn ddyn busnes ym Manceinion, yn is-lywydd y Coleg a oedd wedi cymryd diddordeb arbennig ym materion adeiladau’r Coleg – wedi pwyso ar y Prifathro i sicrhau bod cynlluniau Seddon wedi eu ‘llunio’n derfynol cyn cynnig cytundeb er mwyn osgoi newidiadau a fyddai’n galluogi Mr Seddon i ddewis a dethol er ei les ei hun’ (T.I. Ellis, Thomas Charles Edwards Letters). Ond credai Roger Webster fod hyn ‘yn sylw hynod anghyfiawn’ ac mai ei frwdfrydedd dros ei gelfyddyd a arweiniai ar brydiau at ei orwario (J. Roger Webster, Old College Aberystwyth).

 

Ond nid Roberts oedd yr unig aelod o Gyngor y Coleg oedd yn amheus o Seddon, ac a oedd wedi penderfynu cadw llygad arno. Ar 23 Tachwedd 1889 ysgrifennodd Roberts at Thomas Charles Edwards gan ddweud bod y Pwyllgor Adeiladau wedi gofyn i Seddon ysgrifennu adroddiad ar y ‘prosiect newydd o wneud y to a’u bod am wahodd Mr Jones o Melbourne i gyfarfod â’r Is-bwyllgor’. Mae’n bosibl bod amheuaeth Roberts o Seddon wedi cael ei drosglwyddo rywsut i W.T. Jones, gan iddo ddweud mewn llythyr arall at y Prifathro yn Ionawr 1890:

 

dywedwch bod Mr Jones o Melbourne wedi dweud yn bendant na fyddai’n rhoi ceiniog os bydd Seddon yn cael ei gyflogi. Nawr dylid gwneud y gwaith hwn ar bob cyfrif. Ni ddylid cyflogi Seddon, dim ond prynu ei gynlluniau. Rydym wedi llwyddo i gadw’r ddysgl yn wastad gyda Seddon hyd yn hyn, ac os yn bosibl gadewch i ni wneud y cyfan a allwn i beidio cweryla dros yr Adeilad – fodd bynnag ni allaf weld sut y gellir cyflogi Seddon os ydym i gadw’n iawn gyda’r rhoddwr ac mae’n rhaid gwneud hynny.

 

Dyma oedd diwedd cysylltiad John Pollard Seddon â’r Coleg. Talwyd £25 iddo am ei gynlluniau, ac ym Mawrth 1890 dyfarnwyd y cytundeb i adeiladu’r to i gwmni adeiladu Davies a’i Fab, y Drenewydd, am £417.

 

Ond pwy oedd y W.T. Jones, Melbourne, a dalodd yn hael am nenfwd mewnol addurnedig y Cwad ac a oedd yn erbyn i Seddon gwblhau ei gynllun ailadeiladu?

 

 

O rifyn 26 Awst 1890 y Sporting Standard a oedd yn cynnwys bywgraffiad byr o W.T. Jones fel perchennog ceffylau rasio.

 

Yn ei ‘Letter from Melbourne’ cyntaf a ymddangosodd yn yr Aberystwyth Observer ar 22 Ionawr 1887, dywed An Aberystwythian ei fod yn bwriadu ysgrifennu

 

am lwyddiant nifer o wŷr o Sir Aberteifi yn y trefedigaethau hyn ac nid y lleiaf nodedig ohonynt yw dyn o Aberystwyth o’r enw Mr W.T. Jones, sy’n un o aelodau blaenllaw Cyfnewidfa Stoc Melbourne ac y byddai rhai o fechgyn a oedd yn ysgol John Evans yn y Ffynnon Haearn, cornel Rhodfa Lewis [Ffordd Alexandra heddiw] tua 33 neu 34 mlynedd yn ôl, efallai’n ei gofio.

 

Ac ar ôl sôn ychydig am ysgol John Evans mae’n dychwelyd at W.T. Jones:

 

Nid yw’n bosibl peidio gwybod bod Mr Jones yn Gymro, gan ei bod yn gyffredin iawn iddo pan gyfarfyddai â chyd-Gymro, boed yn gyfoethog neu’n dlawd, yn y stryd, neu lle mae’r ‘marsiandwyr yn ymgynnull’, holi’n sydyn yn Gymraeg sut ydynt. Yn y Gyfnewidfa fe’i hadwaenir fel ‘Cymro twymgalon’, ac os oes yna unrhyw danysgrifiad dyngarol wedi ei gychwyn, ef fydd yno gyntaf fel arweinydd. Mae nifer helaeth wedi elwa o’i haelioni, a’r unig fai rwyf wedi clywed mae pobl yn ei weld ynddo yw nad yw’n ddigon gofalus gyda’i roi; ond tybiaf ei fod yn gweithredu ar yr egwyddor ei bod yn well bod naw dihiryn yn elwa nag un person haeddiannol yn dioddef. Mae heb ei ail fel mentrwr yn y Gyfnewidfa Stoc, a phan fydd yn mentro yn y farchnad ar unrhyw stoc mae pobl yn ei wylio fel petai rhyw Jay Gould neu Vanderbilt wedi mentro. Mae yna gwmnïau mawr eraill yn Melbourne tebyg i un Mr Jones, ond rwyf wedi clywed ei fod ef yn gwneud un o’r busnesau broceriaeth mwyaf – os nad y mwyaf – yn Awstralia, a bod ei weithrediadau masnachol mewn blwyddyn yn fwy na miliwn (£1,000,000). Tipyn o naid o ysgol John Evans, ac ychydig fyddai’r hen ŵr wedi breuddwydio pan oedd yn drilio’r bachgen Jones yn 1851-1852 ei fod yn ei baratoi i fod yn un o gewri Cyfnewidfa Stoc Melbourne. Mae sôn yn y Gyfnewidfa ei fod yn bwriadu mynd adref y flwyddyn nesaf, ynghyd â’i wraig a’i deulu. Ni wn os yw’n wir, ond amser a ddengys.

 

Ac mae’n debyg bod W.T. Jones wedi dod adref, os nad yn 1888 yna yn sicr yn 1889, gan mai yn y flwyddyn honno yr oedd yn bresennol yn y Soiree Dydd Gŵyl Dewi yn yr Hen Goleg pan addawodd £500 ar gyfer to’r Cwad. Roedd yn dal ym Mhrydain yn hwyrach yn y flwyddyn pan fu’n llwyddiannus yn ei fenter rasio ceffylau. Ar 5 Tachwedd 1889, yn ei absenoldeb, enillodd ei geffyl, Bravo, y Melbourne Cup, a 7,237 sofren aur, fel y nodwyd mewn teyrnged iddo ar ôl ei farwolaeth ar 20 Tachwedd 1911:

 

Bu farw ddoe yn Llundain Mr W.T. Jones, y perchennog ceffylau rasio adnabyddus a enillodd y Melbourne Cup yn 1889 gyda Bravo. Roedd Mr W.T. Jones yn fentrwr mwyngloddio cyfoethog a oedd wedi byw yn Lloegr am rai blynyddoedd. Roedd yno pan enillodd ei geffyl y Melbourne Cup ond dychwelodd i Awstralia yn ddiweddarach (The Advertiser, Adelaide, 21 Tachwedd 1911).

 

Ac yn 1896 enillodd Newhaven hefyd, ceffyl roedd W.T. Jones yn cyd-berchennog ohono, y Melbourne Cup. Ond nid y rhain oedd ei unig geffylau. Mewn arwerthiant o geffylau rasio a gynhaliwyd yn stablau Newmarket, Randwick, Sydney, yn Ebrill 1890, ar ôl iddo ddychwelyd i Awstralia, prynodd W.T. Jones dri cheffyl arall, Sinecure, Dreadnaught a Litigant, am gyfanswm o 4,950 gini. A pharhaodd ei ddiddordeb ar ôl dychwelyd i Brydain:

 

Cafodd y diweddar Mr W.T. Jones ei siâr o lwyddiant yn Lloegr fel perchennog ceffylau. Enillodd y ‘glasur’ – yr Oaks yn 1898 – gydag Airs and Grace. Y mis diwethaf roedd Mr Jones yn llwyddiannus gyda Willaura, a ddaeth yn ail ar 10 Tachwedd yn y Liverpool Autumn Handicap (Daily Advertiser, Wagga Wagga, Mercher 22 Tachwedd 1911).

 

Roedd Willaura hefyd ‘wedi cael ei gadw yn arbennig ar gyfer y November Handicap Plate yn Warwick yr wythnos hon.Ond yn dilyn ei farwolaeth penderfynwyd peidio ei redeg’ (Cambrian News, Gwener 24 Tachwedd, 1911).

 

Mae’n amlwg felly bod W.T. Jones yn uchel ei barch fel perchennog ceffylau rasio, gan iddo fod yn ochr Dug Swydd Dyfnaint ym mis Mawrth 1902 yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Tŷ’r Arglwyddi ar fetio. Roedd y Barrier Miner yn un o nifer o bapurau Awstralia a gariodd adroddiad ar hynny: ‘holwyd hefyd William T. Jones, o Fictoria, cyn-enillydd y Melbourne Cup. Dywedodd fod llawer mwy o fetio yn Awstralia nag yn Lloegr. Roedd yr un mor bosibl i atal dŵr rhag llifo ag yr oedd i atal betio yn Awstralia’.

 

Ond sut y daeth y bachgen yma o Aberystwyth y bu angen ymarfer drilio tablau arno yn yr ysgol yn un o brif aelodau Cyfnewidfa Stoc Melbourne a pherchennog llwyddiannus ceffylau rasio?

 

Ychydig iawn sydd wedi ei ysgrifennu am W.T. Jones, a’r canlynol yw’r hyn rwyf wedi llwyddo i’w loffa o adroddiadau ym mhapurau newydd Aberystwyth ac Awstralia yn ystod ei fywyd, ac o’r nifer o deyrngedau a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth. Ac yn ddigon naturiol, ym mhapurau Aberystwyth y dysgwn am ei fywyd cynnar.

 

Ganwyd William Thomas Jones yn Aberystwyth,

 

yn fab i’r diweddar Mr John Jones, a redai fusnes brethynnwr yn yr adeilad lle mae siop bysgod Mr. R Saycell yn y Stryd Fawr yn awr. Roedd yn frawd i’r ddiweddar Mrs Thomas Thomas [Llysteg] Ffordd Caradog, gwraig Mr Thomas Thomas peintiwr, y Stryd Fawr. Cychwynnodd Mr Jones ei yrfa fel morwr, a phan oedd ar fordaith i Awstralia yng nghwmni’r diweddar Gapten Humphreys, harbwrfeistr, gadawodd y ddau eu llong yn Melbourne i geisio’u ffortiwn. Ar ôl dioddef caledi, dychwelodd Capten Humphreys i’w long, ond aeth Mr Jones i Ballarat, ac ar ôl yrfa frith, dechreuodd fusnes llwyddiannus fel brocer stoc (The Cambrian News and Welsh Farmers’ Gazette, 24 Tachwedd 1911).

 

Aeth W.T. Jones i feysydd aur Awstralia fel degau o filoedd o bobl eraill o nifer o wledydd rhwng 1852 ac 1857:

 

tyrrodd 226,00 o entrepreneuriaid i Wlad yr Aur: can mil o Saeson, trigain mil o Wyddelod, hanner can mil o Sgotiaid, wyth mil o Almaenwyr, pedair mil o Gymry, tair mil o Americanwyr, a mil a hanner o Ffrancod. Nid oedd y ganran Gymreig yn enfawr, mae’n wir, ond parodd ddigon o sôn amdani yng Nghymru (Rhiannon Ifans, Awstralia, Gwlad yr Aur).

 

Efallai nad oedd y ganran Gymreig yn enfawr, ond fel ym mhobman arall ar draws y byd, mae’r Cymry wastad wedi gadael marc sy’n llawer yn fwy na’u niferoedd.

 

Am fanylion am ei yrfa frith mae’n rhaid i ni droi at bapurau newydd Awstralia, megis y Kalgoorlie Miner ar gyfer 21 Tachwedd 1911:

 

roedd Mr W.T. Jones yn frodor o Gymru. Daeth i Ballarat pan oedd yn ddyn ifanc, tua dechrau’r chwedegau, ac roedd am gyfnod yn cael ei gyflogi gan Mri Rowlands a Lewis, cynhyrchwyr dŵr awyredig.

 

Cychwyn ei ffortiwn oedd cyfranddaliadau mwyngloddio a roddwyd iddo gan gyfaill oedd wedi blino talu am eu dal, ar yr amod y byddai’n parhau i wneud y taliadau. Fe wnaeth Mr Jones hyn, a chyn pen dim cynyddodd gwerth y cyfranddaliadau o geiniogau i bunnoedd. Yn hapus â’i ffawd, rhoddodd Mr Jones y gorau i’w lety a symud i’r hen Ballarat Corner. Gwnaeth yn dda yn ystod ffyniant Hurdsfield yng Ngorllewin Ballarat, a’r grŵp Ristori o fwyngloddiau yn ardal Allandale o Creswick. Yna aeth i Melbourne ac oddi yno i Loegr lle y trigodd am beth amser. Ar ôl dychwelyd i Awstralia, fe aeth unwaith eto i Gyfnewidfa Melbourne; a rhai blynyddoedd yn ôl dychwelodd eto i Loegr i fyw. Ymhlith ei fuddsoddiadau niferus yn Awstralia mae eiddo tir yn New South Wales.

 

Erbyn 1882 roedd ganddo swyddfa ar y ‘Cornel’ pan ddioddefodd ef a busnesau eraill yno ddifrod o ganlyniad i eira trymach nag arfer i Ballarat fel yr adroddwyd yn The Ballarat Star, Gwener 18 Gorffennaf 1882:

 

Dioddefodd Mr W.T. Jones, y brocer cyfranddaliadau, o ganlyniad i gastiau drwg rhai eneidiau afreolus ar y Cornel. Chwalwyd y ffenestr fawr yn swyddfa Mr Jones yn ddarnau gan belen eira.

 

 

Cornel Ballarat. Yn ystod yr 1860au roedd y cornel hwn ymhlith y canolfannau ariannol prysuraf yn y byd; yn adnabyddus fel Y Cornel, ymgasglai cannoedd o fentrwyr aur, delwyr ac asiantwyr yma gan ymroi yn egnïol i’r fasnach o gyfnewid stoc a mentrau mwyngloddio.

http://ballaratrevealed.com/locations/details/12

 

Ond os nad yw’r adroddiadau hyn yn dweud llawer am y dyn ei hun, mae teyrnged yn Zeehan and Dundas Herald, Tasmania (Iau 23 Tachwedd 1911), yn rhoi ychydig yn fwy o gnawd ar yr esgyrn:

 

Yn ystod ei flynyddoedd cynnar roedd Mr Jones yn gysylltiedig â Ballarat. Yno denwyd ef, a’i bersonoliaeth gryf a’i benderfyniad i lwyddo, at yr un diwydiant a oedd ar yr adeg honno yn cynnig cyfle i’r mentrus. Bwriodd ei hun i fentrau mwyngloddio. Yn fuan roedd wedi casglu digon o arian i ymuno â Chyfnewidfa Stoc Melbourne, lle darganfu’r mentrwyr dewraf yn gyflym iawn fod yna ysbryd mor feiddgar ag unrhyw un wedi ymuno â’u rhengoedd.

 

Ac mae’r Australian yn ychwanegu ychydig yn rhagor o liw i’r darlun:

 

Taflodd ei hun i mewn i ruthr Hurdsfield, ac roedd yng nghanol y mentro yn sgil y darganfyddiadau ysblennydd o aur yn y Berry Lead. Bu’r rhinweddau a ddatblygodd yn Ballarat a Bendigo yn gymorth mawr iddo yn ystod rhuthr Broken Hill.

 

Ond fel y dywedodd An Aberystwythian, roedd mwy iddo na dyn busnes pengaled, ac ar ôl ei farwolaeth canmolwyd hefyd ei waith elusennol:

 

Yn y Gyfnewidfa Stoc gwnaed cyfeiriadau cydymdeimladol at Mr Jones. Dywedodd y cadeirydd (Mr W.R. Roberts), a fu ar un adeg yn gysylltiedig â’r ymadawedig mewn busnes, fod Mr Jones nid yn unig yn ddyn o bersonoliaeth awdurdodol, ond yn un a feddai ar natur elusengar a hael (The Australian, Melbourne. Sadwrn 25 Tachwedd 1911).

Roedd Mr W.T. Jones wedi bod yn aelod o’r “Ystafell” [Cyfnewidfa Stoc Melbourne] er 1881. Felly fe fu yn aelod am 27 mlynedd. Does yn awr dim ond pedwar neu bump aelod a fu yno’n hirach na Mr Jones...Bydd y Gyfnewidfa yn gohirio cyfarfod cyntaf y dydd, er parchus gof i Mr Jones (The Argus, Melbourne. Mawrth 21 Tachwedd 1911).