Parcio i Staff

Gweler yr wybodaeth isod o ran parcio i staff:

Trwyddedau staff

Unwaith y byddwch wedi gwneud cais am hawlen, gellir ei chasglu o dderbynfa Penbryn rhwng 10yb-4yp o dydd Llun i dydd Gwener. 

Bydd trwyddedau a roddir yn parhau i fod yn ddilys hyd nes y clywir yn wahanol. 

Staff Amser-llawn a Rhan-amser

I ofyn am drwydded newydd, mewngofnodwch i'ch cyfrif Pobl Aber , dewiswch eich cyflogaeth, ac yna eich gwybodaeth bersonol, yna dewiswch y tab 'Didyniadau'. 

Noder: Mae staff rhan-amser yn cael eu hystyried yn rhai sy'n gweithio 20 awr yr wythnos neu lai. Bydd gan aelod o staff gontract PA cyfredol ac mae'n gallu darparu rhif cyflogres. 

Staff achlysurol

Os ydych yn perthyn i un o'r  categorïau canlynol, prynwch eigh trwydded drwy'r siop ar-lein:

  • Ar gontract dim oriau;
  • Myfyriwr PhD (derbyn bwrsariaeth);
  • Staff AberWorks; neu
  • Goruchwyliwr arholiadau.

Staff wedi ymddeol, er Anrhydedd neu Emeritws

Os ydych chi'n aelod staff wedi ymddeol, er anrhydedd a/neu emeritws, gallwch brynu trwydded drwy'r siop ar-lein.

Parcio i Staff Anabl

Mae'r Brifysgol yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod anghenion parcio pobl anabl yn cael eu diwallu, er mwyn iddynt allu cymryd rhan llawn ym mywyd gwaith, academaidd a chymdeithasol y Brifysgol.

Deiliaid Bathodyn Glas

Gall deiliaid cofrestredig bathodyn glas barcio mewn mannau parcio i bobl anabl ar y Campws yn rhad ac am ddim. Sicrhewch od eich bathodyn yn ddilys ac yn cael ei arddangos drwy'r amser wrth ddefnyddio'r meysydd parcio. Er na fyddwn yn rhoi trwydded i ddeiliaid bathodyn glas, mae angen i ni wybod pw sy'n parcio ar ein campws; felly, anfonwch e-bost at efastaff@aber.ac.uk gyda'ch Enw, Cyfeiriad, Rhif Cyswllt, Adran, lleoliad gwaith arferol a rhif cofrestru'r cerbyd fel y gallwn ychwanegu eich manylion at ein cronfa ddata.

Deiliaid Bathodyn Glas - (Di - breswyl opsiwn 2)

Mewn amgylchiadau arbennig, gellir cymeradwyo tocyn Prifysgol Aberystwyth ar gyfer unigolion sydd ag anabledd sy'n effeithio ar eu hanghenion parcio, er nad ydynt yn ddeiliaid cofrestredig o'r Bathodyn Glas. Bydd hyn yn amodol ar asesiad gan Gynghorydd Hygyrchedd. Dylai myfyrwyr anfon e-bost at accessibility@aber.ac.uk yn nodi manylion eu cyflwr yn y lle cyntaf. 

Bydd angen anfon y dystiolaeth ganlynol gyda'r e-bost:

  • Prawf bod y myfyriwr yn disgwyl canlyniad ei cais am Fathodyn Glas cofrestredig. Os bydd y cais yn llwyddiannus, bydd angen iddynt ddychwelyd eu tocyn prifysgol i efastaff@aber.ac.uk ar ol derbyn eu Bathodyn Glas cofrestredig.
  • Tystiolaeth feddygol benodol gan weithwr proffesiynol meddygol yn esbonio'r rhwystrau neu'r anghenion sy'n gysylltiedig a'u hanabledd, a sut y byddent dan anfantais sylweddol yng nghyd-destun y brifysgol pe na baent yn cael mynediad at leoedd parcio ar y campws. Mae hyn yn ein helpu i ddeallt natur unigryw'r sefyllfa, a allai fod yn rheswm pam nad oes gan y myfyriwr fathodyn cenedlaethol. 

Cyhoeddir trwyddedau naill ai ar gyfer cyfnod penodol o amser os ystyrir cais am Fathodyn Glas cofrestredig neu ar gyfer hyd cwrs astudio'r myfyriwr. Bydd Cynghorydd Anabledd yn argymell trefniadau parcio ar gyfer y cynod amser priodol. Rhaid i docynnau fod yn ddilys a'u harddangos yn amlwg bob amser wrth ddefnyddio'r meysydd parcio.

Sylwch: Nid oes gan yrwyr sy'n cyd-deithio neu yrwyr enwebedig awdurdod i ddefnyddio cyfleusterau parcio'r Brifysgol. 

Cost trwydded barcio

Lle bynnag y bo'n bosibl, bydd aelodau o staff yn talu am eu trwyddedau trwy eu cyflog, a ddidynnir bob mis. 

Mae taliadau parcio'n cael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Adnoddau a Pherfformiad y Brifysgol ac fe gânt eu hadolygu'n flynyddol. Costau parcio ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 - 2027 yw:

Trwydded Gradd 1 - 3 4 - 6

7+

Staff £5.20 £6.06 £6.93
Cyfyngedig £5.20 £6.06 £6.93
Rhan-amser (gweithio 20 awr neu lai yr wythnos) £2.62 £2.62 £2.62
Beiciau modur £2.60 £3.03 £3.46
Deiliaid Bathodyn Glas Anabl Am ddim Am ddim Am ddim

Lleoliadau meysydd parcio

Gallwch barcio yn yr ardaloedd parcio dynodedig a ddangosir ar  Fap parcio Penglais a Llanbadarn a Map parcio Gogerddan- mae parcio staff wedi'i farcio'n felyn.

Parcio heb drwydded

Bydd unrhyw gerbydau sy'n parcio heb drwydded a thrwy hynny’n mynd yn groes i Reoliadau Parcio'r Brifysgol, yn cael rhybudd yn y lle cyntaf. Os bydd rhywun yn mynd yn groes i’r rheolau am yr eildro, bydd Hysbysiad Tâl Parcio yn cael ei roi ar ffenestr flaen y cerbyd. Pris y tâl hwn yw £80 (gostyngir i £40 os telir y ddyled yn brydlon o fewn 14 diwrnod). I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar Reoliadau Traffig a Pharcio y Brifysgol.

Newid cerbyd

Wrth newid cerbydau, cadwch eich trwydded oherwydd gallwch ei throsglwyddo i'ch car newydd. Mae unrhyw drwydded(au) sydd gennych yn cael eu clustnodi i chi fel unigolyn a gellir ei symud rhwng eich cerbyd(au) cofrestredig yn ôl y gofyn.

Os yw eich trwydded yn wyn ac yn las, cysylltwch â ni ar efastaff@aber.ac.uk neu 01970 621947 gyda'ch manylion cofrestru newydd a byddwn yn gallu diweddaru hon ar eich rhan.

Cofrestru ail gerbyd

Gallwch gofrestru hyd at ddau gerbyd, cyhyd ag mai dim ond un o'r rhain sydd ar y campws ar unrhyw un adeg. Byddai angen arddangos trwyddedau ar y ddau gerbyd bob amser. Gallwch gofrestru eich ail gerbyd drwy e-bostio efastaff@aber.ac.uk neu ffoniwch (01970) 621947 i'n hysbysu o'r rhif cofrestru. Yna bydd trwydded newydd yn cael ei chyhoeddi.

Oriau parcio

Mae cyfyngiadau parcio mewn ardaloedd staff yn berthnasol rhwng 08.00 - 17.30. Y tu allan i'r oriau hyn, gall meysydd parcio staff gael eu defnyddio gan ymwelwyr yn gyffredinol. Mae parcio ar linellau melyn dwbl, croesfannau i gerddwyr ac ardaloedd dosbarthu wedi'i wahardd bob amser.